Moliant i Ddewi
golygwyd gan Eurig Salisbury
Llst 164, 168‒9
                                 
                                    Nodiadau
                                    
                                 
                                 Casgliad pwysig o gerddi gan feirdd y de-ddwyrain. Cofnodwyd y gerdd hon gan Richard Turbeville (fl. 1606) fel rhan o gasgliad o waith Rhisiart ap Rhys (tt. 154–200), ond ni ddaethpwyd o hyd i drefn arbennig o fewn y casgliad hwnnw. Ef hefyd a gopïodd gasgliad o waith Lewys Morgannwg (tt. 111–54), mab i Risiart ap Rhys, a chywyddau gan dad y bardd, Rhys Brydydd, a’i ewythr, Gwilym Tew (tt. 200–3), efallai i gyd wedi eu copïo o destunau awtograff. Ychwanegodd Turbeville bedwar cwpled agoriadol amrywiol wrth ochr y pedwar cwpled cyntaf (a barnu wrth y gwahaniaeth yn lliw’r inc, y tebyg yw iddo
                                    wneud hynny’n ddiweddarach). Byrdwn y rhain yw rhoi cwpled newydd yn lle’r cyntaf ac mae’r pedwerydd cwpled wedi ei osod o
                                    flaen y trydydd. Wrth ymyl llinell gyntaf y testun gwreiddiol, ceir y geiriau hyn mewn llaw ddiweddarach: cymer
                                    y
                                    pedwar
                                    pennill
                                    issod
                                    yn
                                    lle’r
                                    pedwar
                                    vchod (ymhellach, gw. y nodiadau testunol). Gwnaeth Turbeville wyth cywiriad, yn ôl pob tebyg wrth iddo godi’r testun (gw. llinellau 10, 13, 26, 32, 41, 51, 54, 58). Ymddengys mai blotiau
                                    inc bychain, yn hytrach na chywiriadau, a welir mewn ambell air, fel 10 diled, 13 pulput a 26 wnaeth.
                                 
                              
                              
                              168
                              I Sanct Dewi
                              Swrn o dir a siwrnau dyn davydd hollwyr crevydd cred
                                 
                              Sain davydd a sy’n dovyn da n vyniw i danfoned
                                 
                              Trideg oedd dy antur di Trideg oedd dy antür di
                                 
                              gyn y dynion gynn deni gan y dynion gyn deni
                                 
                              5dy dad sant gariad gwirion dwr ffons a gaed ar y ffydd
                                 
                              da vo ’ym nerth dy vam Nonn dwyn golwg ir dyn gweilydd
                                 
                              dwr ffons agaed ar y ffydd dy dad sant gariad gwirion
                                 
                              dwyn golwg ir dyn gweilydd da vo ym nerth dy vam Nonn
                                 
                              Ceirw ar Adar oe cerynt
                              10diled gwar i delyd gynt
                              mab marw ae vam ni ’arwein
                              a wnaed yn vyw yn dyn vein
                              pvlput lle na symutir
                              o rad duw yt ar y tir
                              15ni alloedd vn oll ae ddwyn
                              vry a chann vwrw ywch wenwyn
                              gwisg wenn pawb oth garennydd
                              gwr sy’n rhoi’r grawys yn rhydd
                              yth dir ni ddaeth ederynn
                              20a wna twyll i eneid tyn
                              dyw mawrth a vydd da i mi
                              i troes Düw yt ras Dewi
                              dof innav hyd dyf waenol
                              o ddyno dy dduw yn d’ol
                              25dy gob sy dros d ’esgobaeth
                              dwg hyd nef dy gadw a wnaeth
                              dy gennad diwag winwydd
                              dy ras yn vwy dros vn vydd
                              aeth i harri wnaethuriad
                              30aeth lu yn ol vn oth wlad
                              brig clynn i bv’r cylannedd
                              Boea lu caeith y blak hedd
                              dewi dy ras peth di dro
                              dros vn mewn derw sy yno
                              35Mur gwilym ir waew golas
                              merthyr sant am orthy’r sias
                              enill y maes yn llew mein
                              ar lindys daear lvndein
                              
                              169
                              Roe ynys Harri vnwaith
                              40a marw a wnai ’mronn i waith
                              Bedydd cynn bedyddio ’i caf
                              Benn brau vel maibion Briaf
                              Beth gorav alw bath greulawnn
                              gorav lad ar gweryl iawn
                              45ni roe gar lvdd anhvddad
                              Gronwy lwyth er grwnn oe wlad
                              Dinevwr waed y nef vry
                              Dewi eneid a dynny
                              Tynn hen genvigen gwann vydd
                              50a thylodion oth wledydd
                              iacs chwerw vel risg y dderwenn
                              a iach a bawb vwch i benn
                              dwg yn vn ath ehvnan
                              daleith frxeisg dolwyth y fran
                              55dod aliwns ar dud elawr
                              dod er mwyn radav dewr mawr
                              o da syr Rys dwyswr ieith
                              law graelon i loegr eilwxeith
                              Dvg ne Iarll penn digon ym
                              60daw lawlaw dial wilym
                              
                              Risiart ap Rys: 35. C:
                              
                           


