Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

2. Canu Tysilio

golygwyd gan Ann Parry Owen

Llawysgrifau

Ceir y copi cyflawn cynharaf o’r gerdd hon yn Llyfr Coch Hergest, J 111, yn llaw Hywel Fychan a’i copïodd 1382×1405. Ceir testun cynharach, ond anghyflawn bellach (llau. 101–242), yn Llawysgrif Hendregadredd, LlGC 6680B, yn llaw alpha, prif law a chynllunydd y llawysgrif a weithiai o ddeutu’r flwyddyn 1300 yn abaty Ystrad-fflur. Bonyn yw ffolio 32 ac mae’r inc wedi treulio’n wael ar rannau o ffolio 33. Ceid barddoniaeth Cynddelw Brydydd Mawr mewn pum plyg yn y llawysgrif, ac yn amser Wiliam Llŷn, yn yr unfed ganrif ar bymtheg, deuai’r plygion hyn ar flaen y llawysgrif, gan adlewyrchu, o bosibl, ei threfn wreiddiol, gw. Jones 2003: 84. Cynhwysai’r plyg cyntaf ganu crefyddol Cynddelw, gan gynnwys can llinell gyntaf Canu Tysilio, ond bellach mae’r plyg hwnnw wedi diflannu (ibid. 86, 120). Nid oes copi o fersiwn Llawysgrif Hendregadredd o Ganu Tysilio mewn unrhyw lawysgrif ddiweddarach.

Gallwn fod yn hyderus fod testun LlGC 6680B a J 111 o’r gerdd yn tarddu yn y pen draw o’r un gynsail gyffredin, gw. Jones 2003: 111–12. Ceir ambell ddarlleniad gwallus sy’n gyffredin i’r ddwy lawysgrif gan awgrymu nad oedd y gynsail honno’n ddi-fai, cf. n61(t) (olud) ac, o bosibl, n58(t) (thraethadurion). Lle mae darlleniadau gwahanol yn LlGC 6680B a J 111, LlGC 6680B sy’n rhagori bron yn ddi-ffael ac mae’n debygol fod y testun wedi dirywio yn y ganrif rhyngddynt (e.e. ll. 206 lle hepgorwyd gair yn J 111).

Yn 1634 cofnododd John Davies, Mallwyd destun o’r gerdd yn LlGC 4973B, llawysgrif sy’n cynnwys, ymysg pethau eraill, gerddi gan Feirdd y Tywysogion o wahanol ffynonellau. Diweddarodd yr orgraff wrth gopïo. Ceir Canu Tysilio mewn bloc bychan o gerddi y credir iddynt gael eu copïo o dudalennau coll o lawysgrif Siôn Dafydd Rhys, Pen 118, gw. Jones 2003: 114 sy’n dilyn Rowland 1983–4: 84–5. Ar frig ei gopi o Ganu Tysilio, nododd John Davies y geiriau Exr p’ Ll. C., sy’n golygu iddo gymharu ei destun ag eiddo’r Llyfr Coch ac yn cadarnhau nad y Llyfr Coch oedd ei ffynhonnell uniongyrchol, gw. Rowland 1983–4: 83. Roedd Siôn Dafydd Rhys yntau’n diweddaru orgraff ei ffynhonnell wrth gopïo cerddi.

Yn Pen 102 ceir copi arall o’r gerdd o hanner cyntaf yr ail ganrif ar bymtheg, wedi ei godi gan Robert Vaughan, ynghyd â phedair cerdd arall gan Feirdd y Tywysogion, gw. Jones 2003: 113–14. Mae’r testun hwn yn arbennig o agos at destun y Llyfr Coch, ac yn aml yn dilyn orgraff y Llyfr Coch. Ni all, felly, darddu o LlGC 4973B neu’r copi a oedd ar un adeg yn Pen 118 gan fod John Daviesa Siôn Dafydd Rhys wedi diweddaru’r orgraff. Ar sail ychydig o ddarlleniadau gwahanol rhwng y Llyfr Coch a Pen 102, meddir yn Jones 2003: 113, ‘awgryma ambell ddarlleniad yn Peniarth 102 sydd yn well nag eiddo’r Llyfr Coch, y gall mai detholiad o ffynhonnell uniongyrchol y Llyfr Coch yn hytrach nag o’r Llyfr Coch ei hun ydoedd’. Fodd bynnag, o gyfyngu’r drafodaeth i destun Canu Tysilio, mae’r dystiolaeth yn awgrymu’n gryf mai’r Llyfr Coch oedd ffynhonnell uniongyrchol y copi yn Pen 102.

Yn y Llyfr Coch, colofn 1165.33 (ll. 33 yn y golygiad), ceir y ffurf Dynyaỽl – gyda minim chwith yr n wedi ei orchuddio gan linell inc sy’n rhedeg i waelod y ddalen gan beri i’r n ymdebygu i a-foliog (nid fel yr a-ddwy-ran sy’n arferol gan Hywel Fychan ac a welir ganddo yn yr un gair). Gw. delwedd. Darlleniad Pen 102 yw dyayawl: darlleniad diystyr, sydd mwy neu lai’n profi mai testun y Llyfr Coch a oedd gan Robert Vaughan o flaen ei lygaid yn Pen 102.

Darlleniad LlGC 4973B yma yw Daearawl, sy’n rhagdybio mai dyna hefyd oedd darlleniad Pen 118. Ai ymgais oedd hwn gan Siôn Dafydd Rhys i wneud synnwyr o’r darlleniad diystyr dyayawl? Tueddai Siôn Dafydd Rhys i gywiro darlleniadau y credai eu bod yn wallus, ac mae’n debygol iawn iddo sylweddoli nad oedd dyayawl yn ddilys. Fel copïydd profiadol, mae’n anodd credu y byddai wedi cael ei gamarwain gan y nam ar ddalen y Llyfr Coch, os y llawysgrif honno oedd ei ffynhonnell, felly mae’n ddigon posibl mai copi Robert Vaughan yn Pen 102 oedd ei ffynhonnell ef.

Ceir darlleniad aneglur arall yn y Llyfr Coch a all daflu goleuni ar y berthynas rhwng y llawysgrifau hyn. O graffu ar y darlleniad aruolyaeth (ll. 18) yn J 111 gwelir nad yw’r o wedi ei chau’n gylch cyflawn, a gellid ei dehongli fel e (gw. delwedd a gthg. yr o yn orned yn y llinell o danodd). O ganlyniad ceir y ffurf ddiystyr arfeliaeth / arvelyaeth yn LlGC 4973B (Pen 118) a Pen 102, gan awgrymu unwaith eto y gall mai Pen 102 oedd ffynhonnell LlGC 4973B (Pen 118).

Yn llinell 38 (J 111, 1165.41) camddarllenodd Robert Vaughan cawdd yn Pen 102 am J 111 cadỽ (unwaith eto mae llinell inc drwy’r gair yn J 111). Gallwn dybio bod Siôn Dafydd Rhys yn Pen 118 wedi dilyn Pen 102 a darllen cawdd (sy’n air dilys, wrth gwrs, ond nid yn un synhwyrol yn y llinell). Wrth godi ei destun o Pen 118, cofnododd John Davies yntau cawdd yn LlGC 4973B. Ond pan aeth ati’n ddiweddarach i gymharu ei destun â thestun y Llyfr Coch ei hun, gwelodd fod y darlleniad yn wallus a chywirodd ei destun: LlGC 4973B cadwdd .

Mae tystiolaeth y gerdd hon, felly, yn awgrymu mai Pen 102, ac nid y Llyfr Coch, oedd ffynhonnell y copi coll yn Pen 118 a gopïwyd yn LlGC 4973B.

Yn sicr, mae John Davies yn LlGC 4973B yn cynnig darlleniadau sy’n rhagori ar destun y Llyfr Coch a Pen 102, ond yn hytrach nag ystyried y darlleniadau hynny’n dystiolaeth o annibyniaeth LlGC 4973B (neu ei ffynhonnell, Pen 118) ar y ddau destun hyn, mae’r darlleniadau, yn hytrach, yn dystiolaeth i alluoedd ysgolheigaidd John Davies a / neu Siôn Dafydd Rhys. Er enghraifft, mae J 111 ragoruam rat ram yn amlwg yn wallus (ll. 12). Fe’i codwyd mwy neu lai yn union fel y mae gan y Robert Vaughan ifanc yn Pen 102 ragor fam rac ram; ond yn LlGC 4973B ceir ragorfan rhag rhan, a’r ysgrifydd profiadol (naill ai John Davies neu Siôn Dafydd Rhys) wedi sylwi bod y darlleniad diystyr yn ffrwyth camgyfrif minimau a chymysgu t ac c, gwallau cyffredin. Tynnir sylw yn y nodiadau isod at ragor o enghreifftiau. Ni welwyd yr un darlleniad yn LlGC 4973B neu Pen 102 y gellid dadlau ei fod yn annibynnol ar destun y Llyfr Coch, ac y mae’r ffaith fod y ddwy lawysgrif hyn yn dilyn darlleniad gwallus y Llyfr Coch yn llinell 120 (yn hytrach na darlleniad cywir LlGC 6680B), gan hepgor y geiriau ym mhlaid, yn tystio ymhellach mai o’r Llyfr Coch y tarddai eu testun o’r gerdd yn y pen draw.

Mae’r holl gopïau eraill o’r gerdd hon yn tarddu o’r llawysgrifau a drafodwyd uchod (gw. stema) ac fe’u hanwybyddwyd at bwrpas y golygiad hwn.

Teitl
J 111 C tyssilyaw yỽ hwnn. Kyndelỽ ae cant.

Rhestr o lawysgrifau
LlGC 6680B ‘Llawysgrif Hendregadredd’, 32r–33v (alpha, c.1300)
J 111 ‘Llyfr Coch Hergest’, col. 1165–9 (Hywel Fychan, 1382×1405)
Pen 102, 26–32 (Robert Vaughan, hanner cyntaf yr 17g.)
Pen 118, 55–62 (Siôn Dafydd Rhys, c.1580–1610)
LlGC 4973B, 155v–160r (John Davies, Mallwyd, 1634)
Card 1.133, 163–74 (Iago ap Dewi, c.1701–22)
Llst 15, 136–41, 153 (Samuel Williams, yn gynnar yn y 18g.)
Llst 145, 66–7 (Moses Williams, yn gynnar yn y 18g.)
Llst 133, ff. 277r–278r, rhif 820 (Samuel Williams, yn gynnar yn y 18g.)
LlGC 1984B [= Panton 15], ff. 239r–246v (Evan Evans, 1757)
Pen 201, 35–45 (Richard Thomas, c.1766)
BL Add 15001, 105v–109v (John Walters, cyn 1792)
Card 4.140, 425–33 (Edward Davies, 1792)
LlGC 13175A, 1–12 (William Owen [-Pughe], 18g./19g.)
BL 14970, 267r–272r (Iolo Morganwg, 1800)