Moliant i Ddewi (Dafydd Llwyd Mathafarn)

golygwyd gan Eurig Salisbury

⁠Peniarth 77, 290‒3

Nodiadau
Casgliad o destunau llenyddol yn llaw Thomas Wiliems. Gwnaeth Thomas ddau gywiriad i’r testun (gw. llau. 12 a 34).



290
ODl Dewi
Dewi cyn d’eni cad ordeiniaw man
Mynyw ith weddiaw
a phatric aeth i drigaw
o vynyw dros yr hafn draw
5Ban ddoeth Nonn ir deml vvn ddiwair veichioc
o dwysoc dewisair
aeth y prelat oi gadair
eb allv pregethû gair
Dûw ath ddonies ar y dydd ith aned
10pan ith enwyd Davydd
rhoist ir dall rhyw ystyr dydd
ei drem eb ddim godryemydd
Rhann or dorth gann ar ginio a lewaist
oedd le eb wenwyno
15ath ci cyn torri vn tro
ath vran aeth i varw yno
Bleûddydd a wnaeth bennaeth bûdd
yr ennaint ynddi rinwedd
i gael adwyth or gwledydd
20bendigaist hyd ban digiodd
y dwfr praff difai ar pridd
er iechyd ir bydd y Badd
Er dy vagv yn gv yn oed gwr o grefydd
cyn gryfed a milwr
25ansodd ni mynodd meinwr
ni bv raid ond bara dwr
y ddoe[.]dd ith bregeth ryw ddydd ith ganmol
wyth vgeinmil ddavydd
doeth hyddod o gysgod gwydd
30draw i wrandaw yr vndydd


291
Cof ydyw yn ol cyfodi yn wir
dan oror Cwm brevi
yn dir tew dan dy draed ti
yn ddaear yrn llan ddewi
35Dewi lle’r wyd aed oll yr iaith
dyvod y mae rhyw advyd maith
term anghyfiaith trwm ywn ghofion
dir i Gymbrû rhag dryc ambraint
draw dy voli drûd oveiliaint
40ag wylo or naint a galw ar Nonn
llawer gweddi rhag llwyr godded
a blin oeddyn eb le nodded
dygn in rhodded dwg ni’n rhyddion
Sawl y sydd a vû ag a vydd
45pob doeth pob dydd in rhoed ni’n rhydd
at pap y ffydd aed pawb ai ffon
dyma’r amser y daw’r ymswrn
a dewr yn ddic a dûr yn i ddwrn
enwir swrn yn yr oes hon
50maen tagos term o manegir
y wadd a ladd ac a leddir
ef a welir mawr ofolan
Gwyr aflonydd gwae’r vel ynys
55a braw dyrys rhwng brodorion
a chwys ar grys a chis ar groen
a dwfr ymhais a deifr ymhoen
a hoen a goroen ar y gwirion
A bwrw y dreth a bair y drin
60i drwsio gwyr ar draws gwerin
i wlad y gwin vlodaû gwynion
Gwelwch roi’r maes a gweilch or mor
a lliwio Temys oerllyd tymor
a bwrw blaenor barabl vnion


292
65yn y dwyrain ganiad araûl
a chleddau hir ymachlûdd haûl
y mwya ei draûl ymyd ar on
daû a welwn yn dïalwyr
o ddaû efyn yn gofyn gwyr
70daroganwyr mewn dûr gwynion
Gwyr a barant gan aberoedd
er bateilio ir bateloedd
o dû’r moroedd i dir Meirion
provi llyfnû prif holl hafnaû
75wrth i dial byrth y deaû
o Gleddaû hydd Gelyddon
A llygrû dinas lloegr y danadd
a gyrrv’r byd ac oeri r Badd
a chilio’r wadd vwchel roddion
80llawer vrddol mawr i ddolûr
llawer dûc hael llwyr y daw cûr
llawer gwaew dûr a llûric drom
llawer baner ir llawr bevnydd
llawer gawr vawr yn lloegr vydd
85lle mae brav gwydd llyma n llwm bric on
dewi’r ydym er dy radav
bywyd airwir ar baderaû
y gweneraû ac yn wirion
Ith weddiaw weithian ddewi
90rhydyd vnwaith rhyw dadeni
ith rieni athro vnion
Ac yleni dysgwyl Wynedd
y cawn weled cann nialedd
yn gelanedd yn gelynion


293
95Gelynion a drig y leni ym maes
cyn diwedd mis medi
pob tir maith pawb on iaith ni
pob tûedd pawb at dewi
dd llwyd lln’ ap Gruff’

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Cymru / University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic StudiesPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant / University of Wales Trinity Saint DavidPrifysgol Caergrawnt / University of Cambridge
© 2023-2025 If you would like more information about the project, or have comments on our work, please contact us at saints@saints.wales