Moliant i Ddewi (Dafydd Llwyd Mathafarn)
golygwyd gan Eurig Salisbury
Rhagymadrodd
Awdl frud i Ddewi yw’r gerdd hon gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn. Nid oes yn hysbys ond un gerdd frud arall ar ffurf awdl, sef cerdd gan Lewys Glyn Cothi i Siasbar Tudur (GLGC cerdd 12), ond ceir cyffyrddiadau brudiol mewn awdlau eraill ganddo (ibid. 14.69‒72, 15.28‒48, 69‒76; noder nad awdl frud yw’r gerdd gan Hywel neu Fedo Aerddren a ddisgrifir felly ac a elwir ‘The Patrick Ode’ yn Jones 1917‒18: 30). Ni oroesodd yr un awdl arall gan Ddafydd Llwyd, nac ychwaith yr un enghraifft arall o’r ffurf unigryw a ddefnyddia ar fesur y cywydd llosgyrnog (gw. yr adran isod ar fesur a chynghanedd).
Cyferchir Dewi yn llinell gyntaf y gerdd cyn mynd ati i amlinellu nifer o wyrthiau a gyflawnodd cyn ac ar ôl ei eni (llau. 1‒34). Dilynir yn fras gynnwys y bucheddau Lladin a Chymraeg, ond ceir ambell fanylyn diddorol sy’n awgrymu bod Dafydd Llwyd yn tynnu ar draddodiadau amgen a oedd, o bosibl, yn deillio yn y pen draw o’r fuchedd Gymraeg (llau. 5n, 10n, 23‒6n, 27‒30n). Saif y rhan hon o’r gerdd, sef y traean cyntaf, bron yn llwyr ar wahân i weddill y gerdd, lle ymbilia’r bardd yn null y canu brud ar Ddewi i amddiffyn pobl Cymru rhag rhyw adfyd maith sydd ar ddod (35‒98). Fel y trafodir isod yn yr adran ar fesur a chynghanedd, amlygir y gwahaniaeth rhwng y ddwy ran gan ddefnydd Dafydd Llwyd o gyrch-gymeriad.
Adleisir y pwyslais amlwg ar Ddewi mewn cyd-destun brudiol mewn nifer o gerddi brud eraill gan Ddafydd Llwyd, eithr i raddau llai bob tro (GDLl 22.3, 24.63, 35.45, 42.52, 43.37) ac weithiau mewn cyswllt â’r gred fod Dewi ei hun yn awdur brud (ibid. 4.3, 12.45, 15.18, 34.65; priodolir tair cerdd i ‘Dewi Sant’ yn MCF). Dwg i gof y sylw amlwg a roir i Ddewi yn y gerdd broffwydol enwocaf oll, ‘Armes Prydain’, a berthyn i’r ddegfed ganrif (Arm P llau. 51, 129, 140, 196).
Yn ei hanfod, nid cerdd arferol i sant yw hon eithr darn hynod effeithiol o bropaganda gwleidyddol. Mae ei chefndir yn ymwneud â digwyddiadau cythryblus ail hanner y bymthegfed ganrif cyn 1485, pan gipiodd Harri Tudur yr orsedd ar ôl trechu Richard III ym mrwydr Bosworth. Yn 1793, fe ddisgrifiodd Gwallter Mechain ei gopi o’r gerdd yn llawysgrif LlGC 1641B fel gweddi [ar Ddewi] er gwared Cymry yn eu hadfyd ac i frudiaw gwaith Fosworth. Y tebyg yw mai Gwallter ei hun oedd awdur y geiriau, ond nid yw’n amhosibl iddo godi’r wybodaeth honno o’i ffynhonnell, sef un o lawysgrifau coll William Maurice o Lansilin (1619/20–1680). Fodd bynnag, ni cheir dim yn y gerdd sy’n ei chysylltu’n bendant ag ymgyrch Harri Tudur yn 1485. Gellid cysylltu lliaws o gerddi brud â’r ymgyrch honno, ni waeth pryd y cawsant eu canu mewn gwirionedd, gan fod cynifer o fân arwyddion brud yn magu arwyddocâd yng ngoleuni’r hyn a ddigwyddodd yn Awst 1485. Er enghraifft, ai Richard III a ddynodir gan y wadd (llau. 51n a 79), neu ai ystrydeb brudiol ydyw i ddynodi’r gelyn? A yw’r cyfeiriad at Aberdaugleddau (ll. 76n) yn awgrymu bod Dafydd Llwyd wedi clywed si mai yn y fan honno y byddai Harri Tudur yn glanio ddechrau Awst 1485, neu ai confensiwn ydyw, fel yr awgryma natur stroclyd y cyfeiriad? Gall fod mwy o arwyddocâd yn perthyn i’r cyfeiriadau at eleni (llau. 92, 95), ond rhaid eu hystyried ochr yn ochr â chyfeiriadau eraill tebyg yng ngherddi Dafydd Llwyd at ragargoelion yr honnir eu bod ar fin cael eu gwireddu (GDLl 8.63, 11.6, 19.44, 36.29). Felly hefyd, er mor arwyddocaol yr ymddengys, yn achos y sôn am frwydro cyn diwedd mis Medi (ll. 96n).
Yr hyn sy’n gosod yr awdl hon ar wahân i lawer o gerddi brud eraill ac, at hynny, yn ddadl o blaid y gred ei bod yn gysylltiedig ag ymgyrch 1485, yw tanbeidrwydd angerddol y canu yn yr ail ran. Deil Williams (1986: 26) mai’n fuan cyn i Harri Tudur lanio y cyfansoddodd Dafydd Llwyd ‘a majaestic ode to Saint David, subtly evocative of the atmosphere that prevailed in Wales, one compounded of a mixture of hope and apprehension’. Hynny sydd fwyaf tebygol, efallai, ac ystyried bod y gerdd wedi ei chyfansoddi yn y lle cyntaf, fe ymddengys, er mwyn ennyn cefnogaeth i achos Harri Tudur, yn hytrach nag un o’r gwŷr eraill a ystyrid yn fab darogan yn amser Dafydd Llwyd (fel ei ewythr, Siasbar Tudur). Mae curiad cyson mesur y cywydd llosgyrnog yn sicr yn rhoi i’r awdl hon ryw uniongyrchedd gorymdeithiol dramatig nas ceir yn llawer o’r cywyddau brud.
Ymhellach ar ganu brud y bymthegfed ganrif, gw. Lewis 1923; HSt 149‒63; Evans 1953; Jones 1979; Williams 1979: 71‒86; Evans 1997; GDGor; LlU 346‒74.
Ym Mai 2009 fe ddatganwyd ail ran y gerdd hon (golygiad GDLl) i guriad pastwn mewn perfformiad dramatig gan grŵp Datgeiniaeth dan arweiniad Twm Morys, a hynny ar gyfer un o brosiectau Beyond Text Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) ym Mhrifysgol Bangor (gw. y seithfed fideo o’r brig ar wefan y prosiect, Link).
Dyddiad
Yn fuan cyn i lynges Harri Tudur lanio ym Mhenfro ar 7 Awst 1485, yn ôl pob tebyg, ond nid yw’n amhosibl fod y gerdd wedi ei chyfansoddi rai misoedd neu flynyddoedd cyn hynny (gw. y drafodaeth uchod).
Golygiadau blaenorol
GDLl cerdd 13; Jones 1917‒18: 54‒9.
Mesur a chynghanedd
Awdl 98 llinell. Dau fesur englynol a geir yn rhan gyntaf y gerdd (llau. 1‒34), sef saith englyn unodl union ac, yn eu canol ar ôl y pedwerydd englyn, un pennill chwe llinell ar fesur yr englyn proest dalgron cyfnewidiog (CD 324‒7). Yn ail ran y gerdd (35‒98), ceir cyfres o ugain pennill ar fesur y cywydd llosgyrnog ynghyd ag un englyn unodl union.
Ychydig iawn o ganu a fu ar y cywydd llosgyrnog, sef ‘[d]wy, tair, neu bedair o linellau 8 sillaf a llosgwrn o saith, y llinellau 8 yn odli â’i gilydd ac â gorffwysfa’r llosgwrn, a diwedd y llosgwrn yn cynnal y brifodl’ (CD 330; cf. DE cerdd XXXIV; GHCLl XLVIII.49‒54; GLMorg 22.32‒4). Fodd bynnag, llosgwrn o wyth sillaf a geir ym mhenillion yr awdl hon, sef ffurf fwy rhythmig ac unigryw, hyd y gwyddys, ar y mesur. At hynny, mae cynganeddiad y pedwerydd pennill cywydd llosgyrnog (44‒6) yn wahanol i’r lleill, ac fe adlewyrchir hynny yn y modd y gosodwyd y testun ar y ddalen mewn nifer o lawysgrifau. Mewn gwirionedd, enghraifft ymddangosiadol unigryw ydyw o fesur y rhupunt hir ar ffurf cywydd llosgyrnog, ac adlewyrcha’r newidiadau ynghylch cynganeddiad cymalau’r rhupunt a fabwysiadwyd yn Eisteddfod Caerfyrddin yn 1451 (CD 332‒3; eithr nid yw mor gaeth â’r mesur a ddyfeisiodd Dafydd ab Edmwnd ar yr un seiliau, sef gorchest y beirdd, ibid. 350).
Ychydig iawn o addurn a geir yn y gerdd hon mewn cymhariaeth â’r rhan fwyaf o awdlau’r bymthegfed ganrif (cf. GG.net cerddi 111 ac 113, a gyfansoddwyd oddeutu’r un cyfnod). Tybed a yw hynny’n ddadl o blaid y gred fod y gerdd wedi ei chanu’n fuan cyn i Harri Tudur ddod i Gymru yn Awst 1485, a hynny ar frys? Cynganeddion traws a geir gan amlaf yn llinellau cyntaf yr englynion unodl union, a hynny’n groes i’r arfer o ddefnyddio’r gynghanedd sain (CD 276; cf. GG.net cerdd 43, lle ceir y gynghanedd sain bob tro). At hynny, syrth y rhagwant o flaen y bedwaredd sillaf yn llinell gyntaf dau o’r englynion unodl union, a hynny’n groes i’r arfer o leoli’r rhagwant ar y bumed sillaf, fel y gwelir yn yr englynion eraill (CD 275‒7, 285‒6; llau. 9n, 13n (testunol)). Ni cheir cymeriad rheolaidd o unrhyw fath, ac ni chysylltir yr englynion gan brifodl. Ychydig o ddefnydd a wneir o gyrch-gymeriad, sef wrth gysylltu llinellau cyntaf ac olaf y gerdd a hefyd y rhan gyntaf a’r ail (35, 36), ac wrth gysylltu’r pennill olaf o gywydd llosgyrnog a’r englyn clo. Ceir tebygrwydd ystyr yn ogystal â chyrch-gymeriad rhwng llinell 35 a’r llinell olaf, sy’n rhoi’r argraff fod ail ran y gerdd yn uned ar wahân ac yn esbonio, o bosibl, pam mai’r rhan honno’n unig a ddiogelwyd yn llawysgrif Stowe 959 (cf. awdl foliant Guto’r Glyn i’r abad Rhys o Ystrad-fflur, lle ceir cyrch-gymeriad rhwng dechrau a diwedd ail ran yr awdl, GG.net 8.45, 92). Canwyd y penillion cywydd llosgyrnog ar y brifodl -on.
Ac ystyried prinder yr addurn confensiynol yn y gerdd hon, diddorol nodi bod Dafydd Llwyd wedi harddu dwy o linellau cyntaf ei englynion unodl union mewn modd annisgwyl. Ceir cynganeddion traws seithsill ac wythsill o flaen y gair cyrch yn llinellau 9 a 31, eithr mae’r llinellau cyfan, yn cynnwys y gair cyrch, yn ffurfio cynganeddion cytsain hefyd. Nid yw’r gyfatebiaeth yn gwbl gyflawn yn llinell 9 Duw a’th ddonies ar y dydd – y’th aned (onid yw’r dd bur ddisylw yn gytsain berfeddgoll sy’n diflannu dan ddylanwad th), ond mae’n bur amlwg fod cyfatebiaeth gytseiniol fwriadol rhwng a’th ddonies ac y’th aned. Ceir cynghanedd groes gyflawn yn llinell 31 Cof ydiw yn ôl, cofodi – yn wir (am enghraifft bosibl arall, lle ceir cynghanedd lusg o flaen y gair cyrch a chynghanedd draws ar hyd y ll., gw. GDLl 87.1 Maneg, biog serchogfwyn, – i minnau). Ni chyfeirir at yr addurn hwn yn CD, ac ni ddaethpwyd o hyd i enghreifftiau gan feirdd eraill o’r cyfnod hwn.
Cynghanedd: croes o gyswllt 1% (1 ll.), croes 54.5% (48 ll.), traws 23% (20 ll.), sain 17% (15 ll.), llusg 4.5% (4 ll.). Cyfrifir ar sail cyfanswm o 88 llinell, gan na chymerwyd i ystyriaeth ail linell yr wyth englyn unodl union, lle ceir cyfatebiaeth gytseiniol rhwng y gair cyrch a dechrau’r ail linell ym mhob englyn ac eithrio’r ail, lle ceir cynghanedd sain. Nid ystyriwyd ychwaith y pedair cynghanedd groes a geir, yn unol â gofynion mesur y rhupunt hir, yn llinellau 44‒5. Ystyrir llinellau 30 ac 84 yn gynganeddion sain, ond gellid hefyd ystyried y gyntaf yn gynghanedd groes o gyswllt a’r ail yn gynghanedd groes. Ystyrir llinellau 56 ac 83 yn gynganeddion croes, ond gellid hefyd eu hystyried yn gynganeddion sain.