17. Buchedd Luc

golygwyd gan Alaw Mai Edwards

Buchedd gryno iawn o’r efengylydd. Ceir yr unig lawysgrif o diwedd yr unfed canrif ar bymtheg.

§1

Luc oedd vn o’r pedwar evangelystor1 pedwar evangelystor Sef Mathew, Marc, Luc a Ioan, awduron y pedair Efengyl yn y Testament Newydd. Mae evangelystor yn Gymreigiad o’r Lladin evangelizator ‘efengylydd’. Ceir hefyd yr amrywiad efangelystwr, gw. GPC 1170. a disgybl i Bawl Ebostol2 Pawl Ebostol Paul yr Apostol neu Apostol y Cenhedloedd (gw. Buchedd Paul Ebostol).Mae cyfeillgarwch Luc a Paul yn amlwg yn yr hanes amdano; bu’n gydymaith iddo ar ei deithiau, ‘Luc yn unig sydd gyda mi’ (II Timotheus 4: 11; cf. Actau 16: 10ff.; 20: 5ff., 27–8). Mewn Cymraeg Canol ceid y ffurfiau ebostol ac abostol (diweddarach yw apostol), gw. GPC 173 a ‘Breuddwyd Pawl Ebostol’ o Lyfr yr Ancr (LlA 152–6). a meddic3 meddic Hon yw’r ffurf a geir yn gyson yn y testun hwn er bod y terfyniad -yg/yc hefyd i’w weld mewn Cymraeg Canol. Roedd Luc yn feddyg yn yr ystyr wyddonol yn ôl y traddodiad amdano: cyfeirir ato fel ‘y meddyg annwyl’ yn y Testament Newydd (Colosiaid 4:14). Mae Lewys Glyn Cothi hefyd yn ei alw’n [f]eddyg (GLGC 4.13). Ond cyfeirir hefyd ato fel meddyg yn yr ystyr ysbrydol yn y fuchedd Gymraeg, cf. 9. yr oeddid yn i alw ef. A Phawl Ebostol yn y ddangos a Luc yn yscrifennu pob dysc a gaphai ef gan Bawl.4 yscrifennu pob dysc a gaphai ef gan Bawl Cyfeirir yma at y traddodiad mai gan yr apostolion a chan yr Apostol Paul yn benodol y cafodd Luc y rhan fwyaf o’i ddeunydd i ysgrifennu ei Efengyl a’r Actau (cf. Ryan 2012: 640). Nid ymddengys i Luc fod yn llygad-dyst uniongyrchol i fywyd Crist. Ac o’r achos hwnn fu y alw ef yn veddic, canys yn gynn ebrwydded ac y clywai ef fod vn allan o’r phydd Gatholic, parod fyddai ef y’w troi ef y’r phydd, ac y’w ddwyn i’r iawn5 y’w ddwyn i’r iawn Gall iawnfod yn enw gyda’r ystyr ‘righteousness’ yn Saesneg, cf. LlA 26 ef adylyir pregethv vdunt [y rhai drwg] oe trossi yr yawn. trwy gynghorau1 Ceir blotyn du ar y llawysgrif yma sy’n effeithio llinellau 9–13. a dysc. Ac am hynny y gelwid ef yn veddic.

§2

Mewn dinas ydd oedd a elwid An[ti]och,6 Antioch Prif ddinas Syria a man geni Luc yn ôl y traddodiadau amdano. Cyfeirir yn y Legenda Aurea at sut y llwyddodd Luc i argyhoeddi Cristnogion Antioch – a oedd wedi colli eu ffydd a dan warchae’r Tyrciaid – i adfer eu ffydd yn Nuw, gw. Ryan 2012: 640. Mae’n bosibl mai at hynny y cyfeirir yma, neu gall fod yn gyfeiriad cyffredinol at Luc yn pregethu’r Efengyl yn Antioch, cf. GLGC 4.19–20 Pregethu llyfr Iesu–’n frau / yn Antioch a wnâi yntau ac o achos i fod ef ynn dwyn y bobyl a oeddynt ynghyfyrgoll y lawenydd nef i gellid i alw ef yn feddic da, perphaidda ac a fuassei erioed. Ac ni orfu arno ef ddioddef vn verthyroliaeth,7 merthyroliaeth ‘merthyrdod’. I’r gwrthwyneb i’r hyn a nodir yma, honnir yn rhai o’r traddodiadau am Luc nad marwolaeth naturiol a gafodd ond ei groeshoelio (gw. 11n). Pwysleisia Lewys Glyn Cothi iddo farw heb ddolur ac nad oedd yn ferthyr gan [f]arw’n deg ym mron ei dad (GLGC 4.23–8). namyn marw megis be i bai ef yn kysgu. Ac ef a gladdwyd yn anrhydeddus yn ninas Bethania.8 Bethania Ceir sawl disgrifiad gwahanol o sut a ble y bu farw Luc. Y ddau brif draddodiad yw iddo naill ai marw ym Methania neu yn ardal Boeotia yng Ngroeg. Ni nodir lle yn y Legenda Aurea, ond dyfynnir prolog hynafol i’r ‘Efengyl yn ôl Luc’ gan St Sierôm sy’n dweud mai yn ‘Bithynia’ y bu farw (Ryan 2012: 635). Ond dywedir yn y prologau gwrth-Farcionaidd iddo farw yn 84 oed yn Boeotia (Gregory 2003: 44). Ymddengys felly i’r ddau draddodiad darddu o brologau hynafol Groeg a Lladin. Mae’r Scottish Legendary a’r Festial yn dilyn yr un traddodiad â’r fuchedd Gymraeg (gw. Metcalfe 1891–6: 00 ac Erbe 1905: 00) ac yn ei gerdd i Luc medd Lewys Glyn Cothi, Yn naear Betanïa / ef a roed wrth lyfrau da (GLGC 4.29–30). Pentref ger Jerusalem yw Bethania (ODCC3 197). Cofnodir yn y Testament Newydd mai yno yr oedd cartref Mair, Martha a Lasarus ac i Iesu letya yno cyn y dioddefaint (Mathew 21:17; Marc 11:11–12). Ac oddyno y cyfodwyd y gorph y le a elwir Constantinobl,9 Constantinobl Sylfaenydd Caergystennin oedd Custennin Fawr a wnaeth y ddinas hon yn brif ddinas newydd Ymerodraeth Rufeinig yn 330 (ODCC3 409). Yn yr un flwyddyn adeiladodd eglwys a orffennwyd gan ei fab, Constantius II. Cysegrwyd yr eglwys i’r Apostolion Sanctaidd ac aed ati i gasglu creiriau’r deuddeg apostol er mwyn eu claddu yno. Ymddengys mai creiriau tri sant yn unig y llwyddwyd i’w casglu sef Luc, Timoetheus ac Andrew. Mae’r traddodiad fod Custennin wedi gorchymyn i grair Luc gael ei drosglwyddo yno yn un cydnabyddedig, medd Lewys Glyn Cothi O’i lety y translatiwyd, a’i frifiau, Lug, a’i farf lwyd, / a’i estynnu ’Nghonstinobl / i ar bawb o rywiau bobl (GLGC 4.31–4). ac yno y gwnaeth Duw lawer o wrthiau erddaw ef, ac y cafas pawb a’r a ddelai yno iechyd o bob rhyw glefyd a fai arnaw.

1 pedwar evangelystor Sef Mathew, Marc, Luc a Ioan, awduron y pedair Efengyl yn y Testament Newydd. Mae evangelystor yn Gymreigiad o’r Lladin evangelizator ‘efengylydd’. Ceir hefyd yr amrywiad efangelystwr, gw. GPC 1170.

2 Pawl Ebostol Paul yr Apostol neu Apostol y Cenhedloedd (gw. Buchedd Paul Ebostol).Mae cyfeillgarwch Luc a Paul yn amlwg yn yr hanes amdano; bu’n gydymaith iddo ar ei deithiau, ‘Luc yn unig sydd gyda mi’ (II Timotheus 4: 11; cf. Actau 16: 10ff.; 20: 5ff., 27–8). Mewn Cymraeg Canol ceid y ffurfiau ebostol ac abostol (diweddarach yw apostol), gw. GPC 173 a ‘Breuddwyd Pawl Ebostol’ o Lyfr yr Ancr (LlA 152–6).

3 meddic Hon yw’r ffurf a geir yn gyson yn y testun hwn er bod y terfyniad -yg/yc hefyd i’w weld mewn Cymraeg Canol. Roedd Luc yn feddyg yn yr ystyr wyddonol yn ôl y traddodiad amdano: cyfeirir ato fel ‘y meddyg annwyl’ yn y Testament Newydd (Colosiaid 4:14). Mae Lewys Glyn Cothi hefyd yn ei alw’n [f]eddyg (GLGC 4.13). Ond cyfeirir hefyd ato fel meddyg yn yr ystyr ysbrydol yn y fuchedd Gymraeg, cf. 9.

4 yscrifennu pob dysc a gaphai ef gan Bawl Cyfeirir yma at y traddodiad mai gan yr apostolion a chan yr Apostol Paul yn benodol y cafodd Luc y rhan fwyaf o’i ddeunydd i ysgrifennu ei Efengyl a’r Actau (cf. Ryan 2012: 640). Nid ymddengys i Luc fod yn llygad-dyst uniongyrchol i fywyd Crist.

5 y’w ddwyn i’r iawn Gall iawnfod yn enw gyda’r ystyr ‘righteousness’ yn Saesneg, cf. LlA 26 ef adylyir pregethv vdunt [y rhai drwg] oe trossi yr yawn.

6 Antioch Prif ddinas Syria a man geni Luc yn ôl y traddodiadau amdano. Cyfeirir yn y Legenda Aurea at sut y llwyddodd Luc i argyhoeddi Cristnogion Antioch – a oedd wedi colli eu ffydd a dan warchae’r Tyrciaid – i adfer eu ffydd yn Nuw, gw. Ryan 2012: 640. Mae’n bosibl mai at hynny y cyfeirir yma, neu gall fod yn gyfeiriad cyffredinol at Luc yn pregethu’r Efengyl yn Antioch, cf. GLGC 4.19–20 Pregethu llyfr Iesu–’n frau / yn Antioch a wnâi yntau

7 merthyroliaeth ‘merthyrdod’. I’r gwrthwyneb i’r hyn a nodir yma, honnir yn rhai o’r traddodiadau am Luc nad marwolaeth naturiol a gafodd ond ei groeshoelio (gw. 11n). Pwysleisia Lewys Glyn Cothi iddo farw heb ddolur ac nad oedd yn ferthyr gan [f]arw’n deg ym mron ei dad (GLGC 4.23–8).

8 Bethania Ceir sawl disgrifiad gwahanol o sut a ble y bu farw Luc. Y ddau brif draddodiad yw iddo naill ai marw ym Methania neu yn ardal Boeotia yng Ngroeg. Ni nodir lle yn y Legenda Aurea, ond dyfynnir prolog hynafol i’r ‘Efengyl yn ôl Luc’ gan St Sierôm sy’n dweud mai yn ‘Bithynia’ y bu farw (Ryan 2012: 635). Ond dywedir yn y prologau gwrth-Farcionaidd iddo farw yn 84 oed yn Boeotia (Gregory 2003: 44). Ymddengys felly i’r ddau draddodiad darddu o brologau hynafol Groeg a Lladin. Mae’r Scottish Legendary a’r Festial yn dilyn yr un traddodiad â’r fuchedd Gymraeg (gw. Metcalfe 1891–6: 00 ac Erbe 1905: 00) ac yn ei gerdd i Luc medd Lewys Glyn Cothi, Yn naear Betanïa / ef a roed wrth lyfrau da (GLGC 4.29–30). Pentref ger Jerusalem yw Bethania (ODCC3 197). Cofnodir yn y Testament Newydd mai yno yr oedd cartref Mair, Martha a Lasarus ac i Iesu letya yno cyn y dioddefaint (Mathew 21:17; Marc 11:11–12).

9 Constantinobl Sylfaenydd Caergystennin oedd Custennin Fawr a wnaeth y ddinas hon yn brif ddinas newydd Ymerodraeth Rufeinig yn 330 (ODCC3 409). Yn yr un flwyddyn adeiladodd eglwys a orffennwyd gan ei fab, Constantius II. Cysegrwyd yr eglwys i’r Apostolion Sanctaidd ac aed ati i gasglu creiriau’r deuddeg apostol er mwyn eu claddu yno. Ymddengys mai creiriau tri sant yn unig y llwyddwyd i’w casglu sef Luc, Timoetheus ac Andrew. Mae’r traddodiad fod Custennin wedi gorchymyn i grair Luc gael ei drosglwyddo yno yn un cydnabyddedig, medd Lewys Glyn Cothi O’i lety y translatiwyd, a’i frifiau, Lug, a’i farf lwyd, / a’i estynnu ’Nghonstinobl / i ar bawb o rywiau bobl (GLGC 4.31–4).

1 Ceir blotyn du ar y llawysgrif yma sy’n effeithio llinellau 9–13.