Moliant i Ddewi (Dafydd Llwyd Mathafarn)
golygwyd gan Eurig Salisbury
Awdl frud i Ddewi gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn. Mae'r gerdd wedi ei chyfansoddi, o bosib, yn fuan cyn i Harri Tudur lanio ym Mhenfro yn Awst 1485.
Dewi, cyn d’eni, cad1
cad Dilynir llawysgrifau grŵp A.
Nid yw’r eglur beth a geid yn X1, a gall fod y
darlleniad yn aneglur yno. Ceir darlleniad y golygiad yn LlGC 6499B, gthg. X2
cawn, X3 ac X4
caid.
ordeiniaw ‒ man
’m Mynyw2
’m Mynyw Mae darlleniad C 3.4,
X2 ac X3
ym Mynyw yn peri i’r llinell hon fod yn rhy hir o sillaf.
Er ei bod yn rhesymol tybio y gellid amrywio nifer y sillafau a geid mewn
toddaid byr, yn unol â’r modd y ceid amrywiaeth, yn achlysurol, yn hyd llau. o
gywydd (cf. GSDT
25; CD 313), ni
ddaethpwyd o hyd i enghraifft bendant o gyfrif mwy na chwe sillaf yn ail linell
englyn (noder bod arfer Dafydd Llwyd yn gwbl gyson ym mhob englyn arall yn yr
awdl hon). Bernir bod yr ystyriaeth honno wedi arwain at hepgor ym yn nhestunau nifer o’r llawysgrifau eraill, ond gall
hefyd fod ’m yn ddealledig mewn ambell un, gan na chlywid
y gair, i bob diben, wrth berfformio’r gerdd ar lafar. Yn wir, gall mai’r ffurf
dalfyredig a fwriedid yn narlleniadau C 3.4, X2 ac
X3.
1
Mynyw Am y faenor, gw. WATU 162. i’th weddïaw,
A Phadrig aeth i drigaw
O Fynyw dros yr hafn3
yr hafn Dilynir darlleniad C
3.4, LlGC 970E, LlGC 3077B, LlGC 6499B, Llst 118, Pen 77, a rydd well ystyr na
darlleniad Llst 47, Llst 120, Llst 173, X2
yr afon, gw. llau. 1‒4n (esboniadol); cf. ll. 74. Y
ffaith fod yr afon yn peri i’r llinell fod yn rhy hir o
sillaf a arweiniodd, yn ôl pob tebyg, at hepgor yr yn C
2.619, C 5.44 ac X5. Mae’r ffaith fod y ddau
ddarlleniad i’w gweld ar draws y traddodiad llawysgrifol yn awgrymu bod dryswch
yn y gynsail, efallai yn sgil defnydd o lafariad epenthetig, cf. darlleniad y
llawysgrif gynharaf, C 3.4 yr havyn.
2
hafn Cyfeiriad at y fan lle
ymadawodd Padrig â Chymru ar long i Iwerddon, yn ôl y fuchedd Ladin, sef y Porth
Mawr ger Tyddewi (nid enwir y porthladd yn y fuchedd Gymraeg), gw. WLSD 26‒7. draw.3 Llau.
1‒4. Yn ôl y bucheddau, rhybuddiwyd Padrig gan angel i
beidio ag ymsefydlu yn y lle y byddai Tyddewi’n sefyll yn
nes ymlaen, gan fod y lle hwnnw wedi ei neilltuo ar gyfer mab a fyddai’n cael ei
eni ymhen deng mlynedd ar hugain, gw. SDW 110–13; WLSD 1–2 a’r nodyn ar dudalen
25. Deil y fuchedd a ysgrifennodd Rhygyfarch fod tad
Dewi, Sant, yntau wedi ei rybuddio
am ddyfodiad ei fab, gw. SDW 108–9.
5Ban ddoeth Non i’r deml, bun ddi-wair4
Ban ddoeth Non i’r deml, bun
ddi-wair Dilynir llawysgrifau grŵp A, gthg. X1
Non a ddôi i’r deml yn ddiwair. Nid yw’r un o’r ddau
ddarlleniad yn rhagori ar y llall o ran yr ystyr nac o ran y gynghanedd, ond
rhoir mwy o goel yn y rhan hon o’r gerdd ar rai o ddarlleniadau grŵp A yn unol
â’r ffaith fod darlleniad X1 ar gyfer ll. 13 yn
ddiffygiol, gw. y nodyn testunol. At hynny, mae darlleniad grŵp A yn cydredeg yn
esmwyth â’r darlleniad yn ll. 7 (hynny yw, Ban ddoeth Non …
aeth y prelad), a gefnogir gan nifer o lawysgrifau sy’n deillio o X1, gw. y nodyn testunol. Sylwer mai Dewi yw’r gair cyntaf yn yr englyn blaenorol, a Duw yn yr englyn nesaf, a gallai hynny fod yn ateg o
blaid darlleniad X1, lle ceir Non ar ddechrau’r ll. Ond gall hefyd mai copïydd X1 (neu gopïydd cynharach) a roes enw mam Dewi ar
ddechrau’r ll., yn unol â’r dull yn llau. cyntaf y ddau englyn arall, gan na
fedrai gofio’r darlleniad gwreiddiol. ‒ feichiog4
di-wair ‒ feichiog Ymddengys yn
ddisgrifiad rhyfedd o ferch a gawsai ei threisio (gw. llau. 5‒8n), ond sylwer
bod y bucheddau’n pwysleisio purdeb sanctaidd Non, cf. WLSD 2 A gwr
ny bu idi na chynt na gwedy; diweir oed hi o vedwl a gweithret.
O dwysog dewisair,5
O dwysog dewisair Gallai [t]wysog dewisair fod yn gyfeiriad
at Sant, tad Dewi, gŵr y pwysleisir ei rinweddau yn y fuchedd Ladin (SDW 108‒9), ond
mae’n fwy tebygol mai Dewi a olygir, ac yntau’n fab i frenin Ceredigion ac yn
enwog am ei ddawn pregethu. O ran y defnydd o’r arddodiad o ar ôl beichiog, cf. GG.net 22.38 Tŷ beichiog o’r tai bychain.
Aeth y prelad5
Aeth y prelad Dilynir
llawysgrifau grŵp A, ynghyd ag X3 a LlGC 6499B,
gthg. X2 ac X4
a’r prelad aeth. Bernir bod y geiriau wedi eu haildrefnu
yn X2 ac X4 i gyd-fynd
â’r darlleniad yn ll. gyntaf yr englyn hwn yn X1,
gw. y nodyn testunol (hynny yw, Non a ddôi … a’r prelad
aeth). o’i gadair
Heb allu pregethu gair.6 Llau.
5‒8. Yn ôl y bucheddau, beichiogodd Non wedi iddi gael ei threisio gan Sant,
brenin Ceredigion. Maes o law, aeth Non i wrando ar Gildas yn pregethu mewn
eglwys, ond methodd hwnnw yngan yr un gair tra oedd hi yn yr adeilad, ac aeth y
sant ymaith o Brydain er parch i’r baban a oedd yn ei chroth, gw. SDW 112‒15; WLSD 2‒3. Nid
enwir yr eglwys ym mucheddau Dewi ond, ym muchedd Gildas gan Garadog o
Lancarfan, lleolir yr un hanes mewn eglwys ar lan y môr ym Mhebidiog (sef y
cantref lle saif Tyddewi, gw. WATU 170), a deil Gerallt Gymro fod yr eglwys mewn lle o’r
enw Kanmorva neu Kairmorva, sef
morfa i’r de o Dyddewi, o bosibl, gw. WLSD 31. Nid enwir Gildas yn y
gerdd hon, ac nis enwir ychwaith mewn fersiynau cynnar o’r fuchedd Ladin, lle
cyfeirir ato yn hytrach fel ‘rhyw athro’, gw. WLSD 28‒31 (Gildas sant ydyw yn y fuchedd Gymraeg, gw. ibid. 2). Ceir fersiwn
arall o’r hanes ym muchedd y sant Gwyddelig, Ailbe, lle trewir rhyw sant yn fud
yn sgil y ffaith fod mam Dewi, a hithau’n feichiog, yn y gynulleidfa, a hynny
oherwydd na ddylai offeiriad ddathlu yng ngŵydd esgob heb ei ganiatâd, gw. ibid.
31. Diau mai ‘esgob’ yw ystyr prelad yn y gerdd hon (gw.
GPC Ar
Lein d.g.), eithr yr ergyd yw bod Dewi o radd bwysicach fyth.
Duw a’th ddonies ar y dydd6
Duw a’th ddonies ar y dydd – y’th
aned Dilynir yn betrus lawysgrifau grŵp A. Fodd bynnag, gall
mai ll. nawsill oedd hon o gyfnod cynnar, ac mai gwahanol ymgeision i adfer y
sillaf a geir yn y llawysgrifau. Llinell nawsill a geir yn Bodley Welsh e 7 o’r dydd, a’r tebyg yw mai ll. nawsill a geid yn X1 hefyd, sef Duw a’th ddonies y
dydd – y’th aned. Bernir mai dwy ymgais i geisio adfer y sillaf goll a
geir yn X4 ac X5
a Duw ac yn LlGC 6499B, Llst 118 ac X2
a’th ddonies di. Cymhlethir pethau gan y ffaith mai ar y
bumed sillaf y disgwylid i’r rhagwant syrthio yn ll. gyntaf englyn. Y gynghanedd
sain a ddefnyddid gan amlaf yn y ll. honno (cf. ll. 1), ond yr un oedd yr arfer
yn achos cynganeddion cytsain (cf. ll. 5), gw. CD 275‒7, 285‒6. Mae’n bosibl
mai’r bwriad yn y ll. hon oedd lleoli’r rhagwant ar yr arddodiad ar, yn unol â’r modd y defnyddid arddodiad yn yr
orffwysfa, o dro i dro, mewn cynganeddion cytsain, gw. ibid. 267; cf. llau. 4,
26. Fodd bynnag, sylwer bod ll. gyntaf yr englyn hwn ar ei hyd, yn cynnwys y
gair cyrch, yn ffurfio cynghanedd gytsain, sy’n awgrymu’n gryf y dylid lleoli’r
rhagwant, megis gorffwysfa, ar ôl ddonies, cf. ll. 31. Yn
narlleniad X4 ac X5 yn
unig y syrthiai’r rhagwant ar y bumed sillaf, a gall fod y darlleniad cywir wedi
ei adfer yn y testunau hynny. Ond mae’r ffaith fod cynifer o lawysgrifau grŵp A
o blaid darlleniad y golygiad yn awgrymu bod yr arfer o leoli’r rhagwant ar y
bumed sillaf wedi ei hanwybyddu yn yr achos hwn, fel yn achos ll. 13 (gw. y
nodyn testunol), cf. GGM 11.5, 13 (Dafydd Llwyd). ‒ y’th aned,
10 Pan y’th enwyd Dafydd;7
Pan y’th enwyd Dafydd Yn y
fuchedd Gymraeg yn unig y cyfeirir at enwi Dewi, gw. WLSD 2 a mab
a anet idi, a Dauid a rodet yn enw arnaw.
Rhoist i’r dall, rhyw ystyr
dydd,8
dydd Sylwer bod yr hyn a ystyrir
heddiw yn fai gwestodl yn yr englyn hwn, gan fod yr un gair wedi ei ddefnyddio
ddwywaith yn y brifodl, gw. CD 306.
Ei drem heb ddim godrumydd.7
godrumydd Nid yw’n eglur beth a
geid yn X1: X2 ac X3
godremydd, LlGC 6499B ac X4
godrymydd. Ceir amrywiaeth tebyg yn llawysgrifau grŵp A:
LlGC 3077B ac Llst 173 godremydd, Bodley Welsh e 7, C
3.4, Llst 120, Pen 77 godrumydd. Llinell amhersain iawn
yw Ei drem heb ddim godremydd (er nad ymddengys ei bod yn
wallus, gw. CD 303‒4), gan ei bod ar y ffin rhwng cynghanedd draws a chynghanedd
lusg, a hynny yn llinell olaf englyn, lle na chaniateir cynghanedd lusg. Bernir
bod rhai copïwyr wedi darllen godremydd drwy gydweddiad â
drem, ond gall hefyd fod nifer ohonynt yn
anghyfarwydd â godrumydd, sy’n fwy ystyrlon, gan mai prin
iawn yw’r enghreifftiau o’r gair, gw. llau. 9‒12n (esboniadol); cf. G 543 d.g.
godrum.
9 Llau.
9‒12. Yn ôl y fuchedd Gymraeg a’r fuchedd Ladin, cyflawnodd Dewi wyrthiau cyn ac
ar ôl iddo gael ei eni, yn cynnwys peri i ffynnon wyrthiol godi o’r ddaear pan
fedyddiwyd ef, a fu’n fodd i adfer golwg ac iacháu anffurfiaeth y sawl a ddaliai
Dewi wrth iddo gael ei fedyddio, gw. SDW 116–17; WLSD 3. Ef yw’r dyn dall yma,
sef sant o Wyddel, Mobí, yn ôl
Rhygyfarch, a anwyd heb drwyn na llygaid ac a
ddisgrifir fel wynepglawr yng ngherddi
Gwynfardd Brycheiniog ac Iolo Goch
i Ddewi, gw. ibid. 33–4; DewiGB llau. 158–61 ac ibid. n.;
DewiIG llau. 37‒40. Diau mai disgrifiad o’r anffurfiaeth honno yw godrumydd yn ll. 12, sef un o dair enghraifft o’r gair a
nodir yn GPC Ar
Lein d.g. Gellir diystyru’r drydedd enghraifft, godrmydd, a geir yng ngeiriadur Henry Salesbury yn llawysgrif J 16
(16g./17g.) ac a gyplysir â’r gair Lladin cyfystyr vultus
‘wynepryd, wyneb’. Mae’n eglur mai godremydd ‘golwg,
gwedd’ a olygir yno, gw. GPC Ar Lein d.g.; cf. ll. 12n (testunol). Dwy enghraifft
ddilys sydd, felly, o’r gair godrumydd, a cheir yr
enghraifft gynharaf yn rhamant Geraint fab Erbin, ac fe’i deellir yn gyfeiriad
cyffredinol at gefngrymedd un o’r cymeriadau, gw. YGE 14 A
gwedy hanner dyd y gvelynt godrumyd o dyn bychan ar uarch, 172
‘hunchback’; cf. Ifans ac Ifans 2001: 227 ‘[d]yn bychan gwargrwm’; Davies 2007:
150 ‘a hunchback of a little man’. Fodd bynnag, ac ystyried y cyfeirir at yr un
gŵr fel corr, a hwnnw’n un digon annymunol, ym mhob rhan
arall o’r chwedl, mae’n bosibl mai cyfeiriad ydyw at ei anffurfiaeth corfforol
cyffredinol, fel yn achos Mobí yn y gerdd hon, yn hytrach na siâp ei gefn.
Efallai fod y dehongliad diweddar o’r gair yn y chwedl wedi ei ddylanwadu gan y
ffaith fod y gŵr clwyfedig sy’n dilyn y corrach yn [f]archawc mawr gochrwm pennissel goathrist. Nodir ystod o
ystyron posibl yn GPC Ar Lein d.g. godrumydd ‘cibddellni,
dellni; cysgod, rhith; cefngrymedd’, eithr fe wnâi ‘anffurfiaeth’ y tro, gan
ddeall godrum hefyd yn yr un modd. Nodir dwy enghraifft
yn GPC Ar
Lein d.g. godrum, a’r ddwy gan Ddafydd ap
Gwilym, ond darganfuwyd yn ddiweddar fod un ohonynt yn ddi-sail, gw. DG.net 61.7n.
Ceir yr ail enghraifft yng nghywydd Dafydd i’w gysgod, lle’i deellir yn
ansoddair, gw. ibid. 63.23 Godrum gafr o’r un gyfrith
‘[Un] o’r un ymddangosiad â gafr gefngrom’. Diau mai enw ydyw, mewn gwirionedd,
ac fe weddai ‘anffurfiaeth’ i’r cyd-destun, cf. ibid. 63.24‒6 Tebygach wyd, tebyg chwith, / I drychiolaeth hiraethlawn / Nog i ddyn mewn
agwedd iawn.
Rhan o’r dorth gan ar ginio ‒ a lewaist,8
Rhan o’r dorth gan ar ginio ‒ a
lewaist Dilynir llawysgrifau grŵp A, gthg. X1
Rhoi rhan o’r dorth gan o’th ginio ‒ i
lu. Nid yw’r un o’r ddau ddarlleniad yn rhagori ar y llall o ran y
gynghanedd, ond sylwer bod y rhagwant yn syrthio ar y bumed sillaf, fel y
disgwylid yn ll. gyntaf englyn, yn narlleniad X1,
gw. y drafodaeth yn y nodyn testunol ar l. 9. Fodd bynnag, nid yw darlleniad
X1 yn cyd-fynd â’r hanes yn y fuchedd, gw. llau.
13‒16n (esboniadol). Torrodd Dewi ddarn o fara gwenwynig yn dair rhan, gan roi
un rhan i gi a rhan arall i frân, a bu farw’r ddau anifail yn y fan a’r lle, cf.
llau. 15‒16. Ar ôl iddo fendithio’r drydedd ran, bwytaodd Dewi ef a bu fyw. Gall
fod darlleniad X1 yn gyfeiriad unigryw at fersiwn
gwahanol o’r hanes, lle rhoes Dewi’r trydydd darn o fara i’r dyrfa. Fodd bynnag,
os ceid fersiwn gwahanol, ni thystir iddo yn yr un man arall. Mae’n fwy tebygol
fod copïydd X1 (neu gopïydd cynharach) wedi anghofio
rhannau o’r ll. hon ac, yn ei anwybodaeth, wedi mynd ati i’w hail-lunio yn unol
â’r gred fod y seintiau’n borthwyr hael, er nad yw’n hynny’n amlwg iawn yn achos
Dewi (gw. WSSPL
153‒4; cf. DewiLGC llau. 37‒8), gan achub ar y cyfle i leoli’r rhagwant ar y
bumed sillaf. Gall hefyd fod dylanwad Rhoist yn ll. 11 ar
y defnydd o Rhoi ar ddechrau’r ll. yn X1. At hynny, adleisir darlleniad llawysgrifau grŵp A
yn y fuchedd Gymraeg, lle defnyddir y ferf llewa wrth
ddisgrifio’r ci yn bwyta’r bara ac, mewn rhan arall, wrth ddisgrifio Dewi’n
bwyta, gw. WLSD 7
A’r awr y llewas yr ast y bara, y bu allmarw, 2 Ac ny lewas Dewi vwyt namyn bara a dwfuyr; cf. ibid. 13
ny lawssant na bwyt na diawt.
Oedd le heb wenwyno,
15 A’th gi, cyn tröi9
tröi Ymddengys fod rhai copïwyr
wedi newid y darlleniad yn sgil darllen y ffurf unsill troi, sy’n difetha’r gynghanedd: Llst 120, Llst 173, Pen 77 torri (camddarlleniad, efallai), X4
troddi, cf. ailwampio carbwl yn Bodley Welsh e 7 ath gig yn troi yn gan tro. Efallai fod ymgais i gyfleu’r
ffurf ddeusill (ar y ffurf, gw. GMW 5) yn narlleniad LlGC 6499B ac X5
troi i. un tro,
A’th frân aeth i farw yno.10
Llau. 13‒16. Yn ôl y bucheddau, ceisiodd tri o fynachod Dewi ei ladd â bara
gwenwynig, ond rhwystrwyd y cynllun gan un o ddisgyblion Dewi a deithiodd i
Gymru o Iwerddon ar gefn anghenfil o’r môr er mwyn ei rybuddio. Pan ddaeth y
cynllun i sylw Dewi, torrodd ef y bara gwenwynig yn dair rhan, gan roi un darn i
gi (ast yn y fuchedd Gymraeg) a darn arall i frân. Bu
farw’r ddau anifail ar amrantiad, ond bendithiodd Dewi’r trydydd darn a’i fwyta,
a bu fyw, gw. SDW
132–5; WLSD 6–8.
Noder bod a lewaist yn ll. gyntaf yr englyn hwn yn
adleisio’r fuchedd Gymraeg, gw. ll. 13n (testunol).
Bleiddyd10
Bleiddyd Dilynir mwyafrif y
llawysgrifau, gthg. Bodley Welsh e 7, C 3.4, Llst 118, Pen 77 Bleiddudd, sef y ffurf a geir yn BD 25, gw. llau. 17‒22n
(esboniadol). a wnaeth,
bennaeth budd,
Yr Ennaint yn ddirinwedd;
I gael adwyth o’r gwledydd,
20Bendigaist, hyd ban dygiodd,
Y dwfr praff, difai o’r pridd11 Llau.
19‒21. Dilynir yn y llau. hyn y drefn a geir yn llawysgrifau grŵp A (ni cheir
llau. 21‒2 yn Llst 120), gthg. X1, lle daw ll. 21 ar
ôl ll. 18. Bernir bod hyn wedi achosi newid yn narlleniad ll. 21 yn X2 ac X3
Dwfr praff i dyfu o’r pridd (gall fod y ll. wedi ei dileu
a’i hail-lunio yn nhestun X1 gan gopïydd
diweddarach). Mynegir yn eglur yn nhrefn llau. llawysgrifau grŵp A yr hanes a
geir yn y fuchedd, sef bod Dewi wedi bendithio dyfroedd Caerfaddon, gw. llau.
17‒22n (esboniadol).
Er iechyd i’r byd, y Badd.11
Llau. 17‒22. Yn ôl y bucheddau, roedd dyfroedd Caerfaddon yng Ngwlad yr Haf yn
wenwynig hyd nes y cawsant eu bendithio gan Ddewi, gan beri iddynt fod yn dwym,
gw. SDW 120‒1;
WLSD 4. Yn ôl
Brut Dingestow, sefydlwyd Caerfaddon gan ŵr o’r enw Bleiddudd fab Rhun (nid Rhun
fab Bleiddudd, fel y nodir yn ibid. 38), gw. BD 25‒6 A’r
gvr hvnv a adeilvs Caer Uadon ac [a] wnaeth yr enneint tvymyn yr
medeginyaeth y rei marwavl (ar y ffurf Bleiddyd,
gw. ll. 17n (testunol)). Ystyrir yr Ennaint yn enw priod
yma, sef Caerfaddon, yn unol â’r modd y trinnir yr Ennaint
Twym yng ngherddi Lewys Glyn Cothi ac Ieuan ap Rhydderch i Ddewi, gw.
DewiLGC ll. 17; DewiIRh ll. 48. Ar y dwfr … / … y Badd,
gw. GPC Ar
Lein d.g. y1 1 (i).
Am enghreifftiau eraill o’r Badd, sef Caerfaddon, gw.
GLGC 52.17,
94.67, 186.28; cf. ll. 78.
Er dy fagu’n gu, ’n oed gŵr ‒ o grefydd
Cyn gryfed â milwr,
25 Ansodd ni12
ni Dilynir Bodley Welsh e 7, C
3.4, Pen 77 a mwyafrif llawysgrifau X1, gthg. nis yn LlGC 3077B, Llst 120, Llst 173 a llawysgrifau
Llywelyn Siôn (X4) ac eithrio Llst 47. mynnodd meinwr,
Ni bu raid ond bara a dŵr.12
Llau. 23‒6. Yn ôl y bucheddau, ni fwytaodd Dewi ddim ond bara a dŵr drwy ei oes,
gw. SDW 108‒9;
WLSD 2. Ni
ddaethpwyd o hyd i gyfeiriad penodol arall at gryfder Dewi.
Ydd oedd13
Ydd oedd Dilynir yn betrus LlGC
6499B a Pen 77, gthg. yr oedd ym mhob llawysgrif arall ac
eithrio X4
rhai ddaeth. Gellid dilyn mwyafrif y llawysgrifau, a
rhoi’r orffwysfa ar ôl i’th (cf. llau. 4 a 26; CD 267) ond, gan mor
amhersain yw hynny, mae’n bosibl mai’r bai crych a llyfn a geid yn y darlleniad
hwnnw, gw. ibid. 145. Ar y llaw arall, amrywiai ffurf y geiryn rhagferfol yn bur
aml, a gall fod hynny wedi digwydd o gyfnod cynnar iawn yn yr achos hwn. i’th
bregeth ryw ddydd ‒ i’th ganmol
Wyth14
Wyth Mewn dwy lawysgrif yn unig
y ceir darlleniad gwahanol, sef Bodley Welsh e 7 a LlGC 6499B saith, efallai dan ddylanwad niferoedd tebyg sy’n cynnwys yr un
rhifolyn yng ngherddi Gwynfardd Brycheiniog, Iolo Goch ac Ieuan ap Rhydderch i
Ddewi, gw. DewiGB saith mil mawr a saith ugaint; DewiIG
ll. 61‒2 Chwemil, saith ugeinmil saint / Ac unfil;
DewiIRh ll. 81‒2 Saith ugain mil … / A saith mil. ugeinmil, Dafydd;
Doeth hyddod o gysgod gwŷdd
30 Draw i wrandaw yr undydd.15
Draw i wrandaw yr undydd Digon
cymysg yw tystiolaeth llawysgrifau grŵp A. Dilynir darlleniad Bodley Welsh e 7 a
Pen 77 draw i wrandaw yr vndydd, gthg. C 3.4 draw ith wrandaw yr vndydd, LlGC 3077B ith wrando wrth yr vndydd, Llst 120 i wrando yn yr
vndydd, Llst 173 [......]do yn yr vndydd. Ceir
darlleniad C 3.4 yn LlGC 6499B, ond y tebyg yw mai Draw i
wrandaw ’n yr undydd a geid yn X1. Mae’r
ffaith fod Draw yn creu cymeriad llythrennol d- yn y cwpled hwn yn ddadl o blaid y darlleniad hwnnw,
yn ogystal â’r ffaith fod mwyafrif y llawysgrifau yn ei gefnogi, ac felly hefyd
o ran i ac o ran hepgor yn.
13
Llau. 27‒30. Am hanes Dewi’n pregethu i’r tyrfaoedd yn y senedd yn
Llanddewibrefi, gw. SDW 144–7; WLSD 10–11. Ynghylch y niferoedd a fu’n gwrando arno, sef 160,000 yn
ôl Dafydd Llwyd, gw. ll. 28n (testunol). Yn yr englyn hwn y ceir yr unig
gyfeiriad hysbys at hyddod yn gwrando ar Ddewi’n pregethu. Yr ergyd yw y gellid
clywed geiriau Dewi o bell ac agos, cf. Lewys Glyn Cothi yn ei gerdd i Ddewi,
DewiIRh llau. 29‒30 A’th glau bregeth a glywynt, / Yn lle
gwir, yn Enlli gynt.
Cof ydiw yn ôl,16
Cof ydiw yn ôl Dilynir
llawysgrifau grŵp A (ni cheir y ll. hon yn LlGC 3077B), gthg. X1
Cofawdur a wnaeth, nad yw’n arbennig o synhwyrol.
cyfodi ‒ yn wir
Dan oror cwm Brefi
Yn dir tew dan dy draed di
Y17
Y Dilynir Bodley Welsh e 7 ac
X1, gthg. Llst 120, Llst 173, Pen 77, X2
yn (o bosibl drwy ystyried cwm
Brefi yn wrthrych y ferf, sy’n llai ystyrlon, neu o dan ddylanwad yn ar ddechrau’r ll. flaenorol), C 3.4 ar. Ni cheir y ll. hon yn LlGC 3077B.
ddaear yn Llanddewi.18 Llau.
1‒34. Ni cheir y llau. hyn yn Stowe 959.
14
Llau. 31‒4. Am hanes y tir lle saif eglwys Llanddewibrefi heddiw yn codi o dan
draed Dewi wrth iddo bregethu yn y senedd yno, gw. SDW 144–7; WLSD 10–11. Brefi
yw enw’r afon sy’n llifo drwy Landdewibrefi cyn ymuno ag afon Teifi i’r de o
Dregaron.
35Dewi, lle’r wyd, aed oll yr iaith,
Dyfod y mae rhyw adfyd maith,
Term19
Term Dilynir C 3.4, Llst 120,
Pen 77, X1, gthg. Bodley Welsh e 7, LlGC 3077B, Llst
173, Stowe 959, X2
trem. Bernir bod term ‘cyfnod’ yn
cyd-daro o ran ystyr ag adfyd maith yn y ll.
flaenorol. anghyfiaith
trwm, anghyfion.20
anghyfion Dilynir C 3.4 ac X1, gthg. Stowe 959 achovyon,
sef camddarlleniad, o bosibl, dan ddylanwad cof yn ll.
31, cf. X2
anghofion. Gall mai’r darlleniad cynganeddol wallus hwnnw
a gywirwyd yn Bodley Welsh e 7, LlGC 3077B, Llst 120, Llst 173, Pen 77 yw ’nghofion.
Dir i Gymry rhag drwg amraint
Draw dy foli, drud ofeiliaint,
40Ac wylo’r naint21
Ac wylo’r naint Dilynir yn
betrus fwyafrif y llawysgrifau, gthg. Bodley Welsh e 7, Stowe 959 ac X4
a gwylo’r naint. Gan mor debyg yw ac
wylo ac a gwylo (hynny yw, a
gwylio, gw. GPC Ar Lein d.g. gwyliaf), bernir
bod camrannu wedi digwydd o gyfnod cynnar. Bernir bod wylo’r
naint yn ddisgrifiad o’r weithred emosiynol o weddïo ar Ddewi a Non.
Ymddengys y defnydd o’r fannod yn chwithig ac, yn wir, ceir nifer o amrywiadau
yn safle’r fannod yn llawysgrifau grŵp A, sy’n awgrymu bod yr ystyr yn dywyll i
rai copïwyr: C 3.4 Ac wylaw arnnaint, Llst 120 Ac wyl or naint, Llst 173, Pen 77 ag
wylo or naint, Stowe 959 a gwiliaw ar naint.
Fodd bynnag, ceir rhai enghreifftiau eraill o ddefnyddio’r fannod mewn
cyd-destun tebyg yng ngwaith Dafydd Llwyd, gw. GDLl 6.3 Crïo’r lli wna’r crëyr llwyd, 31.17‒18 [A] chwarddo
ar Fercherddydd / A wyla’r dŵr yr ail dydd. Nid yw’n amhosibl, ar y
llaw arall, fod gwylo’r naint yn gyfeiriad brudiol at
gadw gwyliadwriaeth, cf. GDLl 24.31‒2 Aros bonedd ’r Ysbaenwyr, /
Gwylio môr, a galw am wŷr, 35.45‒6 Gŵyl Ddewi,
meddai’r Prïor, / Gwyliwch am waith gweilch y môr, 78.28 Gwyliwch o’r môr bwygilydd; GG.net 120.11‒12 Minnau ar farch, hybarch oedd, / Gwelw mawr, yn gwylaw
moroedd. a
galw ar Non.
Llawer gweddi rhag llwyr godded,
A blin oeddyn’22
oeddyn’ Dilynir darlleniad
mwyafrif y llawysgrifau, cf. LlGC 6499B ac X2
oeddynt; gthg. Llst 120 oeddwn,
Llst 173 oeddym, Stowe 959 oedded.
Ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7, C 3.4 a LlGC 3077B. heb
le nodded;23
heb le nodded Dilynir
llawysgrifau grŵp A (ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7, C 3.4 a LlGC
3077B), ac eithrio Stowe 959, sy’n rhannu’r un darlleniad ag X1
heb lonydded. Ni cheir llonydded
yn GPC Ar
Lein.
Dygn y’n rhodded ‒ dwg ni’n rhyddion!
Y sawl y sydd, a fu ac a fydd,
45Pob doeth, pob dydd y’n rhoed ni’n rhydd;24
Pob doeth, pob dydd y’n rhoed ni’n
rhydd Dilynir llawysgrifau grŵp A (ni cheir y ll. hon yn
Bodley Welsh e 7) ac eithrio Stowe 959, sy’n rhannu’r un darlleniad ag X1
Pawb doed pob dydd a rhoed ni’n rhydd. Amheuir bod y
darlleniad hwnnw wedi ei ddylanwadu gan orchest y beirdd, mesur a ddyfeisiwyd
gan Ddafydd ab Edmwnd er mwyn tynhau patrwm odli mesur y rhupunt, gw. CD 350 a’r
rhagymadrodd (sylwer hefyd fod [p]awb yn y ll. nesaf).
At bab y ffydd aed pawb25
aed pawb Ceid yn wreiddiol
dreiglad i’r goddrych ar ôl berf orchmynnol trydydd unigol, ond collwyd y
treiglad rywbryd yn ystod yr Oesoedd Canol, a cheir enghreifftiau mynych o
dreiglo ac o ddiffyg treiglo yng ngwaith y beirdd, gw. TC 211‒12. Adlewyrchir yr
amrywiaeth yn narlleniadau’r llawysgrifau – ceir y ffurf dreigledig bawb yn C 3.4, LlGC 3077B, Llst 120, Stowe 959, X3 (ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7). Y naill
ffordd neu’r llall, mae’r ll. yn gynganeddol anfoddhaol. Os darllenir bawb, atebir -t ar ddechrau’r ll.
gan -d yn yr ail hanner. Os darllenir pawb, caledir -d yn y gair o’i flaen, gan ateb
-t ar ddechrau’r ll., ond gadewir p- heb ei hateb, gw. CD 214 a throednodyn 8, lle dyfynnir ll. wallus gan Lewys
Glyn Cothi, Nid teg ydyw, nid cadarn, a gollfernir fel
enghraifft o dwyll gynghanedd. Felly yma hefyd, fe ymddengys. a’i ffon15
ffon Sef ffon wyrthiol Dewi, a
ddisgrifir fel [p]ab y ffydd yn y
ll. hon, cf. DewiGB ll. 186; DewiIG ll. 84; DewiIRh llau. 77‒8.!
Dyma’r amser y daw’r ymswrn,16
Dyma’r amser y daw’r ymswrn Ceir
m berfeddgoll yn hanner cyntaf y ll. hon.
A dewr yn ddig a dur ’n ei ddwrn;26
A dewr yn ddig a dur ’n ei ddwrn
Dilynir llawysgrifau grŵp A (ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7), a gefnogir
gan X4. Syrthiai’r orffwysfa ar ôl y drydedd sillaf
yn narlleniad X1
Dewr yn ddig a dur yn ei ddwrn. Syrth yr orffwysfa ar ôl
y bedwaredd sillaf ym mhob ll. wythsill arall yn yr awdl hon (ac eithrio ll. 58,
lle syrth ar ôl y bumed sillaf, gw. y nodyn testunol), ac ni welir rheswm i fynd
yn groes i’r arfer yn y ll. hon.
Enwir swrn yn yr oes hon.27
Enwir swrn yn yr oes hon Awgrym
clir y llawysgrifau yw mai ll. seithsill oedd hon o gyfnod cynnar iawn. Bernir
bod rhywrai wedi ceisio adfer y sillaf goll yn C 3.4 Enwir yw
swrn (enwir rhyw swrn, fe ymddengys), LlGC 3077B
ar enwir swrn, Llst 173 a genwi
swrn, Stowe 959 ag enwi Ryw swrn, X4
er enwi swrn. Fel rheol, ll. seithsill a geid yn ll. olaf
pennill o gywydd llosgyrnog (sef y ‘llosgwrn’, gw. CD 330) ac, er mai llau.
wythsill a geir ym mhob pennill arall yn yr awdl hon, nid yw’n amhosibl fod
Dafydd Llwyd wedi dychwelyd at yr hyd arferol yn y pennill hwn. Ceir hefyd ddau
ddarlleniad amrywiol yn ail hanner y ll.: C 3.4 ynaros
hon, LlGC 3077B ac X4
o’r ynys hon. Ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7.
50Ar bump a deg28
Ar bump a deg Dilynir C 3.4,
Stowe 959 a mwyafrif llawysgrifau X1, gthg. LlGC
3077B a Pen 77 Mae’n agos term o mynegir, Llst 120, Llst
173 ac X3
Y mae’n agos o mynegir (ni cheir y ll. hon yn Bodley
Welsh e 7). Ymddengys fod yr ystyr (gw. y nodyn esboniadol ar y ll. hon) yn
dywyll i rai copïwyr.
17
ar bump a deg Cynigir yn betrus
mai cyfeiriad cryptig yw hwn at bymtheg proffwyd dienw gynt a grybwyllir mewn
cywydd a ganodd Dafydd Llwyd i ateb Gruffudd ap Llywelyn Fychan, a ganodd gywydd
i ofyn am gyfarwyddyd gan Ddafydd ynghylch y canu brud, gw. GDLl 78.7‒8 Calon ddoeth, calyn ydd wyd / Priffordd y pymtheg proffwyd. Bernir bod
y dehongliad hwnnw’n fwy credadwy na’r posibiliadau eraill, sef bod Dafydd yn
cyfeirio at 1500, blwyddyn dyfodiad y mab darogan yn ôl testun rhyddiaith
‘Proffwydoliaeth y Wennol’ (ibid. 42.13‒16; Richards 1953: 244‒5), neu at
y traddodiad ymylol fod pymtheg enw am y mab darogan (GDLl 78.53‒4). Ceir trawiad
cynganeddol tebyg yng nghywydd Gruffudd i Ddafydd (Aeth
pymtheg, o mynegir), ond ymddengys mai cyfeirio a wneir yno at nifer y
misoedd neu flynyddoedd a aeth heibio ers rhyw ddigwyddiad pwysig yn y
gorffennol, onid nifer y lluoedd a aeth i ganlyn Harri Tudur, gw. ibid.
77.47‒52. y mynegir
Y wadd18
y wadd Anifail a ddynoda’n aml
Richard III mewn cyd-destun brudiol, ond nid yn ddieithriad. Mae’n amlwg mai
Richard a olygir mewn cywydd a ganodd Dafydd Llwyd ar ôl brwydr Bosworth, gw.
GDLl 25.1‒4
Mae’r goron ym mrig eryr, / Os gwir lladd y wadd a’i wŷr.
/ Cwncwerio mae’r cing Harri, / Coron aur, a’n caru ni. / Llyna feirdd yn
llawenach / Llwyddo’r byd a lladd R. bach. Felly hefyd yn achos awdl a
ganodd Lewys Glyn Cothi i Harri Tudur yn fuan wedi brwydr Bosworth, gw. GLGC 14.71‒2 y wadd a yrrodd yn weddus – i’r rhwyd, / y dydd y hypiwyd a
oedd hapus; cf. ibid. 15.71. Fodd bynnag, mae’n amlwg nad Richard eithr
rhyw elyn amhenodol a olygir mewn cywydd brud a ganodd Dafydd Gorlech i ofyn
march gan Rosier Fychan (dienyddiwyd Rhosier yn 1471), a hynny ar sail cyfeiriad
at y ỽadd velltigedig yn y testun rhyddiaith ‘Y
Broffwydoliaeth Fer’, gw. GDGor 2.33‒6 I’th iau flaen yr arf i’th
law / Ar fin dur a fyn daraw / Y wadd a fagwyd ar win / A’i phryder ar
gyffredin; Evans 1968: 121. Felly hefyd yn achos awdl gan Lewys Glyn
Cothi i Siasbar Tudur a ganwyd, yn ôl pob tebyg, yn fuan wedi brwydr Mortimer’s
Cross yn 1461, gw. GLGC 12.21‒3 Y blaidd a’i fab a leddir / … / a’r
wadd ieuanc o’r ddaear. Erys mwyafrif helaeth y cyfeiriadau brudiol at
wadd elyniaethus yn aml yn fwriadol annelwig, gw. GDLl 8.73, 89, 11.33, 14.14,
26.43‒6, 29.15, 31.5, 23, 28, 35.28, 36.58, 39.28, 40.10, 22‒4, 41.28‒30, 46,
42.40; GDGor
1.84, 5.63, 6.42, 70; GIBH 4.20; Evans 1997: 265. a ladd ac
a leddir;
Ef29
Ef Dilynir mwyafrif y
llawysgrifau, sef LlGC 3077B, Llst 120, Llst 173, Pen 77, X3, X4, gthg. C 3.4, LlGC
6499B, Stowe 959, X2
fo. Ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7. a welir mawr
ofalon.19
Ef a welir mawr ofalon Gellid
trin ef yn rhagenw a gyfeiria at y
wadd fel gelyn gwrywaidd (ll. 51n), ond mae’n fwy tebygol mai’r geiryn
berfol ydyw.
Gwŷr aflonydd, gwae’r Fêl Ynys!20
[y] Fêl Ynys Hen enw ar Ynys
Prydain, gw. target="../bibliography" type="bibl">TYP3 246, 248‒9.
Gwedi’r ymwrdd, gwaed ar emys
55A braw dyrys rhwng brodorion.
A chwys ar grys21
chwys ar grys Deellir chwys yn yr ystyr ‘sweat’ (cf. dwfr ym
mhais y llinell nesaf), ond gall mai cwys a
olygir yn yr ystyr drosiadol ‘hollt, clais, archoll, clwyf’, gw. GPC Ar Lein
d.g. cwys. a
chis ar groen,
A dwfr ym mhais a Deifr22
Deifr Hen deyrnas Deira yn yr
Hen Ogledd sy’n cyfateb yn fras i swydd Efrog heddiw, ond defnyddir yr enw am
Saeson yn gyffredinol gan y beirdd. ym mhoen,
A hoen a goroen ar y gwirion.30
A hoen a goroen ar y gwirion
Diau mai ll. nawsill oedd hon yn y gynsail. Y tebyg yw fod yr a cyntaf wedi ei hepgor yn fwriadol yn LlGC 6499B, lle ceir yr unig l.
wythsill. Gellid dadlau bod y darlleniad cywir wedi ei adfer yn y testun hwnnw,
a bod a yn ychwanegiad annilys yn y gynsail dan ddylanwad
a ar ddechrau dwy l. gyntaf y pennill hwn.
A bwrw y dreth a bair y drin,23
A bwrw y dreth a bair y drin
Ceir yr un trawiad cynganeddol gan Ddafydd Llwyd mewn englyn y ceir dau fersiwn
ohono yn GDLl
91.8 a 93.4 A bwrw treth a bair trin; cf. dau gwpled
tebyg gan Ddafydd Llwyd a Dafydd Gorlech, ibid. 75.31‒2 Cymell gwystlon uwch Conwy, / Cymell treth, a fu feth
fwy?; GDGor 6.47‒8 I fwrw treth oedd feth fwy /
Cynnen a fag uwch Conwy. Fel yr awgrymir yn ibid. 86, ymddengys fod y
cyfeiriadau brudiol hyn at dreth ormesol yn deillio o gyfeiriadau yn ‘Armes
Prydain’ at dreth y bu’n rhaid i dywysogion Cymry ei thalu i Athelstan, gw. Arm P xiii‒xiv;
cf. HSt 131, 135,
184 am gyfeiriadau eraill tebyg yn y canu cynnar.
60I drwsio gwŷr ar draws24
ar draws Gw. y cyfuniad yn GPC Ar Lein
d.g. traws (i) ‘across’, (iii) ‘in defiance of’. Dilynir
yr ail yma (cf. GDGor 6.65‒6 Tarw a’r frân yn taro’n frau / – Och
werin Lloegr o’r chwarae!), ond nid yw’r cyntaf yn amhosibl (yn yr
ystyr ‘y werin drwyddi draw’). gwerin
I wlad y gwin25
gwlad y gwin Roedd Ffrainc yn
enwog am ei gwin, ond nid ymddengys yn briodol ystyried mai at y wlad honno y
cyfeirir yma. Ai Gwynedd ydyw? Os y nefoedd a olygir, ymddengys mai ergyd y
pennill hwn yw nodi bod lladdfa fawr ar ei ffordd, ac y bydd niferoedd mawr o’r
lladdedigion, a ddisgrifir fel [b]lodau
gwynion, yn mynd i baradwys.,
flodau gwynion.
Gwelwch roi maes a31
a Dilynir Bodley Welsh e 7, C
3.4 a Pen 77. Ceir y fannod, fe ymddengys, yn narlleniad Stowe 959 ar gwailch. Efallai fod y gair hwnnw wedi ei gamddarllen
fel arddodiad mewn rhai llawysgrifau cynnar, gan arwain at ddarlleniad amheus
LlGC 3077B, Llst 120 ac X1
ar y. Ni ddisgwylid rhoi maes ar
eithr rhoi maes i. Ni cheir enghraifft i brofi hynny dan
y cyfuniad rho(dd)i maes yn GPC Ar Lein d.g. rhoddaf, ond cf. yr enghraifft gynharaf yno o’r cyfuniad
rho(dd)i cad yn GHC 1.1‒2 Ys
da hydd … / A ry cad i rai cedyrn.
gweilch o’r môr,26
gweilch o’r môr Arwydd brudiol,
sef byddin yn dod i dir, cf. GDLl 35.45‒6 Gŵyl Ddewi, meddai’r Prïor,
/ Gwyliwch am waith gweilch y môr.
A lliwio Tems,27
lliwio Tems Arwydd brudiol, sef
afon Tafwys yn rhedeg yn goch gan waed, cf. GDLl 6.17‒18 Tems a red t’yma sy ris, / O waed teulu plant Alis.
oerllyd dymor,
A bwrw blaenor, barabl union.
65Yn y dwyrain,28
yn y dwyrain Arwydd brudiol, sef
y mab darogan yn gwneud ei farc yn y dwyrain, cf. GDLl 4.33‒4 Gwylio’r hydd a galw y rhain / A wna daro’n y dwyrain, 37.45‒6 Yr ych gwâr, cyfeddgar, cain, / A dry’n darw draw’n y
dwyrain, 75.48 Dyred â’r sarff o’r dwyrain,
76.53‒4 Saer ffug, ni ddaeth [y] sarff fain / I’n tir gyda
gwynt dwyrain (Owain Tomas yn amau geirwiredd brud Dafydd Llwyd).
gannaid araul,
 chleddau hir, ymachludd haul,
Y mwya’i draul ym myd ar onn.
Dau a wyliwn32
wyliwn Dilynir LlGC 6499B ac
X3, a chymryd mai dyna a geid yn X1, gthg. X2
i wiliaw, X4
welwn. O ran llawysgrifau grŵp A, ceir darlleniad y
golygiad yn C 3.4, gthg. Llst 120, Llst 173 a Pen 77 welwn, LlGC 3077B welir (ni cheir y ll. hon yn
Bodley Welsh e 7 a Stowe 959). o’n
dialwyr
O’r ddau33
O’r ddau Dilynir LlGC 3077B,
Llst 120 a Llst 173, a gefnogir gan Pen 77 ac C 2.619 o
ddau (ni cheir yr arddodiad na’r fannod yng ngweddill llawysgrifau X4), gthg. C 3.4 odaw yn vn
(darlleniad carbwl), X1
o dan (ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7 a Stowe
959). Am yr ystyr, gw. y nodyn esboniadol ar y ll. hon. efyn29
o’r ddau efyn Arwydd brudiol,
sef dyfodiad dau gyn-garcharor i ennill y dydd, cf. GDLl 12.39‒42 Gwenddydd … a’i brawd, / … a ddyfawd / Y deuai Dduw, a dau
ddyn / Hynod i gyfod o’r gefyn, 41.65‒6 A gado had
gyda hyn / I’r ddeufab o’r ddau efyn, 75.44 Mae’r dyn
o’r gefyn a gair?; GDGor 1.87‒8 Oen a gyfyd o’n gefyn;
GIBH 4.55‒6
Dau a gyfyd o’u gefyn / I daith gyda mab y dyn. yn gofyn gwŷr,
70Daroganwyr mewn34
mewn Mae’n bosibl mai ll.
seithsill oedd hon yn y gynsail, cf. ll. 49n. Ni cheid unrhyw air rhwng daroganwyr a dur yn X1, a bernir mai dwy ymgais i adfer y sillaf goll a
geid yn X3
dyrau gwynion ac X4
a dur. Efallai mai ymgais debyg a geir yn llawysgrifau
grŵp A (a ddilynir yma), ond dyma’n sicr y darlleniad mwyaf ystyrlon (ni cheir y
ll. hon yn Bodley Welsh e 7, C 3.4 a Stowe 959).
dur gwynion.30
dur gwynion Dynoda dur yma ‘arfwisgoedd dur’, cf. GPC Ar Lein d.g. ‘arf(au)
dur’. Ymhellach ar ddur gwyn ‘white steel’, gw. OED s.v. white (fel ansoddair) 2 (b) ‘(of iron or steel armour)
burnished and shining, without colouring or stain’; Boardman 1998: 125.
Gwŷr a barant gau’r aberoedd31
Gwŷr a barant gau’r aberoedd
Arwydd brudiol, mae’n debyg, yn gysylltiedig â dyfodiad y mab darogan i dir, cf.
ll. 62n (esboniadol); GDLl 78.25‒8 A llu’n bwhwman pob lle / A gyrch cyn
torri’r gwarche / I saith brif aber y sydd; / Gwyliwch o’r môr
bwygilydd, 81.21‒2 Mae darogan a chanu / I’th aber
lawer o lu (i afon Dyfi).
Er biteilio i’r bateloedd
O du’r moroedd i dir Meirion32
i dir Meirion Arwydd brudiol,
sef dyfodiad y mab darogan i Feirionnydd o’r môr, cf. GDLl 11.15‒16 Ymaros y mae Meirion / Eryr mawr o oror Môn, 14.3‒4 a
39.17‒18 O Fair Wen, i Feirionnydd / Pa bryd y daw’r byd …
? Enwyd y cantref ar ôl Meirion ap Tybion, un o wyrion Cunedda, gw.
WCD 466..
Profi llyfnu33
llyfnu Effaith gweithgarwch mawr
yn nyfroedd neu ar diroedd yr arfordir a olygir yma, naill ai yn sgil dyfodiad y
mab darogan a’i lynges neu’r gwylio mynych amdano, cf. ll. 71n; GDGor 5.54n iôr yn llyfnu. prif
holl hafnau
75Wrth eu dial,34
wrth eu dial Cyfeirir yma, fe
dybir, at weithgarwch dialgar y gwŷr buddugoliaethus y
cyfeiriwyd atynt yn y pennill blaenorol.
byrth y Deau,
O Ddaugleddau i Gelyddon.35
O Ddaugleddau i Gelyddon Hynny
yw, o’r de-orllewin yr holl ffordd i orllewin yr Alban, cf. yr un trawiad
cynganeddol yn GG.net 114.25‒6 O Aber teg, lle beirw ton, /
Daugleddau hyd Gelyddon; DN XIV.12 o gelyddon hyd gleddav;
GLMorg
66.25‒6 Ofn arth Deheubarth o’i haber, – Dau Gledd, / Hyd
Gelyddon ofner; DN XIV.12 O Gelyddon hyd Gleddav.
Llygru dinas Lloegr36
dinas Lloegr Llundain, mae’n
debyg, cf. ll. 63n Tems. i danadd37
i danadd ‘O tanodd’, cf. GSCyf 10.33 Yn dyno glas i danadd (Llywelyn ab y Moel i Goed y Graig
Lwyd).
A gyrru’r byd ac oeri’r Badd,38
oeri’r Badd Arwydd brudiol, sef
oeri dyfroedd Caerfaddon (cf. ll. 22n), yn seiliedig ar ‘Proffwydoliaeth
Myrddin’ gan Sieffre o Fynwy, cf. GDLl 5.34 Bydd bur, mae’r badd heb
oeri, 11.34 Aro i’r byd oeri’r badd, 15.45‒6 Bydd cwyn am y badd cynnes, / Gwall i rai, fo gyll ei
wres, 38.47‒8 Aros haf a’i wres hefyd / I oeri’r
badd, hir yw’r byd.
A chilio’r wadd,39
[y] wadd Gw. ll. 51n.
uchel roddion.
80Llawer urddol mawr ei ddolur,
Llawer dug hael, llwyr y daw cur,
Llawer gwayw dur a llurig don.
Llawer baner i’r llawr beunydd,
Llawer gawr fawr yn Lloegr a fydd,
85Lle mae brau gwŷdd, llyma brig onn.40
Lle mae brau gwŷdd, llyma brig
onn Ymddengys mai’r ergyd yw bod unrhyw bren addas at y gwaith yn
cael ei ddefnyddio i wneud gwaywffyn. Disgwylid i brig
dreiglo yma, ond efallai fod gofynion y gynghanedd yn drech na gramadeg, gw.
TC 434.
Dewi, rydym er35
er Dilynir mwyafrif y
llawysgrifau, sef C 3.4 (ir), LlGC 3077B, Llst 120, Llst
173, Pen 77, Stowe 959, gthg. Bodley Welsh e 7 ac X1
ar (sylwer mai darlleniad y golygiad a geid yn X2). dy
radau,
Bywyd aerwyr,36
aerwyr Dilynir X3, a gefnogir, fe dybir, gan C 3.4 Evrrwyr a Pen 77 airwir. Roedd y gair hwn naill
ai’n aneglur yn y gynsail neu’n anghyfarwydd i drwch y copïwyr, onid y ddau, cf.
LlGC 3077B araith, LlGC 6499B a /n/
rhywyr, Llst 120 arwain, Llst 173 eirian, Stowe 959 oerrwyrr, X2
anrwyr, X4
aurer. Ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7. ar
baderau
Y Gwenerau41
y Gwenerau Fe gofid am
Ddioddefaint Crist ar ddydd Gwener yn draddodiadol, gan ymprydio drwy ymwrthod â
chig, gw. ODCC
645. ac yn
wirion.
I’th weddïaw dithau,37
dithau Dilynir X1, cf. Bodley Welsh e 7 teithoedd. Ni welir unrhyw ystyr foddhaol yn narlleniad LlGC 3077B,
Llst 120 a Stowe 959 weithiau, Llst 173 a Pen 77 weithian (gall fod gwall wedi digwydd drwy gamrannu weddïawdithau a chamddarllen d- am
e-). Ni cheir y ll. hon yn C 3.4. Ddewi,
90Rhydid unwaith, rhyw dadeni,
I’th rieni, athro union.42
rhieni Yn yr ystyr ‘tylwyth,
llwyth, cenedl, cyd-wladwyr’, gw. GPC Ar Lein d.g. rhieni (c).
Ac eleni, disgwyl Wynedd
Y cawn weled, can nialedd,
Yn gelanedd ein38
ein Dilynir darlleniad mwyafrif
y llawysgrifau, gthg. C 2.619, LlGC 970E, LlGC 3077B, Stowe 959, X2, X5
o’n, lle ymddengys y deellir celanedd fel ‘pentwr o gyrff meirwon’ (hynny yw, ‘pentwr o gyrff meirw
ein gelynion’), yn lle ‘cyrff marw’, ond ni cheir enghraifft o’r gair yn yr
ystyr honno cyn yr 16g., gw. GPC Ar Lein d.g. celain.
gelynion.
95Gelynion a drig eleni ‒ ’m mhob maes39
’m mhob maes Dilynir Bodley
Welsh e 7, C 3.4, Stowe 959, X1, gthg. LlGC 3077B,
Pen 77 i maes, Llst 120, Llst 173 yn y
maes. Efallai fod y darlleniadau amrywiol hyn yn deillio o ansicrwydd
ynghylch sillgolli ym, ynghyd â’r ffaith fod tair cytsain
heb eu hateb yn yr ail linell (caniateid cytseiniaid gwreiddgoll yn y cyrch, gw.
CD 281).
Cyn diwedd mis Medi;43
Cyn diwedd mis Medi Arwydd
brudiol, o bosibl, sef dyfodiad y mab darogan cyn diwedd y tymor cynaeafu. Ceir
adlais o’r un peth mewn cywydd gan Ddafydd Llwyd i Ddafydd ab Ieuan, cwnstabl
castell Harlech, GDLl 38.29‒30 Wedi’r ŵyl y daw’r eleirch / I dir
Cent, cyn medi’r ceirch, ond gall fod y cwpled hwnnw’n seiliedig ar
wybodaeth fanwl ynghylch dyfodiad Siasbar Tudur i Gymru yn syth wedi Gŵyl Ieuan
ddiwedd Mehefin 1468, gw. WWR2 99. Gall fod y llinell
hon hefyd yn seiliedig ar wybodaeth ynghylch glaniad tebygol Harri Tudur yn haf
1485, gw. y rhagymadrodd.
Pob tir maith, pawb o’n iaith
ni,
Pob tuedd, pawb at Dewi!
Dewi, cyn dy eni, ordeiniwyd man
ym Mynyw ar gyfer dy weddïo,
a Phadrig a aeth o Fynyw
i ymgartrefu y tu hwnt i’r porthladd acw.
5Pan ddaeth Non i’r eglwys, merch bur a
beichiog
o dywysog coeth ei air,
aeth y prelad o’i gadair
heb fedru pregethu gair.
Duw a’th fendithiodd ar y dydd y’th aned,
10pan gefaist dy enwi’n Ddafydd;
rhoddaist i’r gŵr dall, rhyw ymdeimlad o
oleuni,
ei olwg heb ddim anffurfiaeth.
Bwyteaist ran o’r dorth wen wrth giniawa,
achlysur ydoedd heb wenwyno,
15a’th gi, cyn syrthio un waith,
a’th frân a aeth i farw y pryd hwnnw.
Bleiddyd, pennaeth ar gyfoeth, a sylfaenodd
yr Ennaint yn ddirinwedd;
er mwyn gwared y gwledydd o afiechyd,
20bendithiaist, hyd nes y ffynnodd,
ddŵr mawr, di-fai Caerfaddon o’r pridd
er iechyd i bobl y byd.
Oddi ar dy fagu’n gariadus, yn oedran gŵr
crefyddol
cyn gryfed â milwr,
25ni ddymunodd y gŵr tal a thenau fwyd,
nid oedd angen ond bara a dŵr.
Roedd yn dy bregeth ryw ddydd yn dy ganmol
wyth ugain o filoedd, Dafydd;
daeth hyddod o gysgod coed
30i wrando acw yr un dydd.
Y cof yn wir ar ôl hyn ydyw codi
o dan lethr cwm Brefi
yn dir cadarn o dan dy draed di
y ddaear yn Llanddewi.
35Dewi, boed i’r holl genedl fynd i’r fan lle
rwyt,
mae rhyw adfyd mawr ar ddod,
cyfnod estronwr truenus ac anghyfiawn.
Rhag gwarth drwg, rheidrwydd ydyw i Gymry
dy foli acw, pryder enbyd,
40ac wylo’r nentydd a galw ar Non.
Llawer o weddïau rhag llid mawr,
a gofidus oeddynt heb noddfa;
fe’n rhoddwyd mewn cyflwr dybryd ‒ gwna ni’n
bobl rydd!
Y sawl y sydd, a fu ac a fydd,
45pob gŵr doeth, fe’n gwnaethpwyd yn rhydd bob
dydd;
boed i bawb fynd at bab y ffydd a’i ffon!
Dyma’r amser y daw’r ymladd,
a’r dewr yn ddig a dur yn ei ddwrn;
enwir llawer yn yr oes hon.
50Drwy bymtheg [proffwyd] y datgenir
y wadd sy’n lladd ac a gaiff ei lladd;
fe welir gofidiau mawr.
Gwŷr aflonydd, gwae’r Fêl Ynys!
Wedi’r hyrddio, bydd gwaed ar feirch rhyfel
55ac arswyd direolaeth rhwng brodorion.
A chwys ar grys a dyrnod ar groen,
a dŵr mewn tiwnig a Saeson mewn poen,
a llawenydd a gorfoledd i’r rhai cyfiawn.
A chael gwared ar y dreth a achosa’r frwydr,
60er mwyn mwstro gwŷr yn nannedd y werin
i wlad y gwin, flodau gwyn.
Gwelwch ymfrwydro a milwyr yn dod o’r môr,
a lliwio afon Tafwys, tymor oeraidd,
a gorchfygu pennaeth, ymadrodd gwir.
65Yn y dwyrain, ddisgleirdeb gloyw,
â chleddyfau hir, machlud haul,
yr un mwyaf ei wariant drwy’r byd ar
waywffyn.
Dau o’n dialwyr a wyliwn
[yn rhydd] o’r ddau lyffethair yn galw am
wŷr,
70meibion darogan mewn arfwisgoedd dur gloyw.
Gwŷr a achosant i’r aberau gau
er mwyn ymborthi ar gyfer brwydrau
o ymyl y moroedd i dir Meirion.
Gweld llyfnu’r holl brif borthladdoedd
75wrth gyflawni eu dial, byrth y De,
o Aberdaugleddau i Gelyddon.
Difetha dinas Lloegr islaw
ac erlid y byd ac oeri [dyfroedd]
Caerfaddon,
a gyrru’r wadd ar ffo, roddion ardderchog.
80Llawer marchog urddol mawr ei ddolur,
llawer dug hael, daw poen yn llwyr,
llawer gwaywffon ddur a llurig ddrylliog.
Llawer baner i’r llawr bob dydd,
llawer bloedd fawr yn Lloegr a fydd;
85lle mae pren dibrin, dyma impiau gwaywffyn.
Rydym, Dewi, er mwyn derbyn dy fendithion,
bywyd milwyr, yn defnyddio paderau
ar ddyddiau Gwener ac yn ddibechod.
Er mwyn gweddïo arnat tithau, Ddewi,
90 [boed] rhyddid unwaith, cenedl
ailenedigaeth,
i’th gyd-wladwyr, athro cyfiawn.
Ac eleni, disgwyliad pobl Gwynedd
yw y cawn weld, can dialedd,
ein gelynion yn gyrff marw.
95Gelynion a erys eleni ym mhob maes
cyn diwedd mis Medi;
pob tir maith, pawb o’n cenedl ni,
pob ardal, aed pawb at Ddewi!
1 cad Dilynir llawysgrifau grŵp A. Nid yw’r eglur beth a geid yn X1, a gall fod y darlleniad yn aneglur yno. Ceir darlleniad y golygiad yn LlGC 6499B, gthg. X2 cawn, X3 ac X4 caid.
2 ’m Mynyw Mae darlleniad C 3.4, X2 ac X3 ym Mynyw yn peri i’r llinell hon fod yn rhy hir o sillaf. Er ei bod yn rhesymol tybio y gellid amrywio nifer y sillafau a geid mewn toddaid byr, yn unol â’r modd y ceid amrywiaeth, yn achlysurol, yn hyd llau. o gywydd (cf. GSDT 25; CD 313), ni ddaethpwyd o hyd i enghraifft bendant o gyfrif mwy na chwe sillaf yn ail linell englyn (noder bod arfer Dafydd Llwyd yn gwbl gyson ym mhob englyn arall yn yr awdl hon). Bernir bod yr ystyriaeth honno wedi arwain at hepgor ym yn nhestunau nifer o’r llawysgrifau eraill, ond gall hefyd fod ’m yn ddealledig mewn ambell un, gan na chlywid y gair, i bob diben, wrth berfformio’r gerdd ar lafar. Yn wir, gall mai’r ffurf dalfyredig a fwriedid yn narlleniadau C 3.4, X2 ac X3.
3 yr hafn Dilynir darlleniad C 3.4, LlGC 970E, LlGC 3077B, LlGC 6499B, Llst 118, Pen 77, a rydd well ystyr na darlleniad Llst 47, Llst 120, Llst 173, X2 yr afon, gw. llau. 1‒4n (esboniadol); cf. ll. 74. Y ffaith fod yr afon yn peri i’r llinell fod yn rhy hir o sillaf a arweiniodd, yn ôl pob tebyg, at hepgor yr yn C 2.619, C 5.44 ac X5. Mae’r ffaith fod y ddau ddarlleniad i’w gweld ar draws y traddodiad llawysgrifol yn awgrymu bod dryswch yn y gynsail, efallai yn sgil defnydd o lafariad epenthetig, cf. darlleniad y llawysgrif gynharaf, C 3.4 yr havyn.
4 Ban ddoeth Non i’r deml, bun ddi-wair Dilynir llawysgrifau grŵp A, gthg. X1 Non a ddôi i’r deml yn ddiwair. Nid yw’r un o’r ddau ddarlleniad yn rhagori ar y llall o ran yr ystyr nac o ran y gynghanedd, ond rhoir mwy o goel yn y rhan hon o’r gerdd ar rai o ddarlleniadau grŵp A yn unol â’r ffaith fod darlleniad X1 ar gyfer ll. 13 yn ddiffygiol, gw. y nodyn testunol. At hynny, mae darlleniad grŵp A yn cydredeg yn esmwyth â’r darlleniad yn ll. 7 (hynny yw, Ban ddoeth Non … aeth y prelad), a gefnogir gan nifer o lawysgrifau sy’n deillio o X1, gw. y nodyn testunol. Sylwer mai Dewi yw’r gair cyntaf yn yr englyn blaenorol, a Duw yn yr englyn nesaf, a gallai hynny fod yn ateg o blaid darlleniad X1, lle ceir Non ar ddechrau’r ll. Ond gall hefyd mai copïydd X1 (neu gopïydd cynharach) a roes enw mam Dewi ar ddechrau’r ll., yn unol â’r dull yn llau. cyntaf y ddau englyn arall, gan na fedrai gofio’r darlleniad gwreiddiol.
5 Aeth y prelad Dilynir llawysgrifau grŵp A, ynghyd ag X3 a LlGC 6499B, gthg. X2 ac X4 a’r prelad aeth. Bernir bod y geiriau wedi eu haildrefnu yn X2 ac X4 i gyd-fynd â’r darlleniad yn ll. gyntaf yr englyn hwn yn X1, gw. y nodyn testunol (hynny yw, Non a ddôi … a’r prelad aeth).
6 Duw a’th ddonies ar y dydd – y’th aned Dilynir yn betrus lawysgrifau grŵp A. Fodd bynnag, gall mai ll. nawsill oedd hon o gyfnod cynnar, ac mai gwahanol ymgeision i adfer y sillaf a geir yn y llawysgrifau. Llinell nawsill a geir yn Bodley Welsh e 7 o’r dydd, a’r tebyg yw mai ll. nawsill a geid yn X1 hefyd, sef Duw a’th ddonies y dydd – y’th aned. Bernir mai dwy ymgais i geisio adfer y sillaf goll a geir yn X4 ac X5 a Duw ac yn LlGC 6499B, Llst 118 ac X2 a’th ddonies di. Cymhlethir pethau gan y ffaith mai ar y bumed sillaf y disgwylid i’r rhagwant syrthio yn ll. gyntaf englyn. Y gynghanedd sain a ddefnyddid gan amlaf yn y ll. honno (cf. ll. 1), ond yr un oedd yr arfer yn achos cynganeddion cytsain (cf. ll. 5), gw. CD 275‒7, 285‒6. Mae’n bosibl mai’r bwriad yn y ll. hon oedd lleoli’r rhagwant ar yr arddodiad ar, yn unol â’r modd y defnyddid arddodiad yn yr orffwysfa, o dro i dro, mewn cynganeddion cytsain, gw. ibid. 267; cf. llau. 4, 26. Fodd bynnag, sylwer bod ll. gyntaf yr englyn hwn ar ei hyd, yn cynnwys y gair cyrch, yn ffurfio cynghanedd gytsain, sy’n awgrymu’n gryf y dylid lleoli’r rhagwant, megis gorffwysfa, ar ôl ddonies, cf. ll. 31. Yn narlleniad X4 ac X5 yn unig y syrthiai’r rhagwant ar y bumed sillaf, a gall fod y darlleniad cywir wedi ei adfer yn y testunau hynny. Ond mae’r ffaith fod cynifer o lawysgrifau grŵp A o blaid darlleniad y golygiad yn awgrymu bod yr arfer o leoli’r rhagwant ar y bumed sillaf wedi ei hanwybyddu yn yr achos hwn, fel yn achos ll. 13 (gw. y nodyn testunol), cf. GGM 11.5, 13 (Dafydd Llwyd).
7 godrumydd Nid yw’n eglur beth a geid yn X1: X2 ac X3 godremydd, LlGC 6499B ac X4 godrymydd. Ceir amrywiaeth tebyg yn llawysgrifau grŵp A: LlGC 3077B ac Llst 173 godremydd, Bodley Welsh e 7, C 3.4, Llst 120, Pen 77 godrumydd. Llinell amhersain iawn yw Ei drem heb ddim godremydd (er nad ymddengys ei bod yn wallus, gw. CD 303‒4), gan ei bod ar y ffin rhwng cynghanedd draws a chynghanedd lusg, a hynny yn llinell olaf englyn, lle na chaniateir cynghanedd lusg. Bernir bod rhai copïwyr wedi darllen godremydd drwy gydweddiad â drem, ond gall hefyd fod nifer ohonynt yn anghyfarwydd â godrumydd, sy’n fwy ystyrlon, gan mai prin iawn yw’r enghreifftiau o’r gair, gw. llau. 9‒12n (esboniadol); cf. G 543 d.g. godrum.
8 Rhan o’r dorth gan ar ginio ‒ a lewaist Dilynir llawysgrifau grŵp A, gthg. X1 Rhoi rhan o’r dorth gan o’th ginio ‒ i lu. Nid yw’r un o’r ddau ddarlleniad yn rhagori ar y llall o ran y gynghanedd, ond sylwer bod y rhagwant yn syrthio ar y bumed sillaf, fel y disgwylid yn ll. gyntaf englyn, yn narlleniad X1, gw. y drafodaeth yn y nodyn testunol ar l. 9. Fodd bynnag, nid yw darlleniad X1 yn cyd-fynd â’r hanes yn y fuchedd, gw. llau. 13‒16n (esboniadol). Torrodd Dewi ddarn o fara gwenwynig yn dair rhan, gan roi un rhan i gi a rhan arall i frân, a bu farw’r ddau anifail yn y fan a’r lle, cf. llau. 15‒16. Ar ôl iddo fendithio’r drydedd ran, bwytaodd Dewi ef a bu fyw. Gall fod darlleniad X1 yn gyfeiriad unigryw at fersiwn gwahanol o’r hanes, lle rhoes Dewi’r trydydd darn o fara i’r dyrfa. Fodd bynnag, os ceid fersiwn gwahanol, ni thystir iddo yn yr un man arall. Mae’n fwy tebygol fod copïydd X1 (neu gopïydd cynharach) wedi anghofio rhannau o’r ll. hon ac, yn ei anwybodaeth, wedi mynd ati i’w hail-lunio yn unol â’r gred fod y seintiau’n borthwyr hael, er nad yw’n hynny’n amlwg iawn yn achos Dewi (gw. WSSPL 153‒4; cf. DewiLGC llau. 37‒8), gan achub ar y cyfle i leoli’r rhagwant ar y bumed sillaf. Gall hefyd fod dylanwad Rhoist yn ll. 11 ar y defnydd o Rhoi ar ddechrau’r ll. yn X1. At hynny, adleisir darlleniad llawysgrifau grŵp A yn y fuchedd Gymraeg, lle defnyddir y ferf llewa wrth ddisgrifio’r ci yn bwyta’r bara ac, mewn rhan arall, wrth ddisgrifio Dewi’n bwyta, gw. WLSD 7 A’r awr y llewas yr ast y bara, y bu allmarw, 2 Ac ny lewas Dewi vwyt namyn bara a dwfuyr; cf. ibid. 13 ny lawssant na bwyt na diawt.
9 tröi Ymddengys fod rhai copïwyr wedi newid y darlleniad yn sgil darllen y ffurf unsill troi, sy’n difetha’r gynghanedd: Llst 120, Llst 173, Pen 77 torri (camddarlleniad, efallai), X4 troddi, cf. ailwampio carbwl yn Bodley Welsh e 7 ath gig yn troi yn gan tro. Efallai fod ymgais i gyfleu’r ffurf ddeusill (ar y ffurf, gw. GMW 5) yn narlleniad LlGC 6499B ac X5 troi i.
10 Bleiddyd Dilynir mwyafrif y llawysgrifau, gthg. Bodley Welsh e 7, C 3.4, Llst 118, Pen 77 Bleiddudd, sef y ffurf a geir yn BD 25, gw. llau. 17‒22n (esboniadol).
11 Llau. 19‒21. Dilynir yn y llau. hyn y drefn a geir yn llawysgrifau grŵp A (ni cheir llau. 21‒2 yn Llst 120), gthg. X1, lle daw ll. 21 ar ôl ll. 18. Bernir bod hyn wedi achosi newid yn narlleniad ll. 21 yn X2 ac X3 Dwfr praff i dyfu o’r pridd (gall fod y ll. wedi ei dileu a’i hail-lunio yn nhestun X1 gan gopïydd diweddarach). Mynegir yn eglur yn nhrefn llau. llawysgrifau grŵp A yr hanes a geir yn y fuchedd, sef bod Dewi wedi bendithio dyfroedd Caerfaddon, gw. llau. 17‒22n (esboniadol).
12 ni Dilynir Bodley Welsh e 7, C 3.4, Pen 77 a mwyafrif llawysgrifau X1, gthg. nis yn LlGC 3077B, Llst 120, Llst 173 a llawysgrifau Llywelyn Siôn (X4) ac eithrio Llst 47.
13 Ydd oedd Dilynir yn betrus LlGC 6499B a Pen 77, gthg. yr oedd ym mhob llawysgrif arall ac eithrio X4 rhai ddaeth. Gellid dilyn mwyafrif y llawysgrifau, a rhoi’r orffwysfa ar ôl i’th (cf. llau. 4 a 26; CD 267) ond, gan mor amhersain yw hynny, mae’n bosibl mai’r bai crych a llyfn a geid yn y darlleniad hwnnw, gw. ibid. 145. Ar y llaw arall, amrywiai ffurf y geiryn rhagferfol yn bur aml, a gall fod hynny wedi digwydd o gyfnod cynnar iawn yn yr achos hwn.
14 Wyth Mewn dwy lawysgrif yn unig y ceir darlleniad gwahanol, sef Bodley Welsh e 7 a LlGC 6499B saith, efallai dan ddylanwad niferoedd tebyg sy’n cynnwys yr un rhifolyn yng ngherddi Gwynfardd Brycheiniog, Iolo Goch ac Ieuan ap Rhydderch i Ddewi, gw. DewiGB saith mil mawr a saith ugaint; DewiIG ll. 61‒2 Chwemil, saith ugeinmil saint / Ac unfil; DewiIRh ll. 81‒2 Saith ugain mil … / A saith mil.
15 Draw i wrandaw yr undydd Digon cymysg yw tystiolaeth llawysgrifau grŵp A. Dilynir darlleniad Bodley Welsh e 7 a Pen 77 draw i wrandaw yr vndydd, gthg. C 3.4 draw ith wrandaw yr vndydd, LlGC 3077B ith wrando wrth yr vndydd, Llst 120 i wrando yn yr vndydd, Llst 173 [......]do yn yr vndydd. Ceir darlleniad C 3.4 yn LlGC 6499B, ond y tebyg yw mai Draw i wrandaw ’n yr undydd a geid yn X1. Mae’r ffaith fod Draw yn creu cymeriad llythrennol d- yn y cwpled hwn yn ddadl o blaid y darlleniad hwnnw, yn ogystal â’r ffaith fod mwyafrif y llawysgrifau yn ei gefnogi, ac felly hefyd o ran i ac o ran hepgor yn.
16 Cof ydiw yn ôl Dilynir llawysgrifau grŵp A (ni cheir y ll. hon yn LlGC 3077B), gthg. X1 Cofawdur a wnaeth, nad yw’n arbennig o synhwyrol.
17 Y Dilynir Bodley Welsh e 7 ac X1, gthg. Llst 120, Llst 173, Pen 77, X2 yn (o bosibl drwy ystyried cwm Brefi yn wrthrych y ferf, sy’n llai ystyrlon, neu o dan ddylanwad yn ar ddechrau’r ll. flaenorol), C 3.4 ar. Ni cheir y ll. hon yn LlGC 3077B.
18 Llau. 1‒34. Ni cheir y llau. hyn yn Stowe 959.
19 Term Dilynir C 3.4, Llst 120, Pen 77, X1, gthg. Bodley Welsh e 7, LlGC 3077B, Llst 173, Stowe 959, X2 trem. Bernir bod term ‘cyfnod’ yn cyd-daro o ran ystyr ag adfyd maith yn y ll. flaenorol.
20 anghyfion Dilynir C 3.4 ac X1, gthg. Stowe 959 achovyon, sef camddarlleniad, o bosibl, dan ddylanwad cof yn ll. 31, cf. X2 anghofion. Gall mai’r darlleniad cynganeddol wallus hwnnw a gywirwyd yn Bodley Welsh e 7, LlGC 3077B, Llst 120, Llst 173, Pen 77 yw ’nghofion.
21 Ac wylo’r naint Dilynir yn betrus fwyafrif y llawysgrifau, gthg. Bodley Welsh e 7, Stowe 959 ac X4 a gwylo’r naint. Gan mor debyg yw ac wylo ac a gwylo (hynny yw, a gwylio, gw. GPC Ar Lein d.g. gwyliaf), bernir bod camrannu wedi digwydd o gyfnod cynnar. Bernir bod wylo’r naint yn ddisgrifiad o’r weithred emosiynol o weddïo ar Ddewi a Non. Ymddengys y defnydd o’r fannod yn chwithig ac, yn wir, ceir nifer o amrywiadau yn safle’r fannod yn llawysgrifau grŵp A, sy’n awgrymu bod yr ystyr yn dywyll i rai copïwyr: C 3.4 Ac wylaw arnnaint, Llst 120 Ac wyl or naint, Llst 173, Pen 77 ag wylo or naint, Stowe 959 a gwiliaw ar naint. Fodd bynnag, ceir rhai enghreifftiau eraill o ddefnyddio’r fannod mewn cyd-destun tebyg yng ngwaith Dafydd Llwyd, gw. GDLl 6.3 Crïo’r lli wna’r crëyr llwyd, 31.17‒18 [A] chwarddo ar Fercherddydd / A wyla’r dŵr yr ail dydd. Nid yw’n amhosibl, ar y llaw arall, fod gwylo’r naint yn gyfeiriad brudiol at gadw gwyliadwriaeth, cf. GDLl 24.31‒2 Aros bonedd ’r Ysbaenwyr, / Gwylio môr, a galw am wŷr, 35.45‒6 Gŵyl Ddewi, meddai’r Prïor, / Gwyliwch am waith gweilch y môr, 78.28 Gwyliwch o’r môr bwygilydd; GG.net 120.11‒12 Minnau ar farch, hybarch oedd, / Gwelw mawr, yn gwylaw moroedd.
22 oeddyn’ Dilynir darlleniad mwyafrif y llawysgrifau, cf. LlGC 6499B ac X2 oeddynt; gthg. Llst 120 oeddwn, Llst 173 oeddym, Stowe 959 oedded. Ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7, C 3.4 a LlGC 3077B.
23 heb le nodded Dilynir llawysgrifau grŵp A (ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7, C 3.4 a LlGC 3077B), ac eithrio Stowe 959, sy’n rhannu’r un darlleniad ag X1 heb lonydded. Ni cheir llonydded yn GPC Ar Lein.
24 Pob doeth, pob dydd y’n rhoed ni’n rhydd Dilynir llawysgrifau grŵp A (ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7) ac eithrio Stowe 959, sy’n rhannu’r un darlleniad ag X1 Pawb doed pob dydd a rhoed ni’n rhydd. Amheuir bod y darlleniad hwnnw wedi ei ddylanwadu gan orchest y beirdd, mesur a ddyfeisiwyd gan Ddafydd ab Edmwnd er mwyn tynhau patrwm odli mesur y rhupunt, gw. CD 350 a’r rhagymadrodd (sylwer hefyd fod [p]awb yn y ll. nesaf).
25 aed pawb Ceid yn wreiddiol dreiglad i’r goddrych ar ôl berf orchmynnol trydydd unigol, ond collwyd y treiglad rywbryd yn ystod yr Oesoedd Canol, a cheir enghreifftiau mynych o dreiglo ac o ddiffyg treiglo yng ngwaith y beirdd, gw. TC 211‒12. Adlewyrchir yr amrywiaeth yn narlleniadau’r llawysgrifau – ceir y ffurf dreigledig bawb yn C 3.4, LlGC 3077B, Llst 120, Stowe 959, X3 (ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7). Y naill ffordd neu’r llall, mae’r ll. yn gynganeddol anfoddhaol. Os darllenir bawb, atebir -t ar ddechrau’r ll. gan -d yn yr ail hanner. Os darllenir pawb, caledir -d yn y gair o’i flaen, gan ateb -t ar ddechrau’r ll., ond gadewir p- heb ei hateb, gw. CD 214 a throednodyn 8, lle dyfynnir ll. wallus gan Lewys Glyn Cothi, Nid teg ydyw, nid cadarn, a gollfernir fel enghraifft o dwyll gynghanedd. Felly yma hefyd, fe ymddengys.
26 A dewr yn ddig a dur ’n ei ddwrn Dilynir llawysgrifau grŵp A (ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7), a gefnogir gan X4. Syrthiai’r orffwysfa ar ôl y drydedd sillaf yn narlleniad X1 Dewr yn ddig a dur yn ei ddwrn. Syrth yr orffwysfa ar ôl y bedwaredd sillaf ym mhob ll. wythsill arall yn yr awdl hon (ac eithrio ll. 58, lle syrth ar ôl y bumed sillaf, gw. y nodyn testunol), ac ni welir rheswm i fynd yn groes i’r arfer yn y ll. hon.
27 Enwir swrn yn yr oes hon Awgrym clir y llawysgrifau yw mai ll. seithsill oedd hon o gyfnod cynnar iawn. Bernir bod rhywrai wedi ceisio adfer y sillaf goll yn C 3.4 Enwir yw swrn (enwir rhyw swrn, fe ymddengys), LlGC 3077B ar enwir swrn, Llst 173 a genwi swrn, Stowe 959 ag enwi Ryw swrn, X4 er enwi swrn. Fel rheol, ll. seithsill a geid yn ll. olaf pennill o gywydd llosgyrnog (sef y ‘llosgwrn’, gw. CD 330) ac, er mai llau. wythsill a geir ym mhob pennill arall yn yr awdl hon, nid yw’n amhosibl fod Dafydd Llwyd wedi dychwelyd at yr hyd arferol yn y pennill hwn. Ceir hefyd ddau ddarlleniad amrywiol yn ail hanner y ll.: C 3.4 ynaros hon, LlGC 3077B ac X4 o’r ynys hon. Ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7.
28 Ar bump a deg Dilynir C 3.4, Stowe 959 a mwyafrif llawysgrifau X1, gthg. LlGC 3077B a Pen 77 Mae’n agos term o mynegir, Llst 120, Llst 173 ac X3 Y mae’n agos o mynegir (ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7). Ymddengys fod yr ystyr (gw. y nodyn esboniadol ar y ll. hon) yn dywyll i rai copïwyr.
29 Ef Dilynir mwyafrif y llawysgrifau, sef LlGC 3077B, Llst 120, Llst 173, Pen 77, X3, X4, gthg. C 3.4, LlGC 6499B, Stowe 959, X2 fo. Ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7.
30 A hoen a goroen ar y gwirion Diau mai ll. nawsill oedd hon yn y gynsail. Y tebyg yw fod yr a cyntaf wedi ei hepgor yn fwriadol yn LlGC 6499B, lle ceir yr unig l. wythsill. Gellid dadlau bod y darlleniad cywir wedi ei adfer yn y testun hwnnw, a bod a yn ychwanegiad annilys yn y gynsail dan ddylanwad a ar ddechrau dwy l. gyntaf y pennill hwn.
31 a Dilynir Bodley Welsh e 7, C 3.4 a Pen 77. Ceir y fannod, fe ymddengys, yn narlleniad Stowe 959 ar gwailch. Efallai fod y gair hwnnw wedi ei gamddarllen fel arddodiad mewn rhai llawysgrifau cynnar, gan arwain at ddarlleniad amheus LlGC 3077B, Llst 120 ac X1 ar y. Ni ddisgwylid rhoi maes ar eithr rhoi maes i. Ni cheir enghraifft i brofi hynny dan y cyfuniad rho(dd)i maes yn GPC Ar Lein d.g. rhoddaf, ond cf. yr enghraifft gynharaf yno o’r cyfuniad rho(dd)i cad yn GHC 1.1‒2 Ys da hydd … / A ry cad i rai cedyrn.
32 wyliwn Dilynir LlGC 6499B ac X3, a chymryd mai dyna a geid yn X1, gthg. X2 i wiliaw, X4 welwn. O ran llawysgrifau grŵp A, ceir darlleniad y golygiad yn C 3.4, gthg. Llst 120, Llst 173 a Pen 77 welwn, LlGC 3077B welir (ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7 a Stowe 959).
33 O’r ddau Dilynir LlGC 3077B, Llst 120 a Llst 173, a gefnogir gan Pen 77 ac C 2.619 o ddau (ni cheir yr arddodiad na’r fannod yng ngweddill llawysgrifau X4), gthg. C 3.4 odaw yn vn (darlleniad carbwl), X1 o dan (ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7 a Stowe 959). Am yr ystyr, gw. y nodyn esboniadol ar y ll. hon.
34 mewn Mae’n bosibl mai ll. seithsill oedd hon yn y gynsail, cf. ll. 49n. Ni cheid unrhyw air rhwng daroganwyr a dur yn X1, a bernir mai dwy ymgais i adfer y sillaf goll a geid yn X3 dyrau gwynion ac X4 a dur. Efallai mai ymgais debyg a geir yn llawysgrifau grŵp A (a ddilynir yma), ond dyma’n sicr y darlleniad mwyaf ystyrlon (ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7, C 3.4 a Stowe 959).
35 er Dilynir mwyafrif y llawysgrifau, sef C 3.4 (ir), LlGC 3077B, Llst 120, Llst 173, Pen 77, Stowe 959, gthg. Bodley Welsh e 7 ac X1 ar (sylwer mai darlleniad y golygiad a geid yn X2).
36 aerwyr Dilynir X3, a gefnogir, fe dybir, gan C 3.4 Evrrwyr a Pen 77 airwir. Roedd y gair hwn naill ai’n aneglur yn y gynsail neu’n anghyfarwydd i drwch y copïwyr, onid y ddau, cf. LlGC 3077B araith, LlGC 6499B a /n/ rhywyr, Llst 120 arwain, Llst 173 eirian, Stowe 959 oerrwyrr, X2 anrwyr, X4 aurer. Ni cheir y ll. hon yn Bodley Welsh e 7.
37 dithau Dilynir X1, cf. Bodley Welsh e 7 teithoedd. Ni welir unrhyw ystyr foddhaol yn narlleniad LlGC 3077B, Llst 120 a Stowe 959 weithiau, Llst 173 a Pen 77 weithian (gall fod gwall wedi digwydd drwy gamrannu weddïawdithau a chamddarllen d- am e-). Ni cheir y ll. hon yn C 3.4.
38 ein Dilynir darlleniad mwyafrif y llawysgrifau, gthg. C 2.619, LlGC 970E, LlGC 3077B, Stowe 959, X2, X5 o’n, lle ymddengys y deellir celanedd fel ‘pentwr o gyrff meirwon’ (hynny yw, ‘pentwr o gyrff meirw ein gelynion’), yn lle ‘cyrff marw’, ond ni cheir enghraifft o’r gair yn yr ystyr honno cyn yr 16g., gw. GPC Ar Lein d.g. celain.
39 ’m mhob maes Dilynir Bodley Welsh e 7, C 3.4, Stowe 959, X1, gthg. LlGC 3077B, Pen 77 i maes, Llst 120, Llst 173 yn y maes. Efallai fod y darlleniadau amrywiol hyn yn deillio o ansicrwydd ynghylch sillgolli ym, ynghyd â’r ffaith fod tair cytsain heb eu hateb yn yr ail linell (caniateid cytseiniaid gwreiddgoll yn y cyrch, gw. CD 281).
1 Mynyw Am y faenor, gw. WATU 162.
2 hafn Cyfeiriad at y fan lle ymadawodd Padrig â Chymru ar long i Iwerddon, yn ôl y fuchedd Ladin, sef y Porth Mawr ger Tyddewi (nid enwir y porthladd yn y fuchedd Gymraeg), gw. WLSD 26‒7.
3 Llau. 1‒4. Yn ôl y bucheddau, rhybuddiwyd Padrig gan angel i beidio ag ymsefydlu yn y lle y byddai Tyddewi’n sefyll yn nes ymlaen, gan fod y lle hwnnw wedi ei neilltuo ar gyfer mab a fyddai’n cael ei eni ymhen deng mlynedd ar hugain, gw. SDW 110–13; WLSD 1–2 a’r nodyn ar dudalen 25. Deil y fuchedd a ysgrifennodd Rhygyfarch fod tad Dewi, Sant, yntau wedi ei rybuddio am ddyfodiad ei fab, gw. SDW 108–9.
4 di-wair ‒ feichiog Ymddengys yn ddisgrifiad rhyfedd o ferch a gawsai ei threisio (gw. llau. 5‒8n), ond sylwer bod y bucheddau’n pwysleisio purdeb sanctaidd Non, cf. WLSD 2 A gwr ny bu idi na chynt na gwedy; diweir oed hi o vedwl a gweithret.
5 O dwysog dewisair Gallai [t]wysog dewisair fod yn gyfeiriad at Sant, tad Dewi, gŵr y pwysleisir ei rinweddau yn y fuchedd Ladin (SDW 108‒9), ond mae’n fwy tebygol mai Dewi a olygir, ac yntau’n fab i frenin Ceredigion ac yn enwog am ei ddawn pregethu. O ran y defnydd o’r arddodiad o ar ôl beichiog, cf. GG.net 22.38 Tŷ beichiog o’r tai bychain.
6 Llau. 5‒8. Yn ôl y bucheddau, beichiogodd Non wedi iddi gael ei threisio gan Sant, brenin Ceredigion. Maes o law, aeth Non i wrando ar Gildas yn pregethu mewn eglwys, ond methodd hwnnw yngan yr un gair tra oedd hi yn yr adeilad, ac aeth y sant ymaith o Brydain er parch i’r baban a oedd yn ei chroth, gw. SDW 112‒15; WLSD 2‒3. Nid enwir yr eglwys ym mucheddau Dewi ond, ym muchedd Gildas gan Garadog o Lancarfan, lleolir yr un hanes mewn eglwys ar lan y môr ym Mhebidiog (sef y cantref lle saif Tyddewi, gw. WATU 170), a deil Gerallt Gymro fod yr eglwys mewn lle o’r enw Kanmorva neu Kairmorva, sef morfa i’r de o Dyddewi, o bosibl, gw. WLSD 31. Nid enwir Gildas yn y gerdd hon, ac nis enwir ychwaith mewn fersiynau cynnar o’r fuchedd Ladin, lle cyfeirir ato yn hytrach fel ‘rhyw athro’, gw. WLSD 28‒31 (Gildas sant ydyw yn y fuchedd Gymraeg, gw. ibid. 2). Ceir fersiwn arall o’r hanes ym muchedd y sant Gwyddelig, Ailbe, lle trewir rhyw sant yn fud yn sgil y ffaith fod mam Dewi, a hithau’n feichiog, yn y gynulleidfa, a hynny oherwydd na ddylai offeiriad ddathlu yng ngŵydd esgob heb ei ganiatâd, gw. ibid. 31. Diau mai ‘esgob’ yw ystyr prelad yn y gerdd hon (gw. GPC Ar Lein d.g.), eithr yr ergyd yw bod Dewi o radd bwysicach fyth.
7 Pan y’th enwyd Dafydd Yn y fuchedd Gymraeg yn unig y cyfeirir at enwi Dewi, gw. WLSD 2 a mab a anet idi, a Dauid a rodet yn enw arnaw.
8 dydd Sylwer bod yr hyn a ystyrir heddiw yn fai gwestodl yn yr englyn hwn, gan fod yr un gair wedi ei ddefnyddio ddwywaith yn y brifodl, gw. CD 306.
9 Llau. 9‒12. Yn ôl y fuchedd Gymraeg a’r fuchedd Ladin, cyflawnodd Dewi wyrthiau cyn ac ar ôl iddo gael ei eni, yn cynnwys peri i ffynnon wyrthiol godi o’r ddaear pan fedyddiwyd ef, a fu’n fodd i adfer golwg ac iacháu anffurfiaeth y sawl a ddaliai Dewi wrth iddo gael ei fedyddio, gw. SDW 116–17; WLSD 3. Ef yw’r dyn dall yma, sef sant o Wyddel, Mobí, yn ôl Rhygyfarch, a anwyd heb drwyn na llygaid ac a ddisgrifir fel wynepglawr yng ngherddi Gwynfardd Brycheiniog ac Iolo Goch i Ddewi, gw. ibid. 33–4; DewiGB llau. 158–61 ac ibid. n.; DewiIG llau. 37‒40. Diau mai disgrifiad o’r anffurfiaeth honno yw godrumydd yn ll. 12, sef un o dair enghraifft o’r gair a nodir yn GPC Ar Lein d.g. Gellir diystyru’r drydedd enghraifft, godrmydd, a geir yng ngeiriadur Henry Salesbury yn llawysgrif J 16 (16g./17g.) ac a gyplysir â’r gair Lladin cyfystyr vultus ‘wynepryd, wyneb’. Mae’n eglur mai godremydd ‘golwg, gwedd’ a olygir yno, gw. GPC Ar Lein d.g.; cf. ll. 12n (testunol). Dwy enghraifft ddilys sydd, felly, o’r gair godrumydd, a cheir yr enghraifft gynharaf yn rhamant Geraint fab Erbin, ac fe’i deellir yn gyfeiriad cyffredinol at gefngrymedd un o’r cymeriadau, gw. YGE 14 A gwedy hanner dyd y gvelynt godrumyd o dyn bychan ar uarch, 172 ‘hunchback’; cf. Ifans ac Ifans 2001: 227 ‘[d]yn bychan gwargrwm’; Davies 2007: 150 ‘a hunchback of a little man’. Fodd bynnag, ac ystyried y cyfeirir at yr un gŵr fel corr, a hwnnw’n un digon annymunol, ym mhob rhan arall o’r chwedl, mae’n bosibl mai cyfeiriad ydyw at ei anffurfiaeth corfforol cyffredinol, fel yn achos Mobí yn y gerdd hon, yn hytrach na siâp ei gefn. Efallai fod y dehongliad diweddar o’r gair yn y chwedl wedi ei ddylanwadu gan y ffaith fod y gŵr clwyfedig sy’n dilyn y corrach yn [f]archawc mawr gochrwm pennissel goathrist. Nodir ystod o ystyron posibl yn GPC Ar Lein d.g. godrumydd ‘cibddellni, dellni; cysgod, rhith; cefngrymedd’, eithr fe wnâi ‘anffurfiaeth’ y tro, gan ddeall godrum hefyd yn yr un modd. Nodir dwy enghraifft yn GPC Ar Lein d.g. godrum, a’r ddwy gan Ddafydd ap Gwilym, ond darganfuwyd yn ddiweddar fod un ohonynt yn ddi-sail, gw. DG.net 61.7n. Ceir yr ail enghraifft yng nghywydd Dafydd i’w gysgod, lle’i deellir yn ansoddair, gw. ibid. 63.23 Godrum gafr o’r un gyfrith ‘[Un] o’r un ymddangosiad â gafr gefngrom’. Diau mai enw ydyw, mewn gwirionedd, ac fe weddai ‘anffurfiaeth’ i’r cyd-destun, cf. ibid. 63.24‒6 Tebygach wyd, tebyg chwith, / I drychiolaeth hiraethlawn / Nog i ddyn mewn agwedd iawn.
10 Llau. 13‒16. Yn ôl y bucheddau, ceisiodd tri o fynachod Dewi ei ladd â bara gwenwynig, ond rhwystrwyd y cynllun gan un o ddisgyblion Dewi a deithiodd i Gymru o Iwerddon ar gefn anghenfil o’r môr er mwyn ei rybuddio. Pan ddaeth y cynllun i sylw Dewi, torrodd ef y bara gwenwynig yn dair rhan, gan roi un darn i gi (ast yn y fuchedd Gymraeg) a darn arall i frân. Bu farw’r ddau anifail ar amrantiad, ond bendithiodd Dewi’r trydydd darn a’i fwyta, a bu fyw, gw. SDW 132–5; WLSD 6–8. Noder bod a lewaist yn ll. gyntaf yr englyn hwn yn adleisio’r fuchedd Gymraeg, gw. ll. 13n (testunol).
11 Llau. 17‒22. Yn ôl y bucheddau, roedd dyfroedd Caerfaddon yng Ngwlad yr Haf yn wenwynig hyd nes y cawsant eu bendithio gan Ddewi, gan beri iddynt fod yn dwym, gw. SDW 120‒1; WLSD 4. Yn ôl Brut Dingestow, sefydlwyd Caerfaddon gan ŵr o’r enw Bleiddudd fab Rhun (nid Rhun fab Bleiddudd, fel y nodir yn ibid. 38), gw. BD 25‒6 A’r gvr hvnv a adeilvs Caer Uadon ac [a] wnaeth yr enneint tvymyn yr medeginyaeth y rei marwavl (ar y ffurf Bleiddyd, gw. ll. 17n (testunol)). Ystyrir yr Ennaint yn enw priod yma, sef Caerfaddon, yn unol â’r modd y trinnir yr Ennaint Twym yng ngherddi Lewys Glyn Cothi ac Ieuan ap Rhydderch i Ddewi, gw. DewiLGC ll. 17; DewiIRh ll. 48. Ar y dwfr … / … y Badd, gw. GPC Ar Lein d.g. y1 1 (i). Am enghreifftiau eraill o’r Badd, sef Caerfaddon, gw. GLGC 52.17, 94.67, 186.28; cf. ll. 78.
12 Llau. 23‒6. Yn ôl y bucheddau, ni fwytaodd Dewi ddim ond bara a dŵr drwy ei oes, gw. SDW 108‒9; WLSD 2. Ni ddaethpwyd o hyd i gyfeiriad penodol arall at gryfder Dewi.
13 Llau. 27‒30. Am hanes Dewi’n pregethu i’r tyrfaoedd yn y senedd yn Llanddewibrefi, gw. SDW 144–7; WLSD 10–11. Ynghylch y niferoedd a fu’n gwrando arno, sef 160,000 yn ôl Dafydd Llwyd, gw. ll. 28n (testunol). Yn yr englyn hwn y ceir yr unig gyfeiriad hysbys at hyddod yn gwrando ar Ddewi’n pregethu. Yr ergyd yw y gellid clywed geiriau Dewi o bell ac agos, cf. Lewys Glyn Cothi yn ei gerdd i Ddewi, DewiIRh llau. 29‒30 A’th glau bregeth a glywynt, / Yn lle gwir, yn Enlli gynt.
14 Llau. 31‒4. Am hanes y tir lle saif eglwys Llanddewibrefi heddiw yn codi o dan draed Dewi wrth iddo bregethu yn y senedd yno, gw. SDW 144–7; WLSD 10–11. Brefi yw enw’r afon sy’n llifo drwy Landdewibrefi cyn ymuno ag afon Teifi i’r de o Dregaron.
15 ffon Sef ffon wyrthiol Dewi, a ddisgrifir fel [p]ab y ffydd yn y ll. hon, cf. DewiGB ll. 186; DewiIG ll. 84; DewiIRh llau. 77‒8.
16 Dyma’r amser y daw’r ymswrn Ceir m berfeddgoll yn hanner cyntaf y ll. hon.
17 ar bump a deg Cynigir yn betrus mai cyfeiriad cryptig yw hwn at bymtheg proffwyd dienw gynt a grybwyllir mewn cywydd a ganodd Dafydd Llwyd i ateb Gruffudd ap Llywelyn Fychan, a ganodd gywydd i ofyn am gyfarwyddyd gan Ddafydd ynghylch y canu brud, gw. GDLl 78.7‒8 Calon ddoeth, calyn ydd wyd / Priffordd y pymtheg proffwyd. Bernir bod y dehongliad hwnnw’n fwy credadwy na’r posibiliadau eraill, sef bod Dafydd yn cyfeirio at 1500, blwyddyn dyfodiad y mab darogan yn ôl testun rhyddiaith ‘Proffwydoliaeth y Wennol’ (ibid. 42.13‒16; Richards 1953: 244‒5), neu at y traddodiad ymylol fod pymtheg enw am y mab darogan (GDLl 78.53‒4). Ceir trawiad cynganeddol tebyg yng nghywydd Gruffudd i Ddafydd (Aeth pymtheg, o mynegir), ond ymddengys mai cyfeirio a wneir yno at nifer y misoedd neu flynyddoedd a aeth heibio ers rhyw ddigwyddiad pwysig yn y gorffennol, onid nifer y lluoedd a aeth i ganlyn Harri Tudur, gw. ibid. 77.47‒52.
18 y wadd Anifail a ddynoda’n aml Richard III mewn cyd-destun brudiol, ond nid yn ddieithriad. Mae’n amlwg mai Richard a olygir mewn cywydd a ganodd Dafydd Llwyd ar ôl brwydr Bosworth, gw. GDLl 25.1‒4 Mae’r goron ym mrig eryr, / Os gwir lladd y wadd a’i wŷr. / Cwncwerio mae’r cing Harri, / Coron aur, a’n caru ni. / Llyna feirdd yn llawenach / Llwyddo’r byd a lladd R. bach. Felly hefyd yn achos awdl a ganodd Lewys Glyn Cothi i Harri Tudur yn fuan wedi brwydr Bosworth, gw. GLGC 14.71‒2 y wadd a yrrodd yn weddus – i’r rhwyd, / y dydd y hypiwyd a oedd hapus; cf. ibid. 15.71. Fodd bynnag, mae’n amlwg nad Richard eithr rhyw elyn amhenodol a olygir mewn cywydd brud a ganodd Dafydd Gorlech i ofyn march gan Rosier Fychan (dienyddiwyd Rhosier yn 1471), a hynny ar sail cyfeiriad at y ỽadd velltigedig yn y testun rhyddiaith ‘Y Broffwydoliaeth Fer’, gw. GDGor 2.33‒6 I’th iau flaen yr arf i’th law / Ar fin dur a fyn daraw / Y wadd a fagwyd ar win / A’i phryder ar gyffredin; Evans 1968: 121. Felly hefyd yn achos awdl gan Lewys Glyn Cothi i Siasbar Tudur a ganwyd, yn ôl pob tebyg, yn fuan wedi brwydr Mortimer’s Cross yn 1461, gw. GLGC 12.21‒3 Y blaidd a’i fab a leddir / … / a’r wadd ieuanc o’r ddaear. Erys mwyafrif helaeth y cyfeiriadau brudiol at wadd elyniaethus yn aml yn fwriadol annelwig, gw. GDLl 8.73, 89, 11.33, 14.14, 26.43‒6, 29.15, 31.5, 23, 28, 35.28, 36.58, 39.28, 40.10, 22‒4, 41.28‒30, 46, 42.40; GDGor 1.84, 5.63, 6.42, 70; GIBH 4.20; Evans 1997: 265.
19 Ef a welir mawr ofalon Gellid trin ef yn rhagenw a gyfeiria at y wadd fel gelyn gwrywaidd (ll. 51n), ond mae’n fwy tebygol mai’r geiryn berfol ydyw.
20 [y] Fêl Ynys Hen enw ar Ynys Prydain, gw. target="../bibliography" type="bibl">TYP3 246, 248‒9.
21 chwys ar grys Deellir chwys yn yr ystyr ‘sweat’ (cf. dwfr ym mhais y llinell nesaf), ond gall mai cwys a olygir yn yr ystyr drosiadol ‘hollt, clais, archoll, clwyf’, gw. GPC Ar Lein d.g. cwys.
22 Deifr Hen deyrnas Deira yn yr Hen Ogledd sy’n cyfateb yn fras i swydd Efrog heddiw, ond defnyddir yr enw am Saeson yn gyffredinol gan y beirdd.
23 A bwrw y dreth a bair y drin Ceir yr un trawiad cynganeddol gan Ddafydd Llwyd mewn englyn y ceir dau fersiwn ohono yn GDLl 91.8 a 93.4 A bwrw treth a bair trin; cf. dau gwpled tebyg gan Ddafydd Llwyd a Dafydd Gorlech, ibid. 75.31‒2 Cymell gwystlon uwch Conwy, / Cymell treth, a fu feth fwy?; GDGor 6.47‒8 I fwrw treth oedd feth fwy / Cynnen a fag uwch Conwy. Fel yr awgrymir yn ibid. 86, ymddengys fod y cyfeiriadau brudiol hyn at dreth ormesol yn deillio o gyfeiriadau yn ‘Armes Prydain’ at dreth y bu’n rhaid i dywysogion Cymry ei thalu i Athelstan, gw. Arm P xiii‒xiv; cf. HSt 131, 135, 184 am gyfeiriadau eraill tebyg yn y canu cynnar.
24 ar draws Gw. y cyfuniad yn GPC Ar Lein d.g. traws (i) ‘across’, (iii) ‘in defiance of’. Dilynir yr ail yma (cf. GDGor 6.65‒6 Tarw a’r frân yn taro’n frau / – Och werin Lloegr o’r chwarae!), ond nid yw’r cyntaf yn amhosibl (yn yr ystyr ‘y werin drwyddi draw’).
25 gwlad y gwin Roedd Ffrainc yn enwog am ei gwin, ond nid ymddengys yn briodol ystyried mai at y wlad honno y cyfeirir yma. Ai Gwynedd ydyw? Os y nefoedd a olygir, ymddengys mai ergyd y pennill hwn yw nodi bod lladdfa fawr ar ei ffordd, ac y bydd niferoedd mawr o’r lladdedigion, a ddisgrifir fel [b]lodau gwynion, yn mynd i baradwys.
26 gweilch o’r môr Arwydd brudiol, sef byddin yn dod i dir, cf. GDLl 35.45‒6 Gŵyl Ddewi, meddai’r Prïor, / Gwyliwch am waith gweilch y môr.
27 lliwio Tems Arwydd brudiol, sef afon Tafwys yn rhedeg yn goch gan waed, cf. GDLl 6.17‒18 Tems a red t’yma sy ris, / O waed teulu plant Alis.
28 yn y dwyrain Arwydd brudiol, sef y mab darogan yn gwneud ei farc yn y dwyrain, cf. GDLl 4.33‒4 Gwylio’r hydd a galw y rhain / A wna daro’n y dwyrain, 37.45‒6 Yr ych gwâr, cyfeddgar, cain, / A dry’n darw draw’n y dwyrain, 75.48 Dyred â’r sarff o’r dwyrain, 76.53‒4 Saer ffug, ni ddaeth [y] sarff fain / I’n tir gyda gwynt dwyrain (Owain Tomas yn amau geirwiredd brud Dafydd Llwyd).
29 o’r ddau efyn Arwydd brudiol, sef dyfodiad dau gyn-garcharor i ennill y dydd, cf. GDLl 12.39‒42 Gwenddydd … a’i brawd, / … a ddyfawd / Y deuai Dduw, a dau ddyn / Hynod i gyfod o’r gefyn, 41.65‒6 A gado had gyda hyn / I’r ddeufab o’r ddau efyn, 75.44 Mae’r dyn o’r gefyn a gair?; GDGor 1.87‒8 Oen a gyfyd o’n gefyn; GIBH 4.55‒6 Dau a gyfyd o’u gefyn / I daith gyda mab y dyn.
30 dur gwynion Dynoda dur yma ‘arfwisgoedd dur’, cf. GPC Ar Lein d.g. ‘arf(au) dur’. Ymhellach ar ddur gwyn ‘white steel’, gw. OED s.v. white (fel ansoddair) 2 (b) ‘(of iron or steel armour) burnished and shining, without colouring or stain’; Boardman 1998: 125.
31 Gwŷr a barant gau’r aberoedd Arwydd brudiol, mae’n debyg, yn gysylltiedig â dyfodiad y mab darogan i dir, cf. ll. 62n (esboniadol); GDLl 78.25‒8 A llu’n bwhwman pob lle / A gyrch cyn torri’r gwarche / I saith brif aber y sydd; / Gwyliwch o’r môr bwygilydd, 81.21‒2 Mae darogan a chanu / I’th aber lawer o lu (i afon Dyfi).
32 i dir Meirion Arwydd brudiol, sef dyfodiad y mab darogan i Feirionnydd o’r môr, cf. GDLl 11.15‒16 Ymaros y mae Meirion / Eryr mawr o oror Môn, 14.3‒4 a 39.17‒18 O Fair Wen, i Feirionnydd / Pa bryd y daw’r byd … ? Enwyd y cantref ar ôl Meirion ap Tybion, un o wyrion Cunedda, gw. WCD 466.
33 llyfnu Effaith gweithgarwch mawr yn nyfroedd neu ar diroedd yr arfordir a olygir yma, naill ai yn sgil dyfodiad y mab darogan a’i lynges neu’r gwylio mynych amdano, cf. ll. 71n; GDGor 5.54n iôr yn llyfnu.
34 wrth eu dial Cyfeirir yma, fe dybir, at weithgarwch dialgar y gwŷr buddugoliaethus y cyfeiriwyd atynt yn y pennill blaenorol.
35 O Ddaugleddau i Gelyddon Hynny yw, o’r de-orllewin yr holl ffordd i orllewin yr Alban, cf. yr un trawiad cynganeddol yn GG.net 114.25‒6 O Aber teg, lle beirw ton, / Daugleddau hyd Gelyddon; DN XIV.12 o gelyddon hyd gleddav; GLMorg 66.25‒6 Ofn arth Deheubarth o’i haber, – Dau Gledd, / Hyd Gelyddon ofner; DN XIV.12 O Gelyddon hyd Gleddav.
36 dinas Lloegr Llundain, mae’n debyg, cf. ll. 63n Tems.
37 i danadd ‘O tanodd’, cf. GSCyf 10.33 Yn dyno glas i danadd (Llywelyn ab y Moel i Goed y Graig Lwyd).
38 oeri’r Badd Arwydd brudiol, sef oeri dyfroedd Caerfaddon (cf. ll. 22n), yn seiliedig ar ‘Proffwydoliaeth Myrddin’ gan Sieffre o Fynwy, cf. GDLl 5.34 Bydd bur, mae’r badd heb oeri, 11.34 Aro i’r byd oeri’r badd, 15.45‒6 Bydd cwyn am y badd cynnes, / Gwall i rai, fo gyll ei wres, 38.47‒8 Aros haf a’i wres hefyd / I oeri’r badd, hir yw’r byd.
39 [y] wadd Gw. ll. 51n.
40 Lle mae brau gwŷdd, llyma brig onn Ymddengys mai’r ergyd yw bod unrhyw bren addas at y gwaith yn cael ei ddefnyddio i wneud gwaywffyn. Disgwylid i brig dreiglo yma, ond efallai fod gofynion y gynghanedd yn drech na gramadeg, gw. TC 434.
41 y Gwenerau Fe gofid am Ddioddefaint Crist ar ddydd Gwener yn draddodiadol, gan ymprydio drwy ymwrthod â chig, gw. ODCC 645.
42 rhieni Yn yr ystyr ‘tylwyth, llwyth, cenedl, cyd-wladwyr’, gw. GPC Ar Lein d.g. rhieni (c).
43 Cyn diwedd mis Medi Arwydd brudiol, o bosibl, sef dyfodiad y mab darogan cyn diwedd y tymor cynaeafu. Ceir adlais o’r un peth mewn cywydd gan Ddafydd Llwyd i Ddafydd ab Ieuan, cwnstabl castell Harlech, GDLl 38.29‒30 Wedi’r ŵyl y daw’r eleirch / I dir Cent, cyn medi’r ceirch, ond gall fod y cwpled hwnnw’n seiliedig ar wybodaeth fanwl ynghylch dyfodiad Siasbar Tudur i Gymru yn syth wedi Gŵyl Ieuan ddiwedd Mehefin 1468, gw. WWR2 99. Gall fod y llinell hon hefyd yn seiliedig ar wybodaeth ynghylch glaniad tebygol Harri Tudur yn haf 1485, gw. y rhagymadrodd.