Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

9. Moliant i seintiau Brycheiniog

golygwyd gan Eurig Salisbury

⁠Peniarth 54, 141‒5

Nodiadau
Dyma’r casgliad mawr cynharaf o gerddi’r Cywyddwyr, nifer ohonynt yn llaw’r beirdd eu hunain. Awgryma’r cynnwys fod y llawysgrif wedi ei hysgrifennu yn y de-ddwyrain, o bosibl yng nghartref Ieuan ap Gwilym Fychan yn y Peutun ger Aberhonddu. Mae’r gerdd hon yn un o nifer o gerddi gan Huw Cae Llwyd yn ei law ei hun yn y llawysgrif hon ond, gan fod trefn wreiddiol y dalennau bellach yn anhysbys, nid yw’n eglur ym mha drefn yn union y cofnodwyd y cerddi hynny. Canwyd y gerdd cyn i Huw fynd ar bererindod i Rufain yn 1475, yn ôl pob tebyg dan nawdd Ieuan ap Gwilym Fychan, ac mae’r gerdd nesaf a gopïodd yn y llawysgrif yn olrhain hanes y bererindod honno (gw. MWPSS cerdd 16). Gwnaeth dri chywiriad wrth iddo godi’r testun (gw. llau. 21, 55, 59). Ysgrifennodd linell 51 ddwywaith ar frig y ddalen. Noder bod llinell fertigol yn rhedeg drwy bob D- a ddaw ar ddechrau llinell gyntaf cwpled (gw. llau. 1, 3, 5, 25, 35, 47, 49, 58).


141
Dy dir a gred i dy r groc
Da vroy chenỽid vrycheinioc
Dy gymry nis dỽc amraint
Dlyedus ỽyd ỽlad y saint
5Dygaf rrỽng pedair avon
Dy led a hyd y ỽlad honn
Baedan or vann iar vynỽy
kynon ac irvon a gwy
Tir Selyf trassav haelyon
10ystrad yw henyỽ o honn
Tir y glynn yn treigl ennyd
talgarth o bobparth ir byd
I mae n rraid er mỽyn rradav
ym a chỽi ỽers ym Iachav
15Os y tad an kenhyada
Sỽrn i ddym ar siwrnai dda
I eglwys bedr os medraf
yn i ddydd yno i ddaf

142
keisiaf ym glyỽaf om gỽlad
20gann gynoc ỽynn i ganyad
y y gỽyr donyoc or dinas
Ieuan ar groc ynn yỽ r gras
Mair mihangel ac eluỽ
mathav dec kydymaith duỽ
25Deỽi paỽl da yỽ pevlvn
Domnic byneddic yn vn
Teilo vlldut seint elen
tyvaeloc att villo gỽenn
Margred katrin aeled nonn
30ffraid Iago ỽenffryd eigion
Saint lidnerth an kyfnertho
Saint Silin nev varthin vo
Brynach nikolas kastav
meugan degeman yll dav

143
35Da ỽyr gynydr a gỽeino
Dettv vab da yttiỽ vo
kenav elli kain ỽallỽen
kattỽc simỽnt edmỽnt hen
henỽav saint yỽ hynn o son
40Oed yỽ enỽi y dynyon
Meistri rac vy nodi nol
meistressav ym sy drassol
kenedl ym knaỽdol yma
kreiriav r dyn yỽ karỽyr da
45Ni bo ym gar heb ym gael
nerth hyd rvvain ỽrth dravael
Doda n ỽerth i da dan vn
Dyỽyol ỽeddi n dal vddvn
Da i ỽerin ysdyriaid
50nev ofni r hỽnn a vo n rraid

144
Pỽy a ỽyddyad ond tad dyn
pỽy a ỽyddyad ond tad dyn
peri addaf or priddyn
Ni ỽnai dduỽ ny enỽi ddoedd
ond xdỽedud yntav ydoedd
55ple n tueddir plant addaf
pwl oedd ym ỽybod ple ddaf
Daỽ ynn yn kad yn vn kail
Daỽ ynn l bagad vn bgail
O dduỽ Ieithoedd idd aethan
60atto dduỽ etto i ddan
I ellwng ef ir nefoedd
yn llaỽ ddyn i allwedd oedd
Os gwir yn oes agori
Dryssav nef ym drỽssywn i
65Onid ant o bob kantref
eled vn dros ỽlad nev dref

145
Ni ỽna ar benn vn or byd
neges da ond gwas diwyd
Mynn mair i mae ny mỽryad
70nad a nglyn eneidiav ngwlad
ho’ cae llwyt