Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

39. Vita Sancti Dubricii (Liber Landavensis / Vespasian A. xiv)

golygwyd gan Ben Guy

Buchedd Gyntaf Samson, a ysgrifennwyd tua 700 neu efallai ychydig yn gynharach, yw’r unig dystiolaeth ddibynadwy sy’n goroesi am fywyd esgob o’r enw Dyfrig (Sowerby 2011: 14–23; cymh. Olson 2017: 15–16). Roedd awdur y testun wedi ymweld â de Cymru, wedi siarad â pherthynas oedrannus Samson ac wedi darllen adroddiad cynharach o’i fywyd, wedi ei ysgrifennu (yn ôl yr honiad) gan gefnder Samson, Henoc. Roedd mewn lle da, felly, i ddysgu gwybodaeth ddilys am hanes eglwysig de Cymru yn y chweched ganrif. Yn ôl ei adroddiad, esgob oedd Dubricius (Dyfrig) a deithiai i fynachdai, fel mynachdy Illtud, i gysegru diaconiaid, offeiriaid ac esgobion (Flobert 1997: 166–73, 208–11 (i.13, i.15, i.43, i.44)). Treuliodd bob Pasg ym mynachdy Piro ar Ynys Bŷr, ac roedd ganddo, yn ôl pob golwg, y pŵer i benodi Samson yn selerydd yno (Flobert 1997: 196–9 (i.33, i.34)). Does fawr o reswm i amau nad yw’r hanes hyn yn cyfleu argraff wybodus o’r fath o weithgareddau yr ymgymerai esgob Prydeinig yn ne Cymru â nhw yn hanner cyntaf y chweched ganrif, ac mae siawns y gallai’r manylion fod yn wir yn achos esgob hanesyddol o’r enw Dyfrig.

Mae’n llai sicr a oedd yr esgob hanesyddol yn wreiddiol yn ganolbwynt cwlt lleol yng ngorllewin Swydd Henffordd, o’r fath y mae Buchedd Dyfrig yn honni ei gofnodi. Mae’r Fuchedd yn ei gysylltu gyda thri lle yn benodol: Madley, man ei eni, a’r lle a wnaed, yn ôl yr honiad, yn eiddo etifeddol (i Ddyfrig?) gan y Brenin Peibio; eglwys Henllan, lle astudiodd gyda’i fyfyrwyr; a Moccas, lle sefydlodd breswylfa ac oratori ac y bu fyw fel mynach am nifer o flynyddoedd. Ceir cyfeiriadau mewn mannau eraill yn Llyfr Llandaf at eglwysi wedi eu cysegru i Ddyfrig ym Madley (VSClitauci(LL/Vesp), §2) a Henllan (LL 275), yn ogystal ag eglwys mewn lle o’r enw Llanwern, wedi ei chysegru, yn ôl pob sôn i Ddyfrig a Theilo (LL 275; Davies 2003: 84–5). Ymddengys y cysegrwyd y ddwy olaf gan Herewald, esgob Morgannwg (1056-1104), yn ystod ail hanner yr unfed ganrif ar ddeg yn y fan gyntaf: Henllan rhwng 1055 a 1063, a Llanwern rhwng 1066 a 1087. Ni cheir unrhyw enwau lleoedd eraill yn dystiolaeth am gwlt Dyfrig, ac ni cheir unrhyw dystiolaeth tu hwnt i Lyfr Llandaf o eglwysi wedi eu cysegru iddo. O ganlyniad, mae ysgolheigion wedi amau iddo fod yn ganolbwynt cwlt dilys cyn ei ail-ddyfeisio fel archesgob Llandaf yn yr unfed ganrif ar ddeg a’r deuddegfed ganrif (Davies 2002: 370–6; 2003: 86). Fodd bynnag, mae’n bosib bod rhywfaint o dystiolaeth yn y fersiwn o Fuchedd Dyfrig sy’n goroesi o Fuchedd gynharach nad ysgrifennwyd er budd Llandaf, ac felly efallai yn tystio i fodolaeth cwlt Dyfrig mewn man arall (Guy 2018).

Mae’r testun Buchedd Dyfrig a olygir yma yn waith cyfansawdd, a gellir ei rannu yn bedair rhan. Dechreua gydag adran a adwaenir fel De primo statu Landauensis ęcclesię (Ynghylch Amgylchiadau Cynharaf Eglwys Llandaf), a amlinella olwg wleidyddol Llandaf ar ddechreuad Cristongaeth ym Mhrydain a sefydlu esgobaeth Llandaf. Gan ddilyn Beda, noda gyrhaeddiad Cristnogaeth ym Mhrydain yn yr ail ganrif, yn dilyn cais Lucius, brenin y Brythoniaid, i’r Pab Eleutherius. Yn ôl y Fuchedd, sefydlwyd esgobaeth Llandaf yn ddiweddarach gan Sant Garmon a Lupus, wedi iddynt ddileu Pelagiaeth o Brydain; cysegrasant Ddyfrig yn archesgob de Prydain (h.y. de Cymru) a sefydlu ei esgobaeth yn Llandaf. Ceir yna ddatganiad o freintiau Llandaf, sy’n adlewyrchu datganiadau tebyg wedi eu hatodi i Fuchedd Teilo ac wedi eu cynnwys ym Muchedd Euddogwy (VSTeliaui(LL), §§20–1; VSOudocei(LL), §4; cymh. Russell 2016). Cyfres o naw siarter yw ail brif ran y testun, o fath tebyg i siarteri eraill Llyfr Llandaf (cymh. Davies 2003: 84). Lleolir bron i bob eiddo a roddwyd i Ddyfrig o gwmpas Ergyng, ardal ei brif eglwysi (gweler y map yn Guy 2018: 13). Y Fuchedd ei hun yw’r drydedd brif ran, yn dechrau gyda genedigaeth Dyfrig gan ei fam Efrddyl, ac yn gorffen gyda’i farwolaeth ar Ynys Enlli. Yn olaf, ceir coda yn disgrifio yn fanwl drosglwyddo corff Dyfrig o Ynys Enlli i Landaf yn 1120 ar orchymyn Urban, esgob Llandaf, a oedd wedi ehangu eglwys Llandaf i baratoi ar gyfer dyfodiad y corff.

Ceir dau gopi o’r testun hwn, yn goroesi yn Llyfr Llandaf ac yn Vespasian A. xiv. Llyfr Llandaf sydd â’r testun gorau, yn enwedig o ran sillafu Hen Gymraeg, ond mae hefyd yn amlwg na chopïwyd testun Vespasian A. xiv o Lyfr Llandaf. Yn hytrach, deillia’r ddau gopi o gynddelw gyffredin. Er hynny, mae’n debygol y crëwyd y gynddelw gyffredin hon yn ystod casglu Llyfr Llandaf, yn yr 1120au neu 1130au cynnar mae’n debyg. Awgrymir hyn gan yr honiad a geir ar ddiwedd y testun yn y ddau gopi bod llythyr gan Ralph, archesgob Caergaint, yn dilyn; ymddengys y llythyr gan Archesgob Ralph yn Llyfr Llandaf, ond nid yn Vespasian A. xiv (Davies 2003: 39). O ganlyniad, mae’n debygol y cyfansoddwyd y testun, yn y ffurf mae’n goroesi yn y ddwy lawysgrif, yn benodol i’w gynnwys yn Llyfr Llandaf.

Yn ei gyfanrwydd, mae’n amlwg cynlluniwyd y testun i gyflwyno hanes unedig sefydlu esgobaeth Llandaf o dan nawdd un o esgobion enwocaf Prydain. Mae’r testun yn penodi Dyfrig yn archesgob gydag awdurdod dros Gymru gyfan, awdurdod a ddangosir trwy ei allu i ddosbarthu swyddi eglwysig i ‘ddisgyblion’ fel Deiniol, esgob Bangor, ac Illtud, abad Llanilltud (§3). Nodir mai Ynys Teithi (yr ynys chwedlonol suddedig rhwng Tyddewi ac Iwerddon mae’n debyg (Jones 1947: 82)) yw ffin orllewinol yr archesgobaeth (§1). Awgryma hyn fod Tyddewi yn rhagesgobaeth yn wreiddiol, statws a gyfleir ymhellach gan gysegriad Ishmael yn olynydd i Ddewi gan Teilo ym Muchedd Teilo (VSTeliaui(LL), §16). Honna Llyfr Llandaf i Landaf golli hanner gorllewinol yr archesgobaeth wreiddiol yn ystod esgobyddiaeth Euddogwy (VSOudocei(LL), §5). Yn bwysig ar gyfer hawliau eiddo Llandaf, rhoddwyd tair prif ganolfan cwlt Teilo (Penalun, Llandeilo Fawr, Llanddowror) i Ddyfrig yn ystod cyfnod ei oruchafiaeth dros dde Cymru gyfan (§13), sy’n egluro meddiant Llandaf ar eiddo mor bell tu hwnt i ffiniau’r esgobaeth. Ffurfia rhannau olaf y testun uchafbwynt priodol i’r hanes o sefydlu esgobaeth Llandaf a bywyd ei esgob cyntaf, oherwydd roedd trosglwyddo creiriau Dyfrig o Ynys Enlli i Landaf yn debygol yn fan cychwyn allweddol ar gyfer ymdrechion Urban i adfywio’r esgobaeth yn y ddeuddegfed ganrif. Fel na fyddai amheuaeth am sancteiddrwydd unigolyn a oedd efallai, cyn hynny, yn ffigwr gweddol anhysbys yn yr eglwys Brydeinig gynnar ac ond yn ganolbwynt cwlt bychan yng ngorllewin Swydd Henffordd, mae’r naratif o drosglwyddo’r creiriau yn cynnwys disgrifiad manwl o’r gwyrthiau amrywiol a ddigwyddodd pan olchwyd esgyrn Dyfrig yn Llandaf cyn ei gladdu (§20).

Mae’n bosib bod y pwyslais ar sancteiddrwydd creiriau Dyfrig a’r diffyg manylder ynglyn â’i weithredoedd tu hwnt i Erygyng yn awgrymu iddo gael ei fabwysiadu gan Landaf fel sylfaenydd yr esgobaeth oherwydd ei anhysbysrwydd cymharol ac felly hyblygrwydd ei ‘yrfa’. Wedi dweud hynny, ni ddyfeisiwyd ei gwlt yn llwyr gan Landaf. Mae’n rhyfeddol nad oes unrhyw gyfeiriad at Landaf yn adran y testun sy’n ffurfio’r ‘Fuchedd’ ei hun (§§14–18). Dechreua’r Fuchedd gyda genedigaeth Dyfrig i fenyw o’r enw Efrddyl, merch Peibio, brenin Ergyng (§14). Dangosa enwau lleoedd eraill yn Llyfr Llandaf mai Efrddyl oedd enw sant arall a anrhydeddwyd yng ngorllewin Swydd Henffordd, ac felly mae’n debyg mai pwrpas honni cysylltiad rhwng Efrddyl a Dyfrig oedd clymu dau gwlt lleol ynghyd (Davies 2003: 79–80). Ganwyd Dyfrig ym Madley, a leolid, yn ôl pob sôn, o fewn ardal o’r enw Ynys Efrddyl. Gwnaed y ddau le yn etifeddol gan y brenin Peibio, yn golygu, mae’n debyg, eu rhoi i Ddyfrig ar gyfer defnydd eglwysig. Yna casgla Dyfrig amrywiol ddisgyblion, ac astudia yn gyntaf yn Henllan ac yna ym Moccas, hefyd yn Ynys Efrddyl (§15). Yna ceir dwy stori am wyrthiau, y gyntaf yn ymwneud â chyfnod Samson fel selerydd yn Llanilltud Fawr (§16), a’r ail yn ymwneud â bwrw allan diafol o gorff Ariannell, merch Guidegentiuai (§17). Yn y pendraw rhy Dyfrig y gorau i’r swyddogaeth eglwysig (ni cheir sôn am ei esgobaeth) ac ymddeol i Ynys Enlli, lle bu farw (§18).

Mae rhyngosodiadau amlwg yn yr hanes hwn, a stori Samson yw’r mwyaf eglur. Mae’r stori hon yn amlwg yn deillio o Fuchedd Samson, y ceir fersiwn ohoni mewn man arall yn Llyfr Llandaf (VSSamsonis(LL)). Cyflwynir y stori gydag adran yn moli gallu Dyfrig i iacháu eraill ‘fel yn yr un esiampl o lawer a adroddaf’, yn ôl y testun. Ond nid yw’r stori am Samson a geir yn syth wedi’r datganiad hwn yn ymwneud â iacháu o gwbl. Am yr esiampl berthanasol rhaid aros am y stori nesaf, sy’n sôn am iacháu Ariannell trwy fwrw allan diafol o’i chorff. Mae’n amlwg, felly, mai rhyngosodiad i’r naratif cynharach yw’r stori am Samson (LWS 63). Yn ogystal, y stori am Samson yw’r unig adran yn y Fuchedd ei hun sy’n galw Dyfrig yn archesgob. Fe’i elwir yn esgob yn hanes ei ymddeoliad i Ynys Enlli, ond mae’n debyg mai rhyngosodiad yw’r adran hon hefyd, gan ei bod yn atgynhyrchu’s disgrifiad o Ynys Enlli a geir ym Muchedd Elgar (a oedd yn sicr yn gynhyrchiad Llandaf) bron air am air (Davies 2003: 127–8). Mae’n debygol bod y rhestr o ddisgyblion Dyfrig yn §15, sy’n clymu llawer o’r cymeriadau eraill a geir ym Mucheddau a siarteri Llyfr Llandaf i sylfaenydd yr esgobaeth, yn drydydd rhyngosodiad (cymh. LWS 67–73; Davies 2003: 81–4). Heb y rhyngosodiadau hyn, hanes a geir o ddyn sanctaidd leol o orllewin Swydd Henffordd, nad oedd yn esgob nac yn gysylltiedig â Llandaf. Mae’n bosib bod y fath hanes yn bodoli, wedi ei gyfansoddi yn yr ardal leol, ac wedi ei ddefnyddio gan gasglwyr Llyfr Llandaf fel sylfaen hanes Dyfrig. Moccas yw lleoliad mwyaf tebygol cyfansoddi’r fath destun. Dyma yw’r unig ardal lle sefydlir eglwys gan Ddyfrig yn yr hanes, a phwysleisir pwysigrwydd dwyfol yr ardal trwy stori’r hwch a’i moch bach, sydd hefyd yn cynnig eglurhad o’r enw Moccas. Er na cheir cyfeiriad arall at eglwys wedi ei chysegru i Ddyfrig ym Moccas yn Llyfr Llandaf, ceir nodyn am Moccas mewn man rhyfedd, yn ymddangos ar ôl De primo statu Landauensis ęcclesię ond cyn y brif gyfres o siarteri. Honna’r nodyn fod y brenin Meurig wedi rhoi Moccas i Landaf, ‘fel y gallo’r mynachdy cyntaf wasanaethu’r llall am byth’ (§4). Er gwaethaf yr honiad hwn, mae’n amlwg bod Moccas yn safle mynachdy pwysig annibynnol oherwydd ymddengys Comereg, abad Moccas, fel tyst mewn dwy o siarteri Llyfr Llandaf, yn dyddio mae’n debyg o ail hanner y seithfed ganrif (LL 163–5; Davies 1979: 104–5; Guy 2018: 30). Mae’n bosib bod Moccas yn ganolfan cwlt Dyfrig ynghynt, cysylltiad yr oedd Llandaf eisiau ei guddio, yn yr un modd ag y gwaharddodd yr atgof o bwysigrwydd blaenorol Llanilltud Fawr (ceir y ddadl hon mewn fwy o fanylder yn Guy 2018).