Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

Moliant i Sain Nicolas

golygwyd gan Dafydd Johnston

Llawysgrifau

Diogelwyd y cywydd hwn mewn casgliad o gerddi Lewys Glyn Cothi yn Llst 7, llawysgrif o chwarter cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg. Tybir bod y rhan hon o Llst 7 yn gopi o lawysgrif yn llaw’r bardd ei hun (gw. GLGC xxx–xxxi). Copïwyd cerddi Lewys o Llst 7 gan John Davies, Mallwyd yn BL 14871 yn 1617, ac mae BL 14963 yn gopi o BL 14871 gan Owain Myfyr.

Teitl

Ni roddir teitl i’r gerdd yn Llst 7. Y teitl yn BL 14871 yw I Sant Niclas.

Rhestr o lawysgrifau

Llst 7, 59–60 (llaw anh., 1505 × c.1530)

BL 14871, 264v (John Davies, 1617)

BL 14963, 245r (Owen Jones ‘Owain Myfyr’, 1768 × 99)

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Cymru / University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic StudiesPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant / University of Wales Trinity Saint DavidPrifysgol Caergrawnt / University of Cambridge
© 2023-2025 If you would like more information about the project, or have comments on our work, please contact us at saints@saints.wales