Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

6. Moliant i Ieuan Fedyddiwr

golygwyd gan Dafydd Johnston

Llawysgrifau

Ceir copïau o’r cywydd hwn mewn pedair ar bymtheg o lawysgrifau o chwarter olaf yr unfed ganrif ar bymtheg ymlaen. Y copi cynharaf, mae’n debyg, yw un Thomas Wiliems yn Pen 77. Ceir pum copi yn llawysgrifau Llywelyn Siôn. Awgryma ambell linell fod cyswllt rhwng Gwyn 3, Pen 312 a llawysgrifau Llywelyn Siôn (e.e. llau. 5 a 6), a gwelir olion ailgyfansoddi ym mhob un o’r rheini, yn enwedig Gwyn 3 (e.e. ll. 1). Gellir tybio bod yr holl gopïau’n tarddu o un gynsail yn y pen draw, ond mae lle i gredu bod testun y gynsail honno’n wallus yn llinellau 28 a 36, efallai oherwydd camddeall swyddogaeth Ioan Fedyddiwr fel rhagflaenydd i Iesu Grist. Y copi mwyaf dibynadwy yw un John Davies yn BL 14871, sy’n bur debyg i Pen 77 gan amlaf, a defnyddiwyd y ddau fel prif sail y testun golygedig. Mae LlGC 566 a BL 14963 yn gopïau o BL 14871, ac mae LlGC 8330B a Llst 167 yn gopïau o Gwyn 3.

Teitl
Ni roddir teitl o gwbl yn y rhan fwyaf o’r llawysgrifau, ond ceir ‘Cywydd i Ieuan Fedyddiwr’ gan Lywelyn Siôn a ‘Cywydd i Ioan Fedyddiwr’ yn Gwyn 3.

Rhestr o lawysgrifau
BL 14871, 280v (John Davies, 1617)
BL 14963, 246v (Owen Jones ‘Owain Myfyr’, 1768 × 1799)
C 5.44, 50r (Llywelyn Siôn, cwblhawyd yn 1613)
CM 20, 5 (David Richards, 18g.)
Gwyn 3, 70r (Jasper Gryffyth, c.1600)
Llst 47, 160–2 (Llywelyn Siôn, 16g./17g.)
Llst 134, 80 (Llywelyn Siôn, c.1610)
Llst 167, 337 (Siôn Dafydd Laes, ail hanner yr 17g.)
LlGC 566, 35 (Rowland Lewis, Mallwyd, ar ôl 1623)
LlGC 970E, 97 (Llywelyn Siôn, 1613)
LlGC 8330B, 195 (Lewis Maurice, 1634 × 1647)
LlGC 13061B, 56 (Tomas ab Ieuan, Tre’r Bryn, 1675 × 1700)
LlGC 13071B, 91 (llaw anh., hanner cyntaf yr 17g.)
LlGC 13079, 20 (llaw anh., 16/17g.)
LlGC 21290E, 92 (Llywelyn Siôn, 16g./17g.)
Pen 77, 108 (Thomas Wiliems, c.1576 × 1590)
Peniarth 198, 288 (llaw anh., c.1693 × 1701)
Peniarth 312i, 1 (John Jones, Gellilyfdy, 1610 × 1640)
Stowe 959, 209r (llaw anh., 16g./17g.)