Introduction Edited text Manuscripts Cymraeg

23. Moliant i Dydecho

edited by Eurig Salisbury

⁠Oxford, Jesus College, MS 140, 494‒7

Notes
Difficult to read in places and difficult sometimes to distinguish between ‘d’ and ‘t’.

494
kywudd tydycho sant
Mae gwr llwyd yma garllaw
mawl awedd yn aml iddaw
krefyddwr kryf . f... fowddwy
keidwad ar y hollwlad hwy
5tyducho lwys tad vwch law
vn o filwyr nef faelaw
llyna lle bu r gwyrda gynt
llan didoch lle nid ydynt
gegwel heb gel y galwant
10iaith groyw swrn a thegwan sant
abat hael yn bitelu
ai fagl fawr difwgl fu
kar o waed kywir ydoedd
arthur benadur ban oedd
15ni charai ba dreiglai draw
mor llwyd wyr emur llydaw
yno y mynawdd y fawddwy
rhag digyfor y mor mwy
teml awnaeth ynte ymma
20tad oedd y berchen tu da
krefyddwr llafyrwr vu fu
kryf oi weddi yn krefyddu
vn ai welu anwylwas
ar gwrr y glyn y graig las
25dilediach dwyfol ydoedd
a ffais rawn konfessor oedd

495
gyrroedd nid er i garu
maelgwn feirch amilgwn fu
yw porthi agweddi r gwr
30ar y barth yn aberthwr
yno rhoddes dyn rhyddion
ai gyrru fru goriw y fron
semed hwy oll symud lliw
meirch gwynion marchog anwiw
35o bu oerwynt a barrug
yn dewion gryfion or grug
yroedd pan gyrchwyd ir allt
gwrseried grysie eurwall
dug maelgwyn wedu digiaw1 Margin: maelgwyn gwynedd.
40ychen y gwr llen gar llaw
ar ail dudd bu arail dig
y rydoedd geirw yn redig
blaidd llwyd heboludd lledwa r r
ar ol oedd yn llyfnu r ar
45daeth maelgwn ai gwn gwynion
yr graig hwnt ar garreg hon
eisteddodd bu wst addas
vwch i lin ar i llech las
pan godai nid ai ai din
50oddiar garreg wr gerwin
gwaeth maelgwn od gwnn dig oedd
iawn yddo am y wnaeddoedd
danfoned trwy gerdded tro
dodi ychen tyducho
55rhoes ganoes nid rhwysg enwir
nawdd duw dad nedd dod yw dir

496
siwrnai i was drwy swrn o wudd
meilir oi randir vndudd
nid rhudd ym nid rhwydd yma
60dwyn oi dir dynion na da
od a dun a da oi dir
achebyst yr achybir
tiroedd aml nid rhud ymladd
na ffrofi llosgi na lladd
65na syrhau vn or sir honn
on i wnair iawn i wirion
gwnaeth ddynion efryddion fru
y rodio pob tir wedu
a dall a byddar allan
70weled a chlowed wych lan
mwy oedd y gwobrwy heb gel
y dydecho dad ychel
nossau golau heb gilwg
golli trem y gwillied drwg
75pan ddygpwyd tegfedd meddynt
dyrasa gwaith y drais gynt
yn iawn rhoes einion ai wyr
iddo arthbeibio n bybyr
ai chwaer deg by chwerw oi dwyn
80or drin fawr adre n forwyn
nid amod bod a bedyw
yn hir y gwr anrheg yw
nag arddel gam nag orddwy n
na gobr merch nid bwrw mwy

497
85Barwniaid bybur einioes
pab rhyfain y rhain ai rhoes
howell ai gad arn haoedd2 Margin: howel dda.
fab kadell rhybell n y rhodd
breiniau yni bob awr yn ol
90ar rydid mawr gwaredol
pan fu ar i dir luoedd
amkan hyn y bum kant oedd
trech fu wrthie tydecho
ai torfoedd ni ffynoedd ffo
95daliwyd dilydwyd heb ladd
llu am. heb allu ymladd
modd y daliodd diawl meddynt
y brodur bregethwyr gynt
gwan borth a gaffo gorthrech
100gwynf...rhai gan y fo trech
eled bawb or wlad y bo
y duchan at dydecho

dd’ llwyd a lln’ ap g.. ai kant

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

1 Margin: maelgwyn gwynedd.

2 Margin: howel dda.