Moliant i Ddewi (Dafydd Llwyd Mathafarn)

golygwyd gan Eurig Salisbury

Llawysgrifau

Ceir 28 o gopïau o’r gerdd hon yn y llawysgrifau, a gellir eu rhannu’n ddau brif ddosbarth, sef grŵp A ac X1. Mae darlleniad llawysgrifau grŵp A ar gyfer llinell 13 yn rhagori o ran ystyr ar ddarlleniad X1, ac felly hefyd, yn ôl pob tebyg, yn achos llinellau 4, 5, 7, 9, 31 ac ail ran llinell 42, ac o ran y drefn yn llinellau 19‒21 (gw. y nodiadau). Ni cheid dim o’i le ar ddarlleniadau X1 o ran cywirdeb y gynghanedd, a’r tebyg yw mai testun ydoedd a ailwampiwyd mewn mannau gan fardd neu ddatgeiniad. Sylwer bod pob achos o amrywiaeth testunol arwyddocaol a nodir uchod, ac eithrio un, yn digwydd yn nhraean cyntaf y gerdd, sef y darn sy’n adrodd hanes bywyd Dewi. Ymddengys fod cynnwys storïol yr englynion unodl union a’r englyn proest yn fwy agored i amrywio creadigol na chynnwys brudiol, dyrys y penillion cywydd llosgyrnog.

Ceid yn X1 destun cyflawn o’r gerdd, ond collwyd un pennill cywydd llosgyrnog ym mhob cangen lawysgrifol a ddeilliodd ohoni ac eithrio’r un a gynrychiolir gan X3. Credir bod yr un camgymeriad wedi digwydd fwy nag unwaith yn hanes copïo’r testun, sef bod llygad y copïydd wedi neidio o’r gair llawer ar ddechrau llinell 80 i’r un gair ar ddechrau llinell 83 (gallai’r un peth fod wedi digwydd wrth gofnodi o’r cof). Cambriodolwyd y gerdd i Ddafydd Nanmor yn X2, efallai am fod y priodoliad yn y ffynhonnell yn aneglur neu’n rhannol ar goll oherwydd rhwyg yn y ddalen. Ceir nifer o fân anghysonderau yn llawysgrifau Llywelyn Siôn, yn ôl ei arfer, ynghyd ag ôl poitsio mynych (cf. llau. 15n, 27n). Nid yw’n eglur ai Llywelyn ei hun a fu wrthi, neu ynteu a wnaed y newidiadau mewn ffynhonnell goll (wrth drafod ei lawysgrifau yn y nodiadau, fe gyfeirir, er hwylustod, at X4). Cyflwynir trawsysgrifiadau o ddwy o’i lawysgrifau, sef C 2.619 a Llst 47.

Mae llawysgrifau grŵp A ychydig yn llai unffurf na’r llawysgrifau a ddeilliodd o X1, yn arbennig o ran nifer y llinellau a gollwyd ac ambell achos o newid yn nhrefn llinellau, a’r tebyg yw eu bod yn deillio o fwy nag un ffynhonnell ysgrifenedig goll. Mae rhai camgymeriadau yn Bodley Welsh e 7 (llau. 9, 74), C 3.4 (llau. 1, 31), Llst 173 (ll. 9) a Pen 77 (llau. 50, 71) yn ymdebygu i wallau copïo, a’r tebyg yw fod y pedwar testun hynny wedi eu codi o lawysgrifau eraill. (At hynny, mae’r ffaith fod dwy gyfres hir o linellau wedi eu colli o destun Bodley Welsh e 7 yn awgrymu bod rhan o ddalen yn ei ffynhonnell naill ai wedi ei rhwygo neu’n amhosibl i’w darllen.) Credir bod o leiaf ddau o destunau grŵp A yn gopïau o destunau a godwyd oddi ar y cof, naill ai ar ôl i gopïwyr y testunau coll hynny weld copi o’r gerdd mewn llawysgrif arall neu ar ôl iddynt glywed y gerdd yn cael ei datgan. Dyma sy’n esbonio orau pam fod cynifer o linellau unigol a phenillion cyfan ar goll yn C 3.4 (ynghyd â nifer o ddarlleniadau carbwl) a Stowe 959 (lle diogelwyd y penillion cywydd llosgyrnog yn unig). Ceir dyrnaid o ddarlleniadau tebyg (gw. llau. 50n, 89n, 95n, cf. llau. 25n, 40n) yn rhai o destunau mwyaf cyflawn grŵp A: LlGC 3077B (llau. 31‒4, 41‒3 ar goll), Llst 120 (llau. 21‒2 ar goll), Llst 173 (yr unig destun cyflawn, ond cyfnewidiwyd llau. 77‒9 a 80‒2 a cheir dwy linell garbwl ar ôl ll. 22), Pen 77 (ll. 54 ar goll). Y tebyg yw bod y pedair llawysgrif hyn yn deillio yn y pen draw o’r un ffynhonnell (a elwir X6) a oedd yn cynnwys testun cyflawn o’r gerdd, ond ni ellir ail-greu llawer o’r testun hwnnw gan mor niferus yw’r gwahaniaethau rhyngddynt.

Fel rheol, fe ddilynir darlleniadau llawysgrifau grŵp A lle bo’r testunau hynny’n gytûn. Lle bo anghytundeb ymysg llawysgrifau grŵp A, fe ddilynir yn aml, ond nid yn ddieithriad, ddarlleniad y testunau hynny sy’n cytuno ag X1, os yw’n amlwg beth a geid yn y ffynhonnell honno. Dangosir yn y stema berthynas yr holl lawysgrifau, hyd y gellir barnu, ond erys rhai darlleniadau anodd i’w hesbonio yn y dull hwnnw (cf. Stowe 959 yn ll. 45n ac X3 yn 50n).

Dryll o’r gerdd yn unig a geir yn BL 14892, a’r englyn cyntaf yn unig yn C 2.6 a LlGC 96B. A dilyn yr wybodaeth a rydd Gwallter Mechain am ei ffynhonnell yn LlGC 1641B, cododd ei destun o un o lawysgrifau William Maurice o Lansilin (a elwir X7) a ddinistriwyd naill ai mewn tân yn Llundain yn 1810 neu mewn tân yn llyfrgell Wynnstay yn 1858 (RepWM).

Trefn y llinellau: BL 14887, Bodley Welsh e 6, C 2.619, C 5.44, LlGC 970E, LlGC 6499B, Llst 47 1‒79, [80‒2], 83‒98; Bodley Welsh e 7 1‒40, [41‒58], 59‒67, [68‒76], 77‒86, [87], 88‒98; C 3.4 1‒12, 23‒6, 13‒22, 27‒41, [42], 43‒56, 58, 57‒69, [70], 71‒2, [73], 74, [75], 76‒9, [80‒5], 86‒8, [89], 90‒8; LlGC 3077B 1‒30, [31‒4], 35‒40, [41‒3], 44‒98; Llst 120 1‒20, [21‒2], 23‒98; Llst 173 1‒22, [+ dwy linell], 23‒76, 80‒2, 77‒9, 83‒98; Pen 77 1‒53, [54], 55‒98; Stowe 959 [1‒34], 35‒43, [44], 45‒67, [68‒70], 71‒6, [77], 78‒9, [80‒2], 83‒4, [85], 86‒98.

Teitl

Ceir amrywiadau ar ‘Awdl i Ddewi’ yn Bodley Welsh e 7, LlGC 3077B, Pen 77 ac X5. Ceir y teitl mwyaf diddorol ar frig testun diweddar nas defnyddiwyd i lunio’r golygiad, sef LlGC 1641B Awdl Dewi Sant / Sef gweddi arnaw er gwared Cymry yn eu hadfyd ac i frudiaw gwaith Fosworth (ymhellach, gw. y rhagymadrodd).

Y llawysgrifau

Ba 401, 200‒4 (X111, canol yr 17g.)

Bodley Welsh e 6, 274‒9 (John Jones Gellilyfdy, 1604)

Bodley Welsh e 7, 39v‒41v (anh., 16g./17g.)

BL 14878, 53r (Thomas ab Ieuan, 1692)

BL 14887, 87r‒88v (anh., 16g./17g.)

BL 14892, 107r (William Bodwrda, c.1644)

BL 31085, 125v (Owain Myfyrac eraill, 18g./19g.)

C 2.6, 130 (anh., c.1608‒12)

C 2.619, 1‒4 (Llywelyn Siôn, c.1586)

C 3.4, 102‒4 (Elis Gruffydd, c.1527)

C 5.44, 8r (Llywelyn Siôn, 1613)

LlGC 96B, 51 (John Rowlands, 19g.)

LlGC 668C, 18 (William Jones, 19g.)

LlGC 970E, 2 (Llywelyn Siôn, c.1613)

LlGC 1641B, 70 (Gwallter Mechain, 1793)

LlGC 3077B, 413‒15 (anh., c.1642‒4)

LlGC 5474A, 729 (Benjamin Simon, 1747‒51)

LlGC 6499B, 496‒500 (Watcyn Clywedog, c.1654‒5)

LlGC 19907B, 217r‒18v (Robert Vaughan, hanner cyntaf yr 17g.)

Llst 47, 32‒6 (Llywelyn Siôn, 16g./17g.)

Llst 118, 335‒7 (anh., 1612‒35)

Llst 120, 89ar‒90r (Jaspar Gryffyth, c.1597‒1607)

Llst 133, 385r (Samuel Williams, c.1712)

Llst 136, 24 (anh., hanner cyntaf yr 17g. (<1637))

Llst 173, 89‒93 (anh., canol yr 17g.)

Pen 77, 290‒3 (Thomas Wiliems, 1576)

Pen 86, 308 (Richard ap Siôn, c.1572‒1620)

Stowe 959, 115v, 197r (anh., 16g./17g.)

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Cymru / University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic StudiesPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant / University of Wales Trinity Saint DavidPrifysgol Caergrawnt / University of Cambridge
© 2023-2025 If you would like more information about the project, or have comments on our work, please contact us at saints@saints.wales