Dewis nodiadau:
Cyfieithiad:

07. Moliant i Sain Nicolas

golygwyd gan Dafydd Johnston

Moliant i Sain Nicolas gan Lewys Glyn Cothi. Dyddiad c.1447 × c.1489.

Wrth esgob1 Yn ôl traddodiad Nicolas oedd esgob Myra yn Lycia (de-orllewin Twrci heddiw). mae fy ngobaith,
Wrth Dduw mawr a’i wyrthiau maith.
Sain Niclas hael sy’n cael swydd,
Sin aur y sy’n ei arwydd.2 Un o arwyddion Nicolas oedd tri chydaid o aur, sef y gwaddol a roes i dair merch i’w cadw rhag mynd yn buteiniaid (llau. 11–20).
5 Mwnt Nicoláus, mae’n dŷ clyd,
A bu yno ’n ei benyd,3 Yn ôl traddodiad yr Eglwys Uniongred, aeth Nicolas ar bererindod i’r Tir Sanctaidd a bu’n byw gyda mynachod mewn ogof ar fynydd uwchlaw Bethlehem, lle saif eglwys Uniongred wedi’i chysegru i Nicolas yn Beit Jala heddiw.
A phregethu y bu i’r1 bu i’r Llst 7 bu r, BL 14871 bu i’r. Hepgorwyd y geiryn rhagferfol y yn BL 14871 er mwyn cadw saith sillaf, ond gellir cymryd bod yr arddodiad yn cael ei geseilio yma, fel yr awgryma darlleniad Llst 7. byd
Ffydd lân, ffydd ddwywol ennyd,
I’r mynydd wŷr a’u maenawr
10Ar fodd Ferwna 4 Ferwna Efallai mai tref Verona yng ngogledd yr Eidal a feddylir, ond nid yw’n glir pam y cyfeirir at y dref honno yma. fawr.2 Mae’r llinell yn fyr o sillaf ac yn wallus ei chynghanedd yn Llst7. Ceisiwyd ei chywiro yn BL 14871 trwy ychwanegu oer cyn fawr, a derbyniwyd y darlleniad hwnnw yn GLGC, ond mewn gwirionedd nid yw’r synnwyr yn foddhaol am fod oer yn ychwanegu elfen negyddol annisgwyl. Gellid cywiro trwy ychwanegu n yn rhan gyntaf y llinell, e.e. Ar un fodd, neu Un fodd â, ond ni fyddai sail ddigonol i hynny, felly penderfynwyd gadael y llinell fel y mae yn Llst 7.


Cyntaf gwyrth o’r cnawd dof gŵyl
A wnaeth yno’n waith annwyl:3 Mae diwedd y llinell yn annarllenadwy yn Llst 7 ar ôl nwa, felly dilynwyd BL 14871 ar gyfer waith annwyl.
Tair merched ag a gredynt5 Dyma un o wyrthiau enwocaf Nicolas. Roedd dyn yn ceisio gorfodi ei dair merch i fynd yn buteiniaid, am ei fod yn rhy dlawd i fforddio’r gwaddol angenrheidiol iddynt briodi, a rhoes Nicolas dri chydaid o aur yn ddirgel iddo er mwyn i’r merched allu priodi. Gweler Jones 1978: 53–8.
I wraig a oedd o ŵr gynt;
15Yno yr4 Mae dechrau’r llinell yn annarllenadwy yn Llst 7, a chymerwyd yno yr o BL 14871. oedd yn ŵr iach,
yntwy’n dlawd, yntau’n dlodach,
A’r5 Mae llythyren gyntaf y llinell yn annarllenadwy yn Llst 7, a chymerwyd A o BL 14871. tad a erchis i’r tair
Draw’n ieuainc droi’n anniwair,
A gras Sain Niclas a’i nawdd
20Rhag gwŷd yn wyry a’u cadwawdd.
Gwnaeth Niclas o’r cwmpas call
Werth aur o wyrth i arall:
Yr oedd gwraig a roddai gri,
A byw oedd un mab iddi;6 Ni nodir y wyrth hon yn y Legenda Aurea na’r fuchedd Gymraeg, ond roedd yn stori ddigon hysbys am fam a oedd wedi mynd i wasanaeth sefydlu Nicolas yn esgob gan adael ei mab mewn pair o ddŵr ar y tân, gweler Jones 1978: 231.
25Honno a roes ei hunan
Bair a dŵr a’i mab ar dân,
A’r wraig ar ôl Nicolas
Eglur aeth i gael ei ras;
Y pair lle’r aeth ei mab hi
30Ef a yrrwyd i ferwi,
a’r mab bychan yn lanach
Efo a aeth yn fyw iach.
Tri ’sgolhaig fal tair osgl hydd,7 Roedd y stori hon hefyd yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol, er nas ceir yn y Legenda Aurea na’r fuchedd Gymraeg. Roedd cigydd wedi lladd tri myfyriwr (plant mewn fersiynau eraill) gan fwriadu gwneud cig o’u cyrff, ac atgyfodwyd y tri gan Nicolas; gweler Jones 1978: 247–51.
Ac un gwag gwan o gigydd
35A’u lladdodd ag arf lliwddur
A’u cuddiaw’n borc iddo’n bur;
Gwnaeth Niclas wedy’r sias hon
Yn fyw eleirch nefolion,
A gras a roed drwy’r groes rydd
40I’r wraig hagr ac i’r cigydd.6 cigydd Mae sillaf olaf y gair yn annarllenadwy yn Llst 7, ond cadarnheir darlleniad BL 14871 gan yr odl.
Nicolas benáig gwyliau
Wrtho a wnaeth wyrth yn iau:
Pryd nawn yr ymprydiai’n ôl
Yn ei grud yn gariadol;
45Ac ef yn fab cysefin,
Bron ei fam bêr yn ei fin
Nid âi Wener ond unwaith,8 Honnir yn y Legenda Aurea fod Nicolas yn arfer ymprydio pan yn faban trwy gymryd y fron unwaith yn unig ar ddydd Mercher a dydd Gwener; yn ôl y fuchedd Gymraeg gwnâi hynny ar ddydd Sadwrn hefyd. Gweler Jones 1978: 50–1.
Nid âi Fercher gwe . . .7 Ni chwblhawyd y llinell yn Llst 7 na BL 14871.


Mi a alwaf â moliant
50 Nicolas Sain Niclas sant.
Cyda Duw un ceidwad oedd
Ar dir mawr a dŵr moroedd.8 moroedd Ceir moredd yn Llst 7 a BL 14871, ond rhaid diwygio er mwyn yr odl. 9 Ceir nifer o straeon am Nicolas yn achub pobl a oedd mewn trafferth ar y môr, ac ef oedd nawddsant y morwyr, gweler Jones 1978: 24–8.
Eiriol ar Saint Nicolas
Oedd raid i’r enaid am ras.
55Gras Sain Nicolas os caf
Difaddau Ddyddbrawd fyddaf.
Ni ad Sain Niclas yn ôl
Enaid ufydd un dwyfol.
Sain Niclas wedy’r fas fau
60A fo’n dwyn f’enaid innau.

Mae fy ngobaith mewn esgob,
ac yn Nuw mawr a’i wyrthiau parhaus.
Sain Nicolas hael sy’n cael swydd,
symbol aur sydd yn ei arwydd.
5Mynydd Nicolas, mae’n dŷ clyd,
ac yno y bu yn ei benyd,
a phregethu y bu i’r byd am gyfnod
ffydd bur, ffydd dduwiol,
i wŷr y mynydd a’u hardal
10yn null Verona fawr.


Y wyrth gyntaf a wnaeth yno
yn waith caredig o’r cnawd tyner gwylaidd:
tair merch Gristnogol gynt
a oedd i wraig gan ŵr;
15yno yr oedd hwnnw’n ŵr iach,
hwythau’n dlawd, ac yntau’n dlotach,
a’r tad a ofynnodd i’r tair merch ifanc
droi’n buteiniaid draw,
a gras Sain Nicolas a’i nawdd
20a’u cadwodd rhag pechod yn wyryfon.
Gwnaeth Nicolas o’r helaethrwydd doeth
wyrth dros rywun arall a oedd yn werth aur:
roedd gwraig a oedd yn cwyno,
ac roedd ganddi un mab yn fyw;
25rhoddodd y wraig ei mab ei hun
mewn pair o ddŵr ar y tân,
ac aeth y wraig at Nicolas disglair
i geisio cael ei ras;
cynheswyd y pair lle’r aeth ei mab hi
30nes bod y dŵr yn berwi,
a daeth y mab bychan allan
yn fyw iach ac yn burach.
Roedd tri bachgen ysgol fel tair osgl hydd,
ac un cigydd drwg a gwan
35a’u lladdodd ag arf o liw dur
a’u cuddio’n gig pur iddo’i hun;
ar ôl yr helynt hwn gwnaeth Niclas
yr eleirch duwiol yn fyw eto,
a rhoddwyd gras drwy’r groes rydd
40i’r wraig hyll ac i’r cigydd.
Gwnaeth Nicolas, pennaeth y gwyliau,
wyrth arall pan oedd yn iau:
byddai’n ymprydio yn ystod y prynhawn
yn ei grud yn annwyl;
45ac yntau’n faban bach,
ni fyddai bron ei fam bêr yn mynd yn ei geg
ond unwaith ar ddydd Gwener,
na chwaith ddydd Mercher . . .


Mi a alwaf â moliant
50Nicolas yn Sain Niclas sanctaidd.
Ceidwad oedd gyda’r un Duw
ar dir mawr ac ar y moroedd.
Rhaid oedd i’r enaid
ymbil ar Sain Nicolas am ras.
55Os caf ras Sain Nicolas
byddaf yn gadwedig ar Ddydd y Farn.
Ni fydd i Sain Nicolas adael ar ôl
yr un enaid gostyngedig a duwiol.
Boed i Sain Nicolas
60ddwyn fy enaid innau wedi fy marwolaeth.

1 Yn ôl traddodiad Nicolas oedd esgob Myra yn Lycia (de-orllewin Twrci heddiw).

2 Un o arwyddion Nicolas oedd tri chydaid o aur, sef y gwaddol a roes i dair merch i’w cadw rhag mynd yn buteiniaid (llau. 11–20).

3 Yn ôl traddodiad yr Eglwys Uniongred, aeth Nicolas ar bererindod i’r Tir Sanctaidd a bu’n byw gyda mynachod mewn ogof ar fynydd uwchlaw Bethlehem, lle saif eglwys Uniongred wedi’i chysegru i Nicolas yn Beit Jala heddiw.

4 Ferwna Efallai mai tref Verona yng ngogledd yr Eidal a feddylir, ond nid yw’n glir pam y cyfeirir at y dref honno yma.

5 Dyma un o wyrthiau enwocaf Nicolas. Roedd dyn yn ceisio gorfodi ei dair merch i fynd yn buteiniaid, am ei fod yn rhy dlawd i fforddio’r gwaddol angenrheidiol iddynt briodi, a rhoes Nicolas dri chydaid o aur yn ddirgel iddo er mwyn i’r merched allu priodi. Gweler Jones 1978: 53–8.

6 Ni nodir y wyrth hon yn y Legenda Aurea na’r fuchedd Gymraeg, ond roedd yn stori ddigon hysbys am fam a oedd wedi mynd i wasanaeth sefydlu Nicolas yn esgob gan adael ei mab mewn pair o ddŵr ar y tân, gweler Jones 1978: 231.

7 Roedd y stori hon hefyd yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol, er nas ceir yn y Legenda Aurea na’r fuchedd Gymraeg. Roedd cigydd wedi lladd tri myfyriwr (plant mewn fersiynau eraill) gan fwriadu gwneud cig o’u cyrff, ac atgyfodwyd y tri gan Nicolas; gweler Jones 1978: 247–51.

8 Honnir yn y Legenda Aurea fod Nicolas yn arfer ymprydio pan yn faban trwy gymryd y fron unwaith yn unig ar ddydd Mercher a dydd Gwener; yn ôl y fuchedd Gymraeg gwnâi hynny ar ddydd Sadwrn hefyd. Gweler Jones 1978: 50–1.

9 Ceir nifer o straeon am Nicolas yn achub pobl a oedd mewn trafferth ar y môr, ac ef oedd nawddsant y morwyr, gweler Jones 1978: 24–8.

1 bu i’r Llst 7 bu r, BL 14871 bu i’r. Hepgorwyd y geiryn rhagferfol y yn BL 14871 er mwyn cadw saith sillaf, ond gellir cymryd bod yr arddodiad yn cael ei geseilio yma, fel yr awgryma darlleniad Llst 7.

2 Mae’r llinell yn fyr o sillaf ac yn wallus ei chynghanedd yn Llst7. Ceisiwyd ei chywiro yn BL 14871 trwy ychwanegu oer cyn fawr, a derbyniwyd y darlleniad hwnnw yn GLGC, ond mewn gwirionedd nid yw’r synnwyr yn foddhaol am fod oer yn ychwanegu elfen negyddol annisgwyl. Gellid cywiro trwy ychwanegu n yn rhan gyntaf y llinell, e.e. Ar un fodd, neu Un fodd â, ond ni fyddai sail ddigonol i hynny, felly penderfynwyd gadael y llinell fel y mae yn Llst 7.

3 Mae diwedd y llinell yn annarllenadwy yn Llst 7 ar ôl nwa, felly dilynwyd BL 14871 ar gyfer waith annwyl.

4 Mae dechrau’r llinell yn annarllenadwy yn Llst 7, a chymerwyd yno yr o BL 14871.

5 Mae llythyren gyntaf y llinell yn annarllenadwy yn Llst 7, a chymerwyd A o BL 14871.

6 cigydd Mae sillaf olaf y gair yn annarllenadwy yn Llst 7, ond cadarnheir darlleniad BL 14871 gan yr odl.

7 Ni chwblhawyd y llinell yn Llst 7 na BL 14871.

8 moroedd Ceir moredd yn Llst 7 a BL 14871, ond rhaid diwygio er mwyn yr odl.