Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

17. Buchedd Luc

golygwyd gan Alaw Mai Edwards

Llawysgrifau

Ceir yr unig fersiwn Gymraeg o’r fuchedd hon yn Llst 34. Perthyn y testun i gasgliad mawr o fucheddau yn Llst 34 a ysgrifennwyd yn llaw Roger Morris, c.1580 x 1600 (gw. RepWM 00). Ni nodir bodolaeth y fuchedd yn RWM ac mae’n bosibl mai’r ffaith ei bod mor fyr yw’r rheswm am hynny ac na welodd y golygydd mohoni. Bernir bod y testun yn gyflawn er mor fyr yw’r fuchedd (gw. Rhagymadrodd) ac mae ei lleoliad yn y llawysgrif yn awgrymu ei bod yn perthyn i gasgliad o fucheddau efengylwyr ac apostolion Crist (fe’i rhagflaenir gan Buchedd Simon a Jwd Apostolion a’i dilyn gan Buchedd Marc Efengyliwr).

Rhestr o lawysgrifau

Llst 34, 169 (Roger Morris, c.1580 x 1600)