Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

43. Moliant i Ddeiniol (Syr Dafydd Trefor)

golygwyd gan Eurig Salisbury

Llawysgrifau

Ceir y gerdd hon mewn pum llawysgrif (stema). Deillia pedwar testun o’r ffynhonnell gynharaf, sef C 2.114 (1564–6), casgliad mawr o gerddi a gofnodwyd gan gopïydd anhysbys (a elwir X51 yn RepWM) ar gyfer Richard ap Gruffudd, ficer Woking, yn llys Rowland Meyrick (1505–66), esgob Bangor (arno, gw. ByCy Ar Lein s.n. Meyrick (Teulu), Bodorgan⁠). Testun tebyg iawn i C 2.114 yw’r un a geir yn llaw Wiliam Bodwrda yn LlGC 3048D (c.1644–50), ond mae tri darlleniad yn rhagori, o safbwynt technegol, ar eiddo C 2.114. Mae’n bosibl fod y darlleniadau hyn yn rhai dilys, a bod testunau LlGC 3048D ac C 2.114 yn deillio o’r gynsail yn annibynnol. Fodd bynnag, mae’n fwy tebygol fod Wiliam, ac yntau’n gopïydd ffyddlon yn ôl ei arfer, wedi codi ei destun o ffynhonnell goll (a elwir X) a oedd yn deillio yn y pen draw o C 2.114, eithr bod copïydd y ffynhonnell honno (a oedd yn fardd, efallai) wedi caboli tair llinell a oedd, yn ei olwg ef, yn dechnegol wallus. Seiliwyd y testun golygedig ar C 2.114, ond ymdrinnir hefyd â phedwar darlleniad arwyddocaol a geir yn LlGC 3048D (gw. nodiadau llau. 6, 7, 26, 59).

Ac eithrio mewn rhai mannau (gw. nodiadau llau. 7, 15, 17, 56), mae testun C 2.114 mewn cyflwr boddhaol, ac nid yw hynny’n syndod o ystyried ei fod wedi ei gofnodi yn llys un o olynwyr yr esgob Ysgefintẃn ym Mangor. Derbyniwyd yn y golygiad yr ychwanegiadau testunol a wnaeth y copïydd, efallai wrth iddo wirio’r gwaith (gw. ll. 10n). Y tebyg yw mai llawysgrif goll oedd ei ffynhonnell, a honno’n gyfoes â’r bardd, ond nid yw’n amhosibl fod y gerdd wedi ei chodi o draddodiad llafar da yn ardal Bangor.

Teitl
Er ei bod yn amlwg o’r testun fod Syr Dafydd Trefor yn cyfeirio at waith adeiladu yn yr eglwys yn bennaf, at blas yr esgob y cyfeirir yn nheitl C 2.114 llyma gowydd i ddeiniel bangor a wnaed pen ydeiliadwyd yr ysgobty yn oedran krisd 1527 (nodir y flwyddyn yn llau. olaf y gerdd). Gall fod y teitl hwn yn seiliedig ar y cyfeiriad at doi’r plas â phlwm yn llinell 64 ond, ac ystyried mai yn yr esgopty, o bosibl, y cafodd y llawysgrif ei chreu yn amser yr Esgob Rowland Meyrick (gw. uchod), ni fyddai’n syndod pe bai’r cof yn fyw yno am y rhan a chwaraeodd yr Esgob Ysgefintẃn yn y gwaith o’i adeiladu ryw ddeugain mlynedd ynghynt (ymhellach, gw. ll. 64n (esboniadol)). Mae’n debyg fod yr wybodaeth a geir yn y teitl a gofnododd Wiliam Bodwrda ar frig ei destun yn LlGC 3048D wedi ei lloffa o’r gerdd: Cow’ i Eglwys Sain Deiniel ym Mangor Fawr pan adeiladodd Escob Tomas Scefington hi o newydd.

Y llawysgrifau
C 2.114, 686‒9 (X51, 1564‒6)
⁠J 139, 293 (X2, c.1630)
⁠LlGC 552B, 39r (anh., 17g.)
⁠LlGC 644B, 147r (X15, canol yr 17g.)
⁠LlGC 3048D, 342 (Wiliam Bodwrda, c.1644‒50)