Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

19. Moliant i Ddewi

golygwyd gan Eurig Salisbury

Llawysgrifau

Ceir y gerdd hon mewn un llawysgrif yn unig, sef Llst 164, llawysgrif bwysig a ysgrifennwyd rhwng 1586 ac 1613 sy’n cynnwys casgliadau o gerddi gan nifer o feirdd y de-ddwyrain. Ceir ynddi yn llaw Richard Turbeville gasgliad o waith Rhisiart ap Rhys, ynghyd â’i fab, Lewys Morgannwg, ei dad, Rhys Brydydd, a’i ewythr, Gwilym Tew. Fel y dywed Daniel Huws (2004: 19), y tebyg yw fod cerddi Rhisiart a Lewys yn deillio o destunau awtograff, fel yn achos y cerddi o waith Dafydd Benwyn a gopïwyd gan Turbeville yn C 2.277 (c.1606) a J 90 (dechrau’r 16g.). Diddorol cymharu safon y testun presennol ag ymwadiad o fath a ysgrifennodd Turbeville ynghylch safon ei destun yn J 90: ag o gwelwch gam ysgryfenad yndo na diffygion amgen / tybygwch er y vod ef[Dafydd Benwyn] yn brydydd na doedd ef ysgryfynedydd nag ysgwlhaig or goraü / na minaü yn gallü yn hollol wella yr ysgryfenyddiaeth gan vod y papre or gerdd y koppiais i hwnn oddywrthyn yn dywyll ag yn llapre (gw. RWM ii, 56). Tebyg fod anawsterau copïo wedi arwain at rai cymlethdodau yn y testun presennol hefyd (gw. nodiadau llau. 23, 24, 36, 53), ond y mae’n ddigon derbyniol ar y cyfan. Fel yn achos cerddi Lewys Morgannwg yn y llawysgrif, ni chopïwyd cerddi Rhisiart mewn unrhyw drefn arbennig (gw. GLMorg 14–15).

Wrth ymyl pedwar cwpled cyntaf y gerdd yn y llawysgrif, ysgrifennodd Richard Turbeville bedwar cwpled arall, a cheir wrth eu hymyl mewn llaw ddiweddarach y nodyn hwn: cymer y pedwar pennill issod yn lle’r pedwar vchod. Y cwpled ychwanegol cyntaf yn unig sy’n wahanol i’r gwreiddiol:

davydd hollwyr crevydd cred
da n vyniw i danfoned

Yn wahanol i’r cwpled gwreiddiol, agoriad digon cyffredinol i’r gerdd a geir yn y cwpled hwn. Nid yw llinell gyntaf y gerdd, Swrn o dir a siwrnai dyn, ond yn synhwyrol yng ngoleuni diweddglo’r gerdd (gw. llau. 1–2n (esboniadol)). Tybed ai Rhisiart ap Rhys ei hun a ddiwygiodd y testun, gan iddo farnu bod y cwpled gwreiddiol yn rhy ddigyswllt (cf. GG.net 10.2n (testunol))? Yr unig wahaniaeth arall yn y cwpledi ychwanegol yw bod llinellau 5–6 a 7–8 wedi eu cyfnewid, ond ni cheir lle i gredu bod y drefn honno’n rhagori ar drefn wreiddiol y testun yn y llawysgrif.

Teitl
Ni cheir ond teitl moel yn y llawysgrif, I Sanct Dewi , sydd ond yn berthnasol ar gyfer rhan gyntaf y gerdd.

Y llawysgrif
Llst 164, 198‒9 (Richard Turbeville, 1586–1613)