Dewis nodiadau:
Cyfieithiad:

09. I Ffynnon Llanwenfrewy

Englyn gan Wiliam Llŷn i Ffynnon Gwenfrewy yn Nhreffynnon, sir y Fflint. Dyddiad c.1555 x 1580.

Llyma fan ddi-wan o ddaioni [—]1 Collwyd y gair cyrch yn sgil traul ar ymyl y ddalen. Rhaid mai gair unsill ydoedd, a chynigir hon yn Stephens (1983: 593). Er y gallai’r gynghanedd gytseiniol rhwng y gair cyrch a dechrau’r ail linell fod yn rhyfeddol o lac (CD 277–82), nid yw hon yn taro deuddeg o ran ei gyseinedd â Ffynnon (neu Llan) nac ychwaith o ran ystyr (sylwer mai arfer Wiliam Llŷn yn ei englynion unigol oedd llunio cyseinedd cyflawn yn hynny o beth, gw. Stephens 1983: 590–656). Ymddengys yn fwy tebygol mai cytsain gyntaf Llan (a’r ail gytsain, efallai) a atebid yn y gair cyrch. Mae’r posibiliadau’n niferus.
Ffynnon Llan Wenfrewi,1 Y ffurf gynharaf ar yr enw yn Gymraeg yw Treffynnon (1329) ac yn Saesneg Haliwel (1093), ond tystir i’r ffurf Llanwenfrewy yn 1590 ac roedd Ffynnon Wenfrewy yn ffurf arall (Owen and Morgan 2007: 197; Richards 1998: 110–11). Tebyg mai cyfuniad o’r ddwy ffurf olaf a geir yma.2 Er mai’r ffurf arferol wenfrewy a geir yn y llawysgrif (cf. 46.1, 51, 55, 58, 63, 69, 73, 77), fe’i haddaswyd yma yn unol â’r brifodl.
Dwys waith barch Duw sy i’th3 Diwygir iw y llawysgrif. Cwbl anarferol fyddai th berfeddgoll, a sylwer mai yn yr ail berson y cyferchir y ffynnon (neu Wenfrewy ei hun) yn y llinell olaf. berchi,
A Duw a’th fendigodd di.2 Llinell wythsill oni chywesgir sy i’th yn unsill.

Dyma fan grymus o ddaioni [—]
Ffynnon Llanwenfrewy,
parch diorffwys Duw sy’n dy anrhydeddu,
a Duw a’th fendithiodd di.

1 Y ffurf gynharaf ar yr enw yn Gymraeg yw Treffynnon (1329) ac yn Saesneg Haliwel (1093), ond tystir i’r ffurf Llanwenfrewy yn 1590 ac roedd Ffynnon Wenfrewy yn ffurf arall (Owen and Morgan 2007: 197; Richards 1998: 110–11). Tebyg mai cyfuniad o’r ddwy ffurf olaf a geir yma.

2 Llinell wythsill oni chywesgir sy i’th yn unsill.

1 Collwyd y gair cyrch yn sgil traul ar ymyl y ddalen. Rhaid mai gair unsill ydoedd, a chynigir hon yn Stephens (1983: 593). Er y gallai’r gynghanedd gytseiniol rhwng y gair cyrch a dechrau’r ail linell fod yn rhyfeddol o lac (CD 277–82), nid yw hon yn taro deuddeg o ran ei gyseinedd â Ffynnon (neu Llan) nac ychwaith o ran ystyr (sylwer mai arfer Wiliam Llŷn yn ei englynion unigol oedd llunio cyseinedd cyflawn yn hynny o beth, gw. Stephens 1983: 590–656). Ymddengys yn fwy tebygol mai cytsain gyntaf Llan (a’r ail gytsain, efallai) a atebid yn y gair cyrch. Mae’r posibiliadau’n niferus.

2 Er mai’r ffurf arferol wenfrewy a geir yn y llawysgrif (cf. 46.1, 51, 55, 58, 63, 69, 73, 77), fe’i haddaswyd yma yn unol â’r brifodl.

3 Diwygir iw y llawysgrif. Cwbl anarferol fyddai th berfeddgoll, a sylwer mai yn yr ail berson y cyferchir y ffynnon (neu Wenfrewy ei hun) yn y llinell olaf.