Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

5. Awdl-gywydd i Ddewi Sant

golygwyd gan Dafydd Johnston

Llawysgrifau

Diogelwyd y cywydd hwn mewn casgliad o gerddi Lewys Glyn Cothi yn Llst 7, llawysgrif o chwarter cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg. Tybir bod y rhan hon o Llst 7 yn gopi o lawysgrif yn llaw’r bardd ei hun (gw. GLGC xxx–xxxi). Copïwyd cerddi Lewys o Llst 7 gan John Davies, Mallwyd yn BL Add 14871 yn 1617, ac mae BL Add 14963 yn gopi o BL Add 14871 gan Owain Myfyr.

Teitl
Ni roddir teitl i’r gerdd yn yr un o’r llawysgrifau.

Rhestr o lawysgrifau
Llst 7, 55–6 (llaw anh., 1505 × c.1530)
BL Add 14871, 330v (John Davies, 1617)
BL Add 14963, 307r (Owen Jones ‘Owain Myfyr’, 1768 × 1799)