Introduction Edited text Manuscripts Cymraeg

23. Moliant i Dydecho

edited by Eurig Salisbury

⁠NLW Peniarth 225, 165‒8


165
Cywydh Tydecho Sanct
mae gwr llwyd yma gerllaw
mawl a wedh yn aml ydhaw
crefydhwr cryf o Vowdhwy
ceidwad ar ei hollwlad hwy
5Tydecho lwys tad vwchlaw
vn o vilwyr nxxfxaelaw nef aelaw
llyma lle bu’r gwyrda gynt
llan dudoch lle nyd ydynt
dogwel heb gel y galwant
10iaith groew swrn a Thegwan r Sant
Abbat hael yn batelu
ai vagl vawr divwgwl vu
car o waed cywir ydoedh
Arthur benadur ban oedh
15ny charai ban dreiglai draw
mor llwyd wyr Emyr llydaw
yno yxtynawdh y Vowdhwy
rhag dygyfor y mor mwy
teml a wnaeth ynteu yma
20tad oedh y berchen tuy da
crefydhwr llavurwr vu
cryf ei wedhi’n crefydhu
vn ai wely anwylwas
ar gwrh y glynn ar graig las
25dilediach dwyvawl ydoedh
a phais rawn Confessor oedh
gyrrodh nyd er ei garu
maelgwn veirch a milgwn vu
yw porthi a gwedhi r gwr
30ar y barth yr aberthwr
yno rhodhes yn rhydhion
ai gyrru vry’ gwrh y vron

166
somed hwy oll symvd lliw
meirch gwnion marchoc anwiw
35o bu oerwynt a barruc
yn dewion gryfion or gruc
yr oedh pan gyrchwyd yr allt
gwrserieid grysæ eurwallt1 In the margin beside ll. 37‒8: Maelgwn Gwynedh (with reference to line 39).
dug maelgwyn wedy digiaw
40ychen y gwr llen gerllaw
ar ail dydh bu arial dig
yr ydoedh geirw’n aredig
blaidh llwyd heboludh lledwar
ar ol oedh yn llyfnv’r ar
45daeth maelgwyn ai gwn gwynion
yr graic hwnt ar garrec honn
eistedhodh bv wst adhas
vwch y lann ar y llech las
pan godai nyd ai ei din
50o dhiar garrec wr gerwin
gwnaeth maelgwn od gwn dig oedh
iawn ydho am a wnaedhoedh
danvoned trwy godhet tro
dodi ychen dydecho
55rhoes ganoes nyd rhwysc enwir
nawdh duw dad nodhed yw dir
siwrnai’ was drwy swrn o wydh
milldir oi randir vndydh
nyd rhydh ym nyd rhwydh yma
60dwyn oi dir dynion na da
od a dyn a da oi dir
a chebystr yr achubir
tiroedh aml nyd rhydh ymladh
na phrovi llosgi na lladh

167
65na syrhau vn or Sir hon
ony wnair iawn y wirion
gwnaeth dhynion efrydhion vry
y rodio pob tir wedy
a dall a bydhar allan
70weled a chlywed achlan
mwy oedh y gobrwy heb gel
y dydecho dad vchel
nosav golav heb gilwc
golli trem y gwillieid drwc
75pan dhycpwyd Tegvedh medhynt2 Margin: Tegvedh.
dyrasa gwaith y drais gynt
yn iawn rhoes Cynon ai wyr3 Margin: Cynon.
Idho Arth beibio’n bybyr4 Margin: Garthbeibio.
ai chwaer deg bu chwerw ei dwyn
80or drin vawr adre’n vorwyn
nyd amod bod abedyw5 Margin: Abedyw.
yn hir y gwr anrheg yw
nag ardhel gam na gordhwy
na gobr merch nyd bwrw mwy
85barwnieid bybyr einioes
pap Rhuvain yrhain ai rhoes
Howel ai cadarnhaodh6 Margin: Howel dha.
vap Cadell rhybell vu’r rhodh
breiniav i ni bob awr yn ol
90ar rydid mawr gwaredol
pan vu ar ei dir luoedh
amcan hyn y bvmcant oedh
trech vu wrthiæ Tydecho
ai tarfodh ny phynodh pho

168
95daliwyd dileuwyd eb ladh
llu aml heb allu ymladh
modh y daliodh diawl medhynt
y brodyr bregethwyr gynt
gwan borth a gapho gorthrech
100gwynvyd rhai gan a vo trech
eled bawb or wlad y bo
y duchan at dydecho

dd’ llwyt ap lln’ ap Gr’

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

1 In the margin beside ll. 37‒8: Maelgwn Gwynedh (with reference to line 39).

2 Margin: Tegvedh.

3 Margin: Cynon.

4 Margin: Garthbeibio.

5 Margin: Abedyw.

6 Margin: Howel dha.