Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

9. Moliant i Fwrog

golygwyd gan Eurig Salisbury

Llawysgrifau

Ceir y gerdd hon mewn wyth o lawysgrifau cymharol gynnar a gopïwyd o fewn cyfnod o ganrif, yn fras, sef rhwng c.1585 ac ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg. Seiliwyd y golygiad ar dystiolaeth pedair llawysgrif, sef C 3.37 (1597–36), C 4.101 (c.1600–14), Gwyn 3 (c.1600) a LlGC 3049D (c.1585–1636).

Ymranna’r llawysgrifau yn ddwy ffrwd sy’n deillio, yn y pen draw, o un gynsail ysgrifenedig, a elwir X1 (stema). Cynrychiola testun Gwyn 3 un ffrwd, a chredir ei fod yn deillio o draddodiad llafar da. Cynrychiolir y ffrwd arall gan dair llawysgrif arall y credir eu bod yn deillio o gynsail ysgrifenedig dda, a elwir X2. Ceir dau gwpled yn Gwyn 3 nas ceid yn X2, ac mae’n sicr fod o leiaf un ohonynt yn ddilys (gw. llau. 13–14n). Ceir trefn wahanol yn Gwyn 3 ac X2 yn llinellau 29–36, ac ymddengys fod safle llinellau 35–6 ychydig yn fwy argyhoeddiadol yn y drefn a geid yn X2 nac yn y drefn a geir yn Gwyn 3 (lle dilynant lau. 27–8, gw. llau. 35‒6n), ac fe ddilynir X2 yn nhestun y golygiad. At hynny, ceir tri darlleniad gwallus yn nhestun Gwyn 3 (llau. 20n, 37n a 44n), ynghyd â rhai achosion tebygol o ddiwygio (2n, 15n, 27n, 34n, 45n, 47n, 50n) ac achosion eraill posibl (5, 26, 31, 35, 48). Fodd bynnag, y tebyg yw iddo ddiogelu o leiaf un darlleniad dilys (54n).

Rhoddwyd y brif flaenoriaeth wrth lunio’r testun i’r llawysgrifau a ddeilliodd o X2. Ceir rhai gwallau amlwg yn C 3.37 (llau. 3, 4, 12, 31), llawysgrif a luniwyd, yn ôl pob tebyg, ar gais Owen Ellis yn Ystumllyn ger Cricieth. Ceir yn ei thestun gwpled arall ar ôl llinell 36 a berthyn i gywydd anolygedig a ganodd Rhys Goch Glyndyfrdwy ar yr un pwnc (gw. Bowen 1953–4: 120): be byw ithel ab ifan / a Rvs ni chae neb i ran. Ceir achresi yn llaw Huw Machno ar ddiwedd y llawysgrif ond, os darllenodd ef erioed destun y gerdd hon yn C 3.37, ni cheir lle i gredu bod y testun hwnnw’n gysylltiedig â’r testunau a geir yn ei law ef yn C 4.101 a LlGC 3049D. Lluniwyd y ddwy lawysgrif hynny, yn ôl pob tebyg, ar gais John Wynn o Wydir ac, ar sail rhai darlleniadau cyffredin, fe gredir eu bod yn deillio o ffynhonnell goll arall, a elwir X3, yn hytrach nac o X2 (llau. 27n, 41n, 46n). Disgrifiwyd Huw Machno gan Daniel Huws (RepWM) fel un â thuedd i ‘gaboli’ ei destunau. Ymddengys i Huw aros yn ffyddlon i X3 wrth gopïo yn LlGC 3049D, ond y tebyg yw fod ei reddf fel bardd wedi mynd yn drech nag ef ar dri achlysur wrth gopïo yn C 4.101 (44n, 51n, 55n). Fodd bynnag, bernir iddo, drwy wneud hynny, adfer dau ddarlleniad cywir.

Y tebyg yw fod X2 ac X3, fel y llawysgrifau a ddeilliodd ohonynt, wedi eu hysgrifennu yn sir Gaernarfon. Diau bod cywydd Rhys Goch Glyndyfrdwy, sy’n rhagflaenu’r gerdd hon yn nwy lawysgrif Huw Machno, i’w gael yn X3, a’r tebyg yw fod cywydd Hywel Cilan i ofyn cymod Gruffudd ap Rhys o Ddinmael (GHC cerdd XXIV), sy’n dilyn y gerdd hon yn C 3.37 ac yn LlGC 3049D (ceir testun yn C 4.101 hefyd), i’w gael yn X2. Ymddengys fod Jaspar Gryffyth wedi ysgrifennu Gwyn 3 pan oedd yn warden Ysbyty Rhuthun. Mae darlleniadau’r pedair llawysgrif ar gyfer llinellau 51 a 55 (gw. y nodiadau) yn awgrymu eu bod i gyd yn deillio yn y pen draw o un gynsail ysgrifenedig, a oedd yn wallus mewn mannau. Mae’n rhesymol tybio bod y testun ysgrifenedig gwreiddiol wedi dod i sylw rhyw ddatgeiniad yn ardal Rhuthun (sef bro’r gerdd, gw. ll. 4), a’i dysgodd ar ei gof a’i ystumio’n raddol wrth ei berfformio, nes iddo ei ailgofnodi ar ei newydd wedd mewn llawysgrif goll a ddaeth i law Jaspar Gryffyth. Ategir y ddamcaniaeth honno gan y ffaith fod testun Gwyn 3 yn ddienw.

Wrth nodi’r ffaith fod yr awdur yn anhysbys yn Gwyn 3, rhoes Jaspar Gryffyth ei farn ar y gerdd: Incerti authris & insulsi ‘awdur ansicr a diflas’. Ac yntau’n Brotestant ‘tanbaid’ a roes farn debyg ar gerddi eraill yn y llawysgrif (gw. Williams 1931: vii), tebyg mai collfarn a geir yma hefyd ar y gred Gatholig sy’n sail i’r gerdd, yn hytrach na’i harddull.

Trefn y llinellau: C 3.37 1–8, [9–10], 11–12, [13–14], 15–32, [+ cwpled, gw. uchod], 33–56; C 4.101, LlGC 3049D 1–8, [9–10], 11–12, [13–14], 15–56; Gwyn 3 1–28, 35–6, 33–4, 29–30, 31–2, 37–56.

Teitl
Ceir y teitl mwyaf cryno yn Gwyn 3 Cywydd i fwrog sant, a’r llawnaf yn C 3.37 kowydd karchorion arhain oedd feib[ion Ieuan] fvchan ab iefan ab adda o bengw[ern]. Ni cheir ond nodiadau plaen yn C 4.101 kowydd ir vn rhyw wyr a LlGC 3049D kowydd ir vn gwyr, yn cyfeirio’n ôl at y gerdd flaenorol yn y ddwy lawysgrif, sef cywydd Rhys Goch Glyndyfrdwy ar yr un pwnc. Ceir wrth frig testun C 4.101 o’r gerdd honno y teitl kowydd i yrv r llevad imofyn am feibion Ienn’ vychan ap Inn’ ap adda, ac wrth destun LlGC 3049D kowydd i feibion Ienn’ vychan ap Ienn’ ap adda a fwrdawyd yn i karchar.

Y llawysgrifau
C 3.37, 37‒9 (anh., 1597‒36)
C 4.101, 140r‒140v (Huw Machno, c.1600‒14)
Gwyn 3, 69v‒70r (Jaspar Gryffyth, c.1600)
LlGC 3049D, 500‒1 (Huw Machno, c.1585‒1636)
⁠LlGC 8330B, 192 (Lewis Maurice, c.1634‒47)
⁠LlGC 9857C, 1r (anh., ail hanner yr 17g.)
⁠Llst 124, 181 (Wiliam Bodwrda, c.1648)
⁠Llst 167, 334 (Siôn Dafydd Laes, ail hanner yr 17g.)