Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

3. Canu i Ddewi

golygwyd gan Ann Parry Owen

Llawysgrifau

Ceir testun y gerdd hon mewn dwy lawysgrif ganoloesol: Llawysgrif Hendregadredd, LlGC 6680B, wedi ei chopïo yno gan law alpha, prif law a chynllunydd y llawysgrif a weithiai o ddeutu’r flwyddyn 1300 yn abaty Ystrad-fflur; a Llyfr Coch Hergest, J 111, yn llaw Hywel Fychan a’i copïodd 1382×1405. Mae’r holl destunau diweddarach o’r gerdd yn gopïau uniongyrchol neu anuniongyrchol o’r naill lawysgrif neu’r llall, felly anwybyddwyd eu tystiolaeth at bwrpas y golygiad hwn (stema).

Mae testunau’r gerdd yn LlGC 6680B a J 111 yn debyg iawn i’w gilydd, a mwy na thebyg yn tarddu o’r un gynsail (cf. Jones 2003: 111–12). Mae testun J 111 yn fwy gwallus ar y cyfan, a gall hyn awgrymu bod rhagor o lawysgrifau rhyngddi hi a’r gynsail: e.e. ll. 50 J 111 yn doeth am LlGC 6680B yn goeth, ll. 57 garỽynnawỽc am gadỽynaỽc, ll. 79 nysdiolchỽyf am nis dichonwyf, ll. 138 bryst am brydest, ll. 202 a gỽesti ydei am A gỽestua y dewi; hefyd mae llau. 121, 282 yn eisiau yn nhestun J 111. Eto i gyd, mae yna ambell fan lle mae testun J 111 yn rhagori ar destun LlGC 6680B: e.e., ll. 217 J 111 gwythuaỽr … dedueu yn lle LlGC 6680B gwythuaỽr … defeu, ll. 104 J 111 ae eglỽys yn lle LlGC 6680B ae glwys, ll. 235 J 111 noethon yn lle LlGC 6680B nothon. Mae’r achosion hyn yn cadarnhau nad copi uniongyrchol o destun LlGC 6680B a geir yn J 111. Ar y llaw arall, mae ambell wall sy’n gyffredin i’r ddwy lawysgrif, gan awgrymu nad oedd eu cynsail ychwaith yn ddi-fai: e.e. ll. 182 lle ceir arnei yn y ddwy, er mai erni / arni sydd ei angen ar gyfer y brifodl. Mae lle hefyd i gredu nad oedd y gynsail honno yn dangos treigladau meddal yn gyson (gw., e.e., y nodiadau testunol ar lau. 40, 147, 180, 183, 204, 244), ac mai testun ydoedd lle y ceid -d am /dd/ ar ddiwedd gair, ac e am y rhagenw blaen ‘ei’ a hefyd, weithiau, am /ǝ/ (gw., e.e., y nodiadau testunol ar llau. 63, 83, 169).

Yn 1617 gwnaeth John Davies, Mallwyd, gopi ffyddlon o destun LlGC 6680B yn ei ‘Liber A’, sef ei gasgliad o farddoniaeth Beirdd y Tywysogion, BL 14869, a dyma ffynhonnell y copïau o’r gerdd yn Llst 31 (1662) a Pen 119 (c.1700). Wrth i John Davies gymharu testun J 111 yn ddiweddarach â’i gopi ef ei hun yn BL 14869, sylwodd ar rai gwahaniaethau a gwallau yn nhestun J 111, ac ef piau’r rhan fwyaf o’r amrywiadau a’r cywiriadau a geir yn nhestun J 111. Nodwyd y rhain yn y trawsysgrifiad gan ddefnyddio { } a thynnir sylw at sylwadau neu ddileadau arwyddocaol ganddo yn y nodiadau. Hyd y gellir barnu, mae’r copïau o’r gerdd a geir yn Pen 118, Llst 133E, Llst 147, LlGC 1984B a BL 14970 i gyd yn tarddu o destun J 111.

Egwyddor golygyddol: os yw LlGC 6680B a J 111 yn cynnig darlleniadau gwahanol i’w gilydd ac mae’n anodd dewis rhyngddynt, derbynnir darlleniad yr hynaf, sef LlGC 6680B.

Teitl
LlGC 6680B Cānu y dewi Gwynnuart brycheinyaỽc ae cant; J 111 Canu y dewi agant gỽynnuard brecheinyaỽc.

Y llawysgrifau
LlGC 6680B, 79r‒82v (llaw alpha, c.1300)
J 111, col. 1186–92 (Hywel Fychan, 1382x1405)
Pen 118, 55–62 (Siôn Dafydd Rhys, c.1580–1610)
Pen 119, 374–80 (Wiliam Jones, c.1700)
Llst 31, 226–40 (William Maurice, 1662)
Llst 133, rhif 831 (Samuel Williams, yn gynnar yn y 18g.)
Llst 147, 59v–66v (tt. verso yn unig) (Samuel Williams, 1697)
Llst 147, 60r–67r (tt. recto yn unig) (Robert Wynn, 1697)
BL Add 14869, 107/9r–115v (John Davies, Mallwyd, 1617)
BL Add 14970, 236r–242v (Iolo Morganwg, c.1800)
LlGC 1984B (= Panton 15), 271–80 (Evan Evans, 1757)