Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

08. Moliant Simon a Jwd

golygwyd gan Dafydd Johnston

Rhagymadrodd

Roedd Simon a Jwd yn ddau o’r deuddeg apostol a restrir yn y Testament Newydd. Ceir buchedd Gymraeg iddynt yn Llst 34, llawysgrif a gopïwyd gan Roger Morris c. 1580x1600. Mae gweithredoedd y ddau sant a adroddir yn y cywydd hwn yn cyfateb yn bur agos i gynnwys rhan gyntaf y fuchedd honno (adrannau 1-4), sef eu gwaith yn trechu’r ddau ddewin o Bersia, achub Effrosius a gamgyhuddwyd o genhedlu plentyn trwy beri i’r baban lefaru, a’r delwau’n llefain pan ddaeth y seintiau i ddinas Samany. Cyfatebiaeth arwyddocaol rhwng y gerdd hon a’r fuchedd Gymraeg yw’r enw Effrosius, nas ceir ym muchedd Ladin y Legenda Aurea. Y tebyg yw bod Lewys Glyn Cothi yn gyfarwydd â fersiwn cynnar o’r fuchedd Gymraeg. Ar y traddodiadau am Simon a Jwd gweler rhagymadrodd y fuchedd. Bardd o sir Gaerfyrddin oedd Lewys Glyn Cothi, a gall fod yn arwyddocaol mai yn Llanddeusant yn y sir honno y mae’r unig eglwys yng Nghymru sydd wedi ei chysegru i Simon a Jwd.

Dyddiad

Ni ellir dyddio’r gerdd yn fanylach na chyfnod gweithgarwch Lewys Glyn Cothi, sef c. 1447–c.1489.

Golygiad blaenorol

GLGC cerdd 5.

Mesur a chynghanedd

Cywydd, 56 llinell. Cynghanedd: croes 52% (27 ll.), traws 23% (12 ll.), sain 13% (7 ll.), llusg 12% (6 ll.). Diystyrwyd y tair llinell anghyflawn (18, 48 a 54) a’r un ddigynghanedd, sydd o bosibl yn llwgr (51), ar gyfer y dadansoddiad hwn. Gwelir y bai ‘crych a llyfn’ yn ll. 50 (gw. nodyn).